Mewn Cawl!

Oedran 4–6 oed  Rhwyddineb ***Ready Steady Cook

Trosolwg

Un o’r pethau sy’n rhan o gymeriad ein hardaloedd yw’r ryseitiau a’r prydau bwyd lleol. Yn y gweithgaredd hwn, mae’r myfyrwyr yn datblygu ryseitiau traddodiadol yn seiliedig ar draddodiad teuluol a choginio cartref. Caiff eu ryseitiau eu llwytho i fyny i flog y dosbarth.

Disgrifiad

Y cam cyntaf yn y gweithgaredd hwn yw gwneud ymchwil i rai prydau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol. Os gallwch chi drefnu sesiwn flasu – gorau oll! Trafodwch y cynhwysion a pha rai sy’n gwneud y pryd yn felys, yn sawrus, yn siarp, yn ddi-flas, etc. Esboniwch wrth y dosbarth eu bod nhw’n mynd i ddewis un rysáit a’i ailgynllunio neu ei gwneud yn fwy unigryw trwy newid UN cynhwysyn. Felly, er enghraifft, mae gan y rhan fwyaf o wledydd eu fersiynau eu hunain o botes, stiw neu gawl, a byddai angen i’r dysgwyr ychwanegu/newid un cynhwysyn, efallai trwy gynnwys llysieuyn o wlad arall, e.e. pwmpen.

Bydd angen i’r dosbarth greu dalen rysáit trwy chwilio am luniau o’r cynhwysion sydd yn eu pryd ar y rhyngrwyd. Dyma un dosbarth wrthi:

 http://www.youtube.com/watch?v=hZJQhZXC-zY&list=UUtFkoZr-mhvrgujIxsK4mSA&index=9&feature=plcp

Er enghraifft os oes angen llaeth arnynt ar gyfer y rysáit, gall y plant deipio’r gair yn y peiriant chwilio, edrych trwy ‘images’, dewis o blith yr holl luniau a llwytho’r un y maen nhw ei eisiau i lawr. Yna mae’n rhaid iddynt nodi faint sydd ei angen o bob cynhwysyn (efallai y bydd angen i chi roi’r wybodaeth hon iddyn nhw).

Pan fydd gennych chi’r holl luniau, defnyddiwch fwrdd gwyn rhyngweithiol i ysgrifennu pob cam o’r rysáit ac ychwanegu’r lluniau y maen nhw wedi’u llwytho i lawr.

www.youtube.com/watch?v=b7cVrKfcYtM&feature=player_embedded

Pan fydd y rysáit wedi’i chwblhau, llwythwch hi i fyny i flog gyda neges wedi’i chyfeirio at rieni’r dysgwyr. Rhowch URL y blog iddynt a’u gwahodd i goginio’r rysáit gartref gyda’u plant. Anogwch nhw i dynnu lluniau o’r plant yn coginio. Gofynnwch i’r rhieni anfon y lluniau atoch mewn neges e-bost.

Defnyddiwch y bwrdd gwyn rhyngweithiol i agor y negeseuon e-bost gan y rhieni a chaniatáu i’r plant lwytho’r lluniau ohonynt yn coginio gartref i flog y dosbarth.

Os nad oes gennych chi flog dosbarth, gallwch chi ddefnyddio Moodle (os ydych chi’n defnyddio hwnnw) neu sefydlu Glog. Mae’r uned “Glog a Blog!” yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Beth sydd ei angen arnaf i?

  • Bwrdd gwyn rhyngweithiol.
  • Cyfeiriad e-bost.
  • Meddalwedd i arddangos y canlyniadau, e.e. unrhyw feddalwedd ar gyfer blogio, Glogster, Moodle.

Gwerth ychwanegol

Mae’r gweithgaredd hwn yn ysgogol a diddorol iawn oherwydd bod y teulu’n cael ei gynnwys yn y broses ddysgu ac yn cymryd rhan ym mhrofiad y dysgwr.

Mae’n werthfawr iawn hefyd i greu cysylltiadau gwell rhwng y cartref a’r ysgol.

Awgrymiadau

Mae angen i chi roi gwybod i deuluoedd am y gweithgaredd hwn ymlaen llaw. Anogwch nhw i fynd i hwyl y peth a gwisgo’u plant fel cogyddion. Gallwch bwysleisio’r ffaith bod hwn yn gyfle iddyn nhw gael hwyl fel teulu.

Mae’n annhebygol y bydd pob plentyn yn cymryd rhan, ond peidiwch â siomi oherwydd bydd pob dysgwr yn cael y cyfle i gyfrannu at y gwaith paratoi a’r blog a gynhyrchir yn y diwedd.

Dyma enghraifft o flog athro:

http://etapainfantil.blogspot.com.es/

Er y bydd pob athro yn sensitif i sefyllfaoedd cartref y plant sydd yn eu dosbarth, gall y gweithgaredd hwn achosi problem yn arbennig i blant nad ydynt yn byw gyda’i rhieni, neu lle nad yw’r rhieni’n gefnogol, neu nad oes ganddynt yr arian neu’r cyfleusterau i gymryd rhan. Bydd angen i chi greu rolau arbennig ar gyfer y disgyblion hyn ymhell o flaen llaw.

Diogelwch

Gwnewch yn siŵr fod gennych chi ganiatâd rhieni ar gyfer cyhoeddi delweddau o blant lle y gall y cyhoedd eu gweld.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Gallwch chi lwytho unrhyw weithgareddau dosbarth i’ch blog pan fydd wedi’i sefydlu. Mae Glogster yn wych (gweler Glog a Blog!). Dyma ein blog ni http://nicdan.edu.glogster.com/butterflies/
  • Dewch o hyd i ysgol mewn gwlad arall a chyfnewid ryseitiau
  • Gwnewch fideo sy’n dangos cyfarwyddiadau gam wrth gam ar gyfer paratoi prydau syml
  • Defnyddiwch Twitter i gael ymatebion torfol i’r cwestiwn “Beth yw eich hoff beth i’w fwyta?”
  • Edrychwch ar ‘hanes bywyd’ un cynhwysyn, e.e. llaeth neu flawd, o’i darddiad hyd at ei ddefnydd yn y rysáit. Defnyddiwch You Tube neu ddelweddau ar y we i greu dilyniant ohonyn nhw a’u cysylltu â chodau QR i adrodd y stori.
  • Sefydlwch fwrdd Pinterest a gofyn i’r plant ychwanegu lluniau o’u hoff bethau i’w bwyta

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.