Chwilio Chwim!

Savvy SearchingTrosolwg
Peiriant chwilio yw WolframAlpha, ac mae’n gweithio mewn ffordd gwbl wahanol i Google, dyweder. Tra bydd peiriannau chwilio eraill yn darparu llwythi o ganlyniadau ar ffurf tudalennau gwe – a llawer ohonynt yn rhy fanwl ac anodd i ddysgwyr eu darllen a chanfod yr hyn sydd arnynt ei eisiau – mae’r canlyniadau ar WolframAlpha yn fwy eglur ac yn llawer llai geiriog. Mae hefyd yn gyfle da i gyflwyno’r syniad i blant bod llawer o chwilotwyr gwahanol ar gael.

Disgrifiad
Mae’r peiriant chwilio gwyddonol hwn yn wych i ddysgwyr sydd am gael data neu wybodaeth am themâu ‘technegol’ penodol, e.e. gwledydd, anifeiliaid, pobl enwog, deunyddiau. Er enghraifft, efallai y byddwch am iddynt ysgrifennu project ar y gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd, neu gasglu data ar un pwnc yn benodol ar gyfer gwers fathemateg, e.e. poblogaethau gwledydd Ewrop.

Dechreuwch trwy ofyn i’r dysgwyr fynd i hafan WolframAlpha. Yna gofynnwch iddynt deipio allweddair, cwestiwn neu hafaliad mathemategol yn y blwch o dan ‘Enter what you want to calculate or know about’. Cliciwch ar y symbol ‘=’ i gael y canlyniadau.

Bydd WolframAlpha yn rhoi canlyniadau ar gyfer gwahanol ystyron y gair, e.e. os ydych chi’n teipio ‘France’ byddwch chi’n cael gwybodaeth a data yn ymwneud â’r wlad, e.e. baner, lleoliad ar fap, poblogaeth ac ati. Fodd bynnag, fe fydd hefyd yn rhoi ystyron eraill i chi y gallwch chi chwilio amdanynt, e.e. ‘a given name’. Bydd clicio ar hwn yn llwytho tudalen wahanol a chanlyniad gwahanol. Yn yr enghraifft hon, mae’n rhoi amlinelliad o ‘France’ fel ‘female given name in the US’.

Mae’r gair ‘banana’ yn un arall da i roi cynnig arno – mae’n rhoi tua 5 neu 6 o ddiffiniadau gwahanol o’r gair a gallwch chi chwilio am unrhyw un ohonynt a chael canlyniadau annisgwyl.

Rydym ni hefyd yn hoffi’r cwestiynau bach difyr sy’n ymddangos ar ochr chwith y sgrin. Gallwch chi glicio arnynt i gael yr atebion.

Beth sydd ei angen arnaf i?
Bydd angen tiwtorial cyflym iawn ar y disgyblion – 10 munud ar y mwyaf!

Gwerth ychwanegol
Rydym ni i gyd wedi cael y profiad o ofyn i blant iau ddefnyddio’r rhyngrwyd i gasglu ac anodi gwybodaeth… nid yw bob amser yn rhwydd iddynt. Er bod WolframAlpha yn beiriant chwilio pwerus iawn a gynlluniwyd ar gyfer gwyddonwyr, hwn yw’r un rhwyddaf i blant ei ddefnyddio o hyd. Pan fyddwch chi wedi addysgu’ch dosbarth sut i’w ddefnyddio, bydd gwersi dilynol yn symud yn gyflymach oherwydd ni fydd chwilio’n ddryslyd ac yn ofer ar y rhyngrwyd yn tynnu sylw’r plant.

Awgrymiadau
Gwnewch yn siŵr fod y disgyblion yn barod ac yn gwybod pa wybodaeth benodol sydd ei hangen arnynt. Aseswch pa mor effeithlon ydynt o ran dod o hyd i’r wybodaeth hon, a byddwch wrth law i’w hatgoffa o’u tasg rhag ofn y bydd gwybodaeth amherthnasol yn tynnu eu sylw.

Mae WolframAlpha yn wych ar gyfer gwybodaeth a data gwyddonol. Mae’n wrthrychol ac yn ffeithiol heb wneud unrhyw ddyfarniadau ynglŷn â gwerth na mynegi barn. Mae hefyd yn cael gafael ar wybodaeth gyfredol, e.e. y tywydd yn Llundain heddiw. Fodd bynnag, er ei fod yn adnodd gwych, ac yn tyfu’n gyflym, mae bylchau ynddo o hyd – felly defnyddiwch ef i chwilio am y pynciau eich hun ymlaen llaw.

Gallai’r offeryn hwn fod yn ddefnyddiol iawn i blant dyslecsig. Yn ogystal, gallech chi gyfuno’r defnydd o WolframAlpha â meddalwedd a gynlluniwyd i gynorthwyo pobl ag anawsterau dysgu. (http://lab.clcworld.net/clc_star/clc_star.html). Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis sut maen nhw eisiau i dudalennau gael eu cyflwyno iddynt. Mae rhai o’i nodweddion yn cynnwys y gallu i wneud delweddau’n fwy, newid maint y ffont, lliw ac arddull y blaendir/cefndir, gwneud dangosydd y cyrchwr yn fwy amlwg, addasu’r gofod rhwng llinellau a geiriau, diffodd dalennau arddull a delweddau cefndir.

Diogelwch
Dim byd i boeni amdano! Hyd yn oed petai’ch angylion bach yn teipio gair amheus fel ‘sex’ yn y blwch chwilio yn llechwraidd, yn wahanol i beiriannau chwilio eraill, ni fyddant yn cael eu peledu gan ddelweddau di-ri na fyddech am iddynt eu gweld!

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Arbrofwch drwy roi cynnig ar y dulliau eraill o chwilio o dan y blwch chwilio, e.e. Image Input a Data Input.
• Chwaraewch gemau, e.e. pwy sy’n gallu dod o hyd i’r enw Lladin am ddeg anifail yn gyntaf?
• Edrychwch ar y cwestiynau bach difyr sy’n ymddangos ar ochr chwith y sgrin – cliciwch arnynt i gael yr atebion.
• Lluniwch gwis WolframAlpha – gyda chwestiynau fel “Faint mae miliwn o geiniogau’n pwyso?” (“How much do a million pennies weigh?”) (defnyddiwch yr holl gwestiynau difyr ar ochr chwith y sgrin).

This post is also available in: English, German, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.