Amser a Ddengys.

Time is an IllusionOedran 9–12 oed

Rhwyddineb ***

Trosolwg

Mae deall sut mae’r byd a phopeth o’i fewn yn newid dros amser yn hanfodol i ddeall y cysyniad o ddiwrnod, wythnos, tymor a blwyddyn, a chysyniad cyffredinol ‘amser’. Bydd y plant yn cael cyfle i ddadansoddi sut mae gwrthrych yn newid dros amser, boed hynny’n blanhigyn yn tyfu, cysgodion yn newid trwy gydol y dydd neu, yn yr achos hwn, afal yn pydru.

Disgrifiad

Dywedodd Albert Einstein “Rhith yw Amser”. Trafodwch hyn gyda’r dysgwyr ac esboniwch eu bod nhw’n mynd i geisio ‘cipio’ treigl amser. Esboniwch y byddan nhw’n tynnu llun o un afal bob dydd dros gyfnod o amser. Mae mis fel arfer yn ddigon hir i gynhyrchu enghraifft dda, ond mae tri mis hyd yn oed yn well.

Rhowch yr afal ffres ar blât a’i adael yn rhywle lle na fydd neb yn tarfu arno ond lle y mae’n rhwydd tynnu llun ohono. Ceisiwch ei roi mewn man sy’n dal y golau. Gall chwistrellu dŵr arno nawr ac yn y man helpu’r broses!

Rhowch y camera ar drybedd a thynnu llun . Os yw’n bosibl, gadewch y camera yn yr un man hyd at ddiwedd y gweithgaredd. Os nad yw hyn yn ymarferol, rhowch farciau ar y llawr fel y gallwch ail-leoli’r camera’n gywir ar ôl ei symud ymaith. Ceisiwch beidio â symud unrhyw beth yn yr olygfa. Wrth gwrs, bydd y disgyblion yn gallu gweld yr afal drwy gydol y broses, ond ni fydd hyn yn tynnu oddi wrth eu rhyfeddod pan fyddan nhw’n gwylio’r dilyniant terfynol.

Tynnwch un llun y dydd hyd nes y bydd yr afal wedi pydru – gadewch i’r plant benderfynu pan fydd hyn wedi digwydd. Fe all gymryd 1-3 mis, yn dibynnu ar y tymheredd, y lleithder ac ati. Pan fydd ganddyn nhw set gyflawn o luniau, llwythwch nhw i gyfrifiadur.

Gallwch eu harddangos mewn sawl ffordd. Y ffordd hawsaf yw eu hagor yn y rhaglen trin ffotograffau sydd wedi’i gosod ar eich cyfrifiadur a chreu sioe sleidiau. Dewiswch y gosodiad awtomatig i newid y sleidiau bob eiliad neu ddwy.

Neu gallwch greu sioe sleidiau mewn cyflwyniad PowerPoint. Byddwch yn ofalus wrth alinio’r ffotograffau fel bod y ddelwedd yn aros yn yr un man a bod y sleidiau’n symud yn llyfn. Fe wnaethom ni ddewis ‘Fade’ ar gyfer trawsnewid sleidiau a gosod yr amser rhwng pob trawsnewidiad i 00:01 o eiliadau. Gallwch arafu’r trawsnewidiadau wedyn fel y gall y dysgwyr astudio’r broses, ond i ddechrau mae’n fwy effeithiol ar gyflymder uchel.

Nawr, fe allant chwarae eu fideo amser… ond byddwch yn barod am ebychiadau uchel iawn o “Ỳch a fi!” a seiniau eraill o ffieidd-dod.

Fel arfer, bydd y dysgwyr eisiau rhannu eu canlyniadau â phobl eraill. Os ydych chi wedi gwneud cyflwyniad PowerPoint, llwythwch ef i Slideshare ac yna defnyddio’r cod mewnosod o Slideshare er mwyn i’r dysgwyr ei ychwanegu at wefan yr ysgol neu ei rannu ar eu gwefan bersonol neu eu tudalen Facebook.

Ar ôl hynny, gofynnwch iddynt “A ydy amser yn rhithiol?”. Byddwch yn barod am drafodaeth fywiog iawn!

Beth sydd ei angen arnaf i?

  • Camera digidol (gyda thrybedd)
  • Afal ffres blasus
  • Gallech ddefnyddio mathau eraill o feddalwedd, er enghraifft iMovie neu Movie Maker yn lle PowerPoint os ydych chi’n gyfarwydd â’r rhain

Gwerth ychwanegol

Cyn cyfrifiaduron, roeddem ni’n dibynnu ar lyfrau fflicio i greu’r effaith hon. Nid yw hynny’n wir bellach, diolch byth!

Os ydych chi am dwyllo ychydig – neu gyflymu’r broses, fel petai – gwnewch yn siŵr fod yr afal mewn man cynnes, llaith. Mae sil ffenestr heulog uwchben rheiddiadur yn lle da, yn enwedig os rhowch chi soser o ddŵr ar y rheiddiadur yn union o dan yr afal.

Awgrymiadau

Os byddwch chi’n tynnu lluniau dros gyfnod hir, dyweder y 3 mis llawn, ni fydd angen i chi ddefnyddio pob llun. Dewiswch y rhai sy’n dangos newid neu ddatblygiad sylweddol.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Gadael i’r dysgwyr ddewis eu gwrthrychau eu hunain i’w cofnodi dros amser. Gwneud yn siŵr eu bod nhw’n fath o ffrwythau neu lysiau (mae tafell o felon dŵr yn pydru’n gyflym ac mae’n eithaf trawiadol) – bydd sylwedd anifeiliaid yn drewi ac yn denu pryfed.
  • Trafof sut mae sylwedd organig yn newid yn gyflymach ac yn y ffordd fwyaf radical, tra bod sylwedd anorganig yn gallu aros yr un fath am fisoedd, blynyddoedd, degawdau… miloedd o flynyddoedd hyd yn oed.
  • Creu safle tirlenwi bach yn y dosbarth trwy osod pridd a chasgliad o wrthrychau organig ac anorganig gyda’i gilydd mewn blwch plastig tryloyw. Cofnodwch sut mae’r rhain yn newid (neu’n aros yr un fath) dros amser. Defnyddiwch hyn i greu fideo yn amlygu eu canfyddiadau ynglŷn â chael gwared ar wastraff mewn safleoedd tirlenwi.
  • Er hwyl yn unig, gosod y sioe sleidiau am yn ôl i weld y broses y ffordd arall!
  • Mynd ar YouTube a theipio ‘decay’ yn y chwilotwr – ceir rhai fideos gwirioneddol ffiaidd o anifeiliaid marw yn cael eu bwyta gan bryfed a phob math o ffrwythau a llysiau sy’n pydru. Gan na fyddai’n syniad da cael anifeiliaid marw sy’n llawn cynrhon(maggots) yn eich dosbarth, mae’n werth gwylio ymdrechion rhywun arall. Gwell peidio â gwneud hyn cyn cinio…

This post is also available in: English, Dutch, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.