e-Ddarllen yn y Dosbarth

Oedran 7+ oed Rhwyddineb ****bbc education

Trosolwg
Weithiau, mae athrawon yn anghytuno’n llwyr â defnyddio teclynnau Kindle neu e-ddarllenwyr eraill yn yr ystafell ddosbarth. Mae rhai yn teimlo eu bod nhw’n gweithio’n galed gyda’u disgyblion i ddatblygu brwdfrydedd am lyfrau a bod e-ddarllenwyr, mewn rhyw ffordd ryfedd, yn bygwth hynny. Rydym ni’n argyhoeddedig y dylai plant ddysgu bod ‘llyfrau’ ar gael ar sawl ffurf; ar bapur, ar ddarllenwyr sy’n defnyddio inc electronig (fel teclynnau Kindle), ar declyn tabled, ar ffôn clyfar, ar fonitor cyfrifiadur. Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd o gael gafael ar lyfrau ac fe allen nhw – ac fe ddylen nhw – gydfodoli’n eithaf hwylus yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant sydd â llwythi o ddyfeisiau electronig gartref ond dim ond rhai llyfrau papur.

Disgrifiad
Er mwyn cael y budd mwyaf o ddefnyddio e-ddarllenwyr yn yr ystafell ddosbarth, bydd yn rhaid i ysgolion ymrwymo i brynu mwy nag un. Yn yr enghraifft hon, mae gan yr athrawes chwe theclyn Kindle y mae’n eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau darllen mewn grŵp. Caiff ei dosbarth ddefnyddio’r rhain unwaith yr wythnos ac felly caiff pob grŵp o chwe dysgwr eu defnyddio unwaith pob pythefnos. Mae hi o’r farn bod hyn yn ei galluogi i gadw cydbwysedd rhwng defnydd dysgwyr o e-ddarllenwyr a llyfrau papur traddodiadol. Wedi dweud hynny, mae hi’n edrych ymlaen at weld yr ysgol yn buddsoddi mewn mwy o e-ddarllenwyr a fydd yn ei galluogi i’w defnyddio mewn cyd-destunau addysgu a dysgu eraill.

Mae gan y dysgwyr eu testun darllen mewn grŵp eisoes, ac maen nhw’n ei ddarllen bob dydd am 10-15 munud naill ai’n annibynnol, mewn grŵp neu dan arweiniad yr athrawes. Pan fydd eu tro nhw’n cyrraedd i ddefnyddio’r e-ddarllenwyr, mae’r athrawes fel arfer yn gosod tasg tymor byr neu dasg annibynnol, fel darllen pennod gyntaf llyfr, cyn trafod y testun neu ddarllen blodeugerdd y gallant bori trwyddi unwaith pob pythefnos.

Os gwnaethon nhw fwynhau darllen pennod agoriadol llyfr ac yn dymuno parhau i’w ddarllen, mae hi’n aml yn rhoi copïau papur iddynt o’r testun. Pan fyddan nhw’n defnyddio e-ddarllenwyr i ddarllen blodeugerddi, mae hi’n gofyn i’r grŵp baratoi cyflwyniad pum munud i’r dosbarth yn dweud pam y gwnaethant fwynhau’r farddoniaeth neu pam na wnaethant ei mwynhau. Dylen nhw gefnogi eu barn gyda dyfyniadau a gwneud argymhellion i’w cyd-ddisgyblion ynglŷn â pham y dylen nhw neu na ddylent ddewis darllen y flodeugerdd honno ar eu ‘Diwrnod Kindle’ nesaf.

Beth sydd ei angen arnaf i?
Teclynnau Kindle neu e-ddarllenwyr eraill.
Meddwl agored!

Gwerth ychwanegol
Mae darllenwyr araf neu ‘amharod’ yn ymateb yn well i e-ddarllenwyr yn aml oherwydd bod ganddynt agweddau rhyngweithiol.
Mae dysgwyr yn tueddu i beidio â’u cysylltu â hanes blaenorol o ‘fethu’ wrth ddarllen – maen nhw’n newydd ac yn “wahanol” mewn rhyw ffordd.
Gallwch chi ddangos i ddysgwyr sut i addasu’r math o ffont, maint y ffont a gogwydd y dudalen fel y gallant ddewis y cyfuniad sydd hawsaf iddyn nhw ei ddarllen – mae hyn yn arbennig o dda i rai dysgwyr dyslecsig.

Os ydynt yn cael trafferth gyda gair, gallant, mewn llawer o e-lyfrau droi’r sain ymlaen fel y gallan nhw glywed y gair yn cael ei ynganu.

Os nad ydyn nhw’n deall ystyr gair gallant glicio arno i gael diffiniad.

Dim ond yn Saesneg y mae modd gwneud hyn felly mae’n ddelfrydol ar gyfer gwersi Saesneg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Gallant wneud marc neu sylw yn yr ymyl i amlygu unrhyw rannau nad ydynt yn eu deall – gall yr athro roi sylw iddyn nhw wedi hynny.

Awgrymiadau
Yn ein profiad ni mae dewis llyfrau sydd â syntheseisydd llais, a chaniatáu i ddysgwyr ei droi ymlaen pan fyddant yn dechrau colli eu gafael ar y stori neu’n blino, yn aildanio diddordeb y dysgwyr. Roedd yn arbennig o dda ar gyfer ysgogi darllenwyr arafach.

Mae’n cymryd amser i ddysgwyr ymgyfarwyddo ag e-ddarllenwyr os nad ydynt wedi eu defnyddio o’r blaen. Os ydych chi’n ystyried prynu e-ddarllenwyr, byddem ni’n argymell dewis y rhai hŷn sydd â bysellbad – maen nhw’n llawer haws i blant eu defnyddio.

Mae plant yn cyffroi pan fydd eu ‘Diwrnod Kindle’ nhw’n cyrraedd – hyd yn oed y darllenwyr amharod – ond nid yn fwy na phan gyflwynir unrhyw ddarn newydd arall o dechnoleg iddyn nhw.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Dewis geiriau penodol yn defnyddio’r swyddogaeth farcio., e.e. ‘dewch o hyd i bum ansoddair’, ‘dewch o hyd i dri gair nad oeddech chi’n eu gwybod’.
• Dewis gair penodol ac ysgrifennu ei ystyr fel nodyn yn yr ymyl ac yna cymharu eu diffiniad â’r diffiniad yng ngeiriadur Kindle.
• Defnyddio siop Kindle Amazon i archwilio genres gwahanol a ffyrdd gwahanol o ddosbarthu llyfrau.
• Edrych ar rai crynodebau llyfrau ac yna ysgrifennu eu crynodeb eu hunain ar gyfer llyfr o’u dewis.
• Syniad rhwydd (a gwych) arall yw cadw straeon y plant eu hunain fel ffeiliau PDF a’u llwytho ar Kindle i blant eraill eu darllen.

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.