e-Wyddoniadur.

Oedran 8+ oed e-encyclopaedia

Rhwyddineb ***

Trosolwg

Mae’r gweithgaredd hwn yn ffordd newydd o fynd ati i greu project ar bwnc penodol. Mae’n addas ar gyfer creu projectau ar unrhyw bwnc bron, e.e. anifeiliaid, hanes, daearyddiaeth, neu unrhyw faes o fewn y pynciau ehangach hyn, e.e. ceffylau, y Rhufeiniaid neu’r India. Yn yr enghraifft hon, roedd y dysgwyr yn ymchwilio i chwilod. Yn bwysicach, mae’n defnyddio e-offeryn a ddyluniwyd ar gyfer gwaith cydweithredol a threfnu gwybodaeth.

Disgrifiad

Dechreuwch y wers trwy sôn am wikis. Esboniwch mai casgliad o dudalennau gwe yw wikis sydd wedi’u cynllunio mewn ffordd sy’n galluogi unrhyw un sy’n cael mynediad atynt i gyfrannu gwybodaeth newydd atynt a diwygio’r cynnwys sydd yno eisoes. Wiki yw enw’r meddalwedd sy’n ein galluogi i greu, golygu a chysylltu’r tudalennau hefyd. Yn y bôn, offeryn ar-lein yw wiki ar gyfer gweithio’n gydweithredol a rhannu gwybodaeth.

Dangoswch Wikipedia i’ch dosbarth ac esboniwch beth ydyw – gwyddoniadur a grëwyd gan ei ddefnyddwyr. Os ydych chi’n dymuno, dangoswch wyddoniadur argraffedig iddynt a gofynnwch beth yw’r gwahaniaeth rhyngddynt yn eu barn nhw, a beth yw manteision ac anfanteision y ddau.

Archwiliwch dudalen Wikipedia a chlicio ar yr holl fotymau nad ydych chi’n eu defnyddio fel arfer, fel y rhai sy’n dangos hanesun o’r cofnodion. Os yw’r plant yn ddigon hen, gallech chi hefyd achub ar y cyfle i drafod y stori ‘Wikileaks’ a pha un a ddylai mesurau gael eu sefydlu i reoli’r hyn sy’n cael ei gyhoeddi ar y we.

Esboniwch eu bod nhw’n mynd i greu eu gwyddoniadur eu hunain yn defnyddio wiki.

Mae llawer o raglenni rhad ac am ddim ar gael sy’n caniatáu i chi greu eich wiki eich hun. Fe ddefnyddion ni Wikispaces (www.wikispaces.com) oherwydd dyma’r un hawsaf yn ein barn ni. Gallech chi roi cynnig ar PBWiki neu WikiMedia hefyd.

Dyma wiki a grëwyd gennym ni mewn tua 20 munud yn defnyddio Wikispaces: http://taccle2e-encyclopaedia.wikispaces.com/. I gael gwybod sut i wneud hyn eich hun, ewch i’r hafan a dilyn y cyfarwyddiadau. Byddwch chi’n cael cynnig tiwtorial rhyngweithiol/taith o’r safle ac rydym yn argymell eich bod yn manteisio ar y cyfle! Pan fyddwch chi wedi meistroli’r meddalwedd, gadewch i’r dysgwyr wylio’r tiwtorial/taith o’r safle hefyd. Mae’n bwysig gwneud hyn cyn i’r plant ddechrau gweithio oherwydd bod wikis yn ffordd wych o weithio’n gydweithredol a rhannu’r gwaith sy’n mynd rhagddo – byddai casglu pethau yn gyntaf, yna eu trefnu ac yna eu llwytho i fyny yn mynd yn groes i’r bwriad!

e-encyclopaedia 2nd photo facing pageBydd y dysgwyr neu’r athro yn dewis pwnc perthnasol – chwilod yn ein hachos ni – ac yn gofyn i’r dysgwyr gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am y pwnc. Mae’n syniad da dechrau trwy lunio rhestr o is-benawdau i gynorthwyo’r dysgwyr i drefnu eu hymchwil a’u canfyddiadau a rhoi’r rhain ar y wiki hefyd.

Mae hyn yn gweithio’n dda fel gweithgaredd grŵp. Caiff y dosbarth ei rannu’n grwpiau a bydd pob grŵp yn gyfrifol am un dudalen neu fwy. Er enghraifft, gallai un grŵp edrych ar ieir bach yr haf ac un arall ar wenyn neu fuchod coch cwta (ladybirds). Yna gellir rhannu pob grŵp unwaith eto a rhoi rolau penodol i’r disgyblion, e.e. golygydd, golygydd lluniau, ysgrifennwr copi ac ati. Fe allai hefyd fod yn ddefnyddiol trafod gyda nhw pa ffynonellau/fathau o wybodaeth sydd ar gael, e.e. testun, lluniau, ffotograffau, sain, fideo. Wrth i’r dysgwyr gasglu’r wybodaeth, bydd angen iddynt roi trefn arni a’i storio’n syth ar y wiki. Y nod yw creu gwyddoniadur ar-lein fel y gall disgyblion eraill ei ddefnyddio fel adnodd.

