Bwystfilod Bychain.

photo-10Oedran 3–7 oed

Rhwyddineb ****

Trosolwg

Mae’r gweithgaredd hwn yn gyflwyniad cynnar i ddefnyddio camerâu digidol a fideo. Mae’r dysgwyr yn esgus bod yn fathau gwahanol o bryfed ac yn cofnodi eu teithiau trwy lygaid y bwystfilod bychain o’u dewis. Yna maen nhw’n defnyddio’r hyn a recordiwyd ganddynt i gyhoeddi fideo (gyda cherddoriaeth gefndir) ar y rhyngrwyd.

Disgrifiad

Yn dibynnu ar oedran y plant a nifer y camerâu, gallwch chi wneud hyn gyda grwpiau bach neu’r dosbarth cyfan.

Defnyddiwch gamera fideo syml neu ffôn symudol a gofynnwch i’r dysgwyr esgus bod yn chwilod, ieir bach yr haf neu bryfed eraill o’u dewis. Gan fynd â chamera gyda nhw, mae’r chwilod (neu’r pryfed eraill) yn cropian ar eu stumogau trwy laswellt ac yn ffilmio’r byd trwy lygaid chwilod. Bydd ieir bach yr haf (a’r plant hynny sydd wedi dewis bod yn bryfed sy’n hedfan) yn sefyll mor dal ag y gallant ac yn hedfan o gwmpas gyda’r camera, gan ddisgyn i lawr ar flodau lliwgar ac ati. Chwaraewch y ffilmiau i’r dosbarth fel y gall y dysgwyr weld ffilmiau ei gilydd.

Llwythwch y ffilmiau i’r cyfrifiadur ac, os ydych chi’n dymuno, gallwch eu golygu at ei gilydd. Defnyddiwch iMovie, Movie Maker neu rywbeth sy’n cynhyrchu canlyniadau’n syth fel Animoto.

Gadewch i’r dysgwyr ddewis cerddoriaeth ar gyfer eu fideo a’i hychwanegu fel trac sain (mae Flight of the Bumblebee gan Nikolai Rimsky-Korsakov yn ffefryn ond gwnewch yn siŵr nad oes rhaid talu am drwydded os ydych yn cyhoeddi’r fideo lle y gall y cyhoedd ei weld). Ychwanegwch deitlau i’ch fideo.

Cyhoeddwch y fideo ar You Tube os ydych chi am ei ddangos i’r rhieni.

Beth sydd ei angen arnaf i?

Camera fideo neu ffôn symudol sy’n recordio fideo, a chyfrifiadur neu ddyfais arall i lwytho’r hyn a recordiwyd. Os ydych chi eisiau golygu’r hyn a recordiwyd, bydd angen meddalwedd golygu fideo arnoch hefyd. Fe allai’r meddalwedd hwn eisoes fod yn rhan o’ch dyfais neu gallwch ei lwytho i lawr fel ap. (Os oes angen mwy o gyfarwyddyd arnoch ar ddefnyddio meddalwedd golygu, ewch i’r uned Ffair o Ffilmiau yn y llawlyfr hwn sy’n rhoi arweiniad gam wrth gam i chi).

Gwerth ychwanegol

Yn aml, rydym ni yn gofyn i ddysgwyr ifanc ddychmygu pethau o safbwynt rhywun neu rywbeth arall, ond mae hwn yn gysyniad anodd iddynt. Yn y gweithgaredd hwn, yn ogystal â chael y cyfle i brofi’r cysyniad drostyn nhw eu hunain, maen nhw hefyd yn rhyngweithio ag ef wrth iddynt chwarae rôl. Atgyfnerthir y syniad hwn a’r ddealltwriaeth ohono ymhellach wrth iddynt wylio eu fideo golygedig. Mae hefyd yn gyflwyniad da i siarad am gynlluniau a mapiau.

Yn rhy aml o lawer, caiff fideo ei ddefnyddio i recordio digwyddiad penodol yn unig, e.e. drama’r ysgol. Does dim o’i le ar hyn, ond mae angen i ni feddwl o ddifrif ynglŷn â sut gallwn ni ddefnyddio’r dechnoleg mewn ffordd greadigol i ganiatáu i ni wneud pethau nad oedd yn bosibl i ni eu gwneud o’r blaen.

Awgrymiadau

Gwnewch yn siŵr fod y camerâu wedi’u gwefru a bod yr ardal rydych chi’n bwriadu ei defnyddio yn ddiogel h.y. nad oes gwydr wedi torri yno ac ati.

Gwnewch yn siŵr fod y disgyblion yn gwybod sut i ddefnyddio camera fideo.

Os ydych chi’n bwriadu ychwanegu cerddoriaeth at y fideo a’i gyhoeddi lle y gall y cyhoedd ei weld, yna gwnewch yn siŵr nad oes hawlfraint yn gysylltiedig â’r gerddoriaeth.

Diogelwch

Os yw’r ffilm yn dangos delweddau o blant a’ch bod chi’n bwriadu ei chyhoeddi lle y gall y cyhoedd ei gweld, gwnewch yn siŵr fod gennych chi ganiatâd rhieni.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Gadewch i’r dysgwyr ddefnyddio’r camerâu i dynnu rhai lluniau o falwod, chwilod ac ieir bach yr haf, neu ddewis llun o iâr fach yr haf o ddelweddau Google.
  • Gallant droi eu lluniau’n ddalen liwio gan ddefnyddio iPhoto neu Picasa. (Gosodwch lefel ucha’r dinoethiad, y cyferbyniad a’r eglurder. Gosodwch lefel isaf dwysedd y lliwiau.) Argraffwch y rhai du a gwyn mewn meintiau gwahanol. Gadewch i’r dysgwyr gopïo’r lliwiau o’r gwreiddiol (os ydynt yn dysgu am liwiau) neu eu lliwio fel y dymunant. Gallant dorri’r lluniau a’u gludio ar arddangosiad wal neu eu gludio ar gansenni bambŵ a’u ‘plannu’ yn yr ardd. Mae dysgwyr ifanc yn hoff iawn o wneud eu lluniau eu hunain i’w lliwio a dyma’r cam cyntaf i ddysgu am drin delweddau. Gall plant 6 blwydd oed wneud hyn – wir!
  • Os yw’n rhy wlyb i gropian trwy’r glaswellt, ceisiwch glymu camera fideo wrth flaen car tegan a’i wthio o gwmpas tref Lego neu bentref a wnaed o eitemau sothach.
  • Gadewch i blant hŷn wneud ffilm fer o fannau, pobl a gwrthrychau yn yr ysgol trwy ‘gerdded’ o gwmpas ar eu pengliniau gan ddal y camera. Mae hyn yn cyfateb yn fras i lefel llygaid y disgyblion ieuengaf. Ceisiwch ‘edrych i fyny’ ar bobl dalach neu gypyrddau uchel. Sut mae’r ysgol yn edrych pan eich bod chi’r maint hwn? Ydy hi’n lle brawychus?

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Romanian

Tags: , , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.