Her Jig-so!

cwningen puzzleMae Jigsaw Planet yn ddarn hyblyg o feddalwedd ar gyfer creu jig-sos ar-lein. Gallwch chi greu jig-sos o ffotograffau wedi’u sganio, o luniau a wnaed gan y dysgwyr eu hunain neu o luniau rydych chi’n eu llwytho i lawr o’r we. Mae’n gweithio ar gyfer bron pob grŵp oedran (gan gynnwys athrawon!).

Mae’r dysgwyr yn gwneud llun gan ddefnyddio Paint (neu feddalwedd tebyg). Po symlaf yw’r llun, y rhwyddaf y bydd datrys y jig-so. Cofiwch gadw copi o’r llun mewn ffeil ar eich cyfrifiadur. Gallwch chi greu cyfrif ar http://www.jigsawplanet.com/. Does dim rhaid gwneud hyn i greu jig-so, ond bydd yn haws i chi ddod o hyd iddo! Cliciwch ar y botwm ‘Create’ a llwytho’r llun i fyny o’ch ffeil. Yn aml, mae’n haws cadw’r llun ar eich bwrdd gwaith (desktop), ond mater o ddewis yw hyn. Pan fydd wedi’i lwytho, dewiswch sawl darn rydych am eu cael yn eich jig-so a’u siâp. Gallwch chi ddewis jig-sos ag ymyl syth neu rai sydd â darnau sy’n cyd-gloi. Unwaith eto, bydd y dewisiadau hyn yn pennu pa mor rhwydd/anodd y bydd y pos terfynol. Pan fydd y plant wedi gwneud hyn, byddan nhw’n clicio’r tab ‘Create’ ar y gwaelod a bydd eu jig-so yn ymddangos.

Gallant naill ai datrys eu jig-so eu hunain neu ofyn i ffrind wneud hynny. Pan fyddant wedi gorffen, bydd naidlen (pop-up) yn ymddangos ac yn dweud pa mor hir y cymerodd iddyn nhw ei ddatrys!

Rhannwch y posau ar dudalen Facebook, Twitter neu ar flog.

Heriwch y dysgwyr i ddatrys posau ei gilydd. Gwnewch yr her mewn parau. Bydd un dysgwr yn cofnodi’r amser a gymerwyd a’r llall yn datrys y posau. Yna byddan nhw’n cyfnewid rolau.

Edrychwch ar un o’n jig-sos Blwyddyn 6: http://www.jigsawplanet.com/?rc=play&pid=176b68751800

Beth sydd ei angen arnaf i?

Meddalwedd baentio/darlunio, e.e. Paint

Lluniau wedi’u sganio o baentiadau neu luniadau

Mynediad at y rhyngrwyd

Gwerth ychwanegol

Mae plant bob amser yn mwynhau creu eu posau eu hunain, ond mae hyn hyd yn oed yn fwy difyr oherwydd maen nhw’n defnyddio eu lluniau neu ffotograffau eu hunain i greu posau. Rydym yn arbennig o hoff o’r ffaith y gellir gwneud y posau’n rhwydd neu’n anodd, a fydd yn sicr o danio diddordeb beth bynnag y bo oedran neu allu’r dysgwyr!

Awgrymiadau – Os yw plant yn cael trafferth, gallant glicio ar y ddelwedd o’r llun ar waelod y gornel chwith i weld sut y dylai’r pos gorffenedig edrych.

Diogelwch – Os ydynt yn defnyddio ffotograffau o’u hunain i greu posau, gwnewch yn siŵr fod gennych chi ganiatâd rhieni i wneud hyn gan fod y posau ar gael i bawb ar lein.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

Atgyfnerthu geirfa: http://www.jigsawplanet.com/?rc=play&pid=370f05946bd7

Ymarfer sillafu trwy greu posau Wordle!

http://www.jigsawplanet.com/?rc=play&pid=16ba7b65021d

Gwnewch gasgliad parhaol o jig-sos ar-lein ar bynciau penodol o’r cwricwlwm (e.e. bwyta’n iach, golygfeydd hanesyddol).

Ar gyfer plant hŷn, beth am droi sgrinluniau o Google Earth neu Google Maps yn jig-sos a gweld a all y plant eu rhoi at ei gilydd trwy adnabod nodweddion lleol neu enwau lleoedd.

This post is also available in: English, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.