Er mwyn llwytho cynnwys, bydd angen i chi esbonio bod gan dudalen wiki ddau fath o ‘fodd’ neu olwg fel arfer. Y ‘modd arferol’ yw’r dudalen orffenedig a welir gan y darllenydd ac mae’n edrych fel unrhyw dudalen we arall. Dydy pob defnyddiwr ddim yn gallu newid hyn. Fodd bynnag, bydd ‘modd golygu’ ar gael hefyd. Gellir ei agor trwy glicio ar y botwm ‘Edit’ sydd ar bob tudalen. Gall unrhyw ddefnyddiwr agor y cyfleuster hwn neu mae modd ei ddiogelu a’i gyfyngu i ddefnyddwyr dynodedig sy’n cael mynediad ato trwy fewngofnodi â chyfrinair.

Felly, er y gallai fod gan bob disgybl dasg benodol, e.e. casglu lluniau o fuchod coch cwta, gallant hefyd ychwanegu at gynnwys mae pobl eraill wedi’i roi ar eu tudalennau. Fe allent ddod o hyd i fideo You Tube da am geiliogod rhedyn (grasshoppers) y gallant ei ychwanegu at dudalen grŵp arall er enghraifft.

Gallant hefyd wneud newidiadau i waith pobl eraill a bydd y newidiadau hyn yn cael eu cofnodi ar y wiki. Trafodwch sut y bydden nhw’n teimlo pe byddai rhywun yn newid tudalennau a grëwyd ganddyn nhw neu’n ychwanegu atynt.

Beth sydd ei angen arnaf i?

Gwerth ychwanegol

Mae’r dasg hon yn un amlweddog. Yn ogystal â chasglu gwybodaeth berthnasol, mae’n rhaid i’r plant greu cynnwys ar y we er mwyn ei chyflwyno’n effeithiol. Hefyd, maen nhw’n dysgu bod rhannu gwybodaeth yn rhan bwysig o gyfleu syniadau a datblygu gwybodaeth, ac yn dechrau mynd i’r afael â materion yn ymwneud â pherchenogaeth, golygu a chaniatâd.

Awgrymiadau

Yn ogystal â defnyddio llyfrau a peiriannau chwilio ar-lein, dylai’r disgyblion gasglu gwybodaeth maes hefyd. Rhowch ddyfeisiau digidol iddyn nhw a gadewch iddynt recordio seiniau, tynnu lluniau a recordio eu hunain yn trafod pynciau a syniadau.

Os nad ydych chi’n hyderus iawn i ddechrau, peidiwch â phoeni am ychwanegu widgets ac ati.

 Diogelwch

Dylech chi wneud yn siŵr nad oes angen trwydded ar gyfer y wybodaeth a gyflwynir ar-lein os bydd pobl y tu allan i’ch dosbarth yn gallu gweld eich wiki.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Gwneud wiki o gymeriadau mewn llyfrau y maen nhw’n eu darllen yn unigol ac yn y dosbarth.
  • Gwneud wiki sy’n cynnwys ‘seiniau’ yn unig, e.e. seiniau yn yr ysgol, seiniau yn y tŷ, seiniau yn y stryd, seiniau yn yr ardd ac ati.
  • Gwneud catalog llyfrgell ar gyfer y dosbarth.
  • Gwneud wiki ar gyfer dosbarth o ddisgyblion iau am bwnc y maen nhw’n ei astudio – er enghraifft, wiki o rigymau neu fathau o adeiladau neu batrymau mathemategol.
  • Gwneud wiki personol – mae hyn yn arbennig o dda ar gyfer disgyblion sy’n symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Gallant ddechrau’r wiki yn yr ysgol gynradd (rhestru eu gobeithion, eu hofnau ac ati) ac ychwanegu ato yn yr ysgol uwchradd. Gallant hefyd lwytho “Fy hoff ddarn o waith” neu “Lluniau Taith y Disgyblion sy’n Gadael”.
  • Ewch i URL project tebyg yn Romania.

http://clasa1simonapetran.blogspot.com/

 

Gallwch greu wiki ar unrhyw bwnc – rhowch gynnig arni!

This post is also available in: English, Dutch, Italian, Romanian

Tags: , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.