Gwybodaeth am Taccle2.

Prif gynnyrch y cywaith cyntaf (www. taccle.eu) oedd llawlyfr i athrawon i’w helpu i integreiddio e-ddysgu yn eu harfer broffesiynol. Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi ar sail y llaw- lyfr hefyd. Roedd yr adborth a gafwyd gan athrawon yn arbennig o dda ond teimlant hefyd fod bylchau yn y gwaith. Yn benodol, roedd nifer fawr o athrawon yn ei chael hi’n anodd i drosglwyddo’r syniadau i’w pynciau neu eu sectorau nhw.

ymatebiad i’r bwlch yn y cywaith cyntaf yw TACCLE2!

Mae ein gwefan yn llawn dop gyda syniadau a gweithgareddau ar gyfer Web 2.0 yn eich dosbarth chi.

  • Rhowch gynnig ar y gweithgareddau
  • Cynigwch sylwadau
  • Ychwanegwch syniadau eich hun
  • Dewch i gwrdd â phobl unfryd
  • Rhannwch wybodaeth am y wefan gydag eraill!

Ceisiwn…

  • Paratoi deunyddiau a syniadau wedi eu cynhyrchu ar gyfer pob pwnc cwricwlaidd ac i bob ystod oedran.
  • Cynnig cyfle i chi ymuno â ni ac i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddo ddatblygu
  • Cynnig cyrsiau hyfforddi cyflewnol trwy gyfrwng y Gymraeg yn seiliedig ar y llawlyfr.
  • Cynnig mynediad i ddeunyddiau ar y we ar gyfer e-ddysgu.
  • Cynnig cyfleoedd i ymuno â rhwydwaith o gydweithwyr unfryd ledled Ewrop.
  • Mwy o wybodaeth: Defnyddiwch y ffurflen yma.

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian