Ein Dosbarth 3D

Our 3D ClasssroomOedran 8–11 oed Rhwyddineb ****

Trosolwg
Casgliad o offer pwerus yw Photosynth ar gyfer cipio a gweld y byd mewn 3D. Gallwch chi rannu eich creadigaethau gyda ffrindiau ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol, eu cyhoeddi ar y we neu eu hymgorffori yn eich blog neu’ch gwefan eich hun. Yn y gweithgaredd hwn, mae dysgwyr yn creu ffotograff 360˚ o’u hystafell ddosbarth a’i gyhoeddi ar wefan yr ysgol.

Disgrifiad
Esboniwch wrth y dysgwyr eu bod nhw’n mynd i dynnu cyfres o luniau o’u hystafell ddosbarth er mwyn eu cydosod i greu un ddelwedd 360º banoramig, ddi-dor. Fe allai fod yn ddefnyddiol dangos enghreifftiau iddynt ar wefan Photosynth. Esboniwch wrthynt y bydd angen iddynt ddarparu’r deunydd mewn fformat penodol er mwyn i’r meddalwedd allu creu’r ddelwedd, e.e. mae’n rhaid i bob ffotograff orgyffwrdd â’r un nesaf fel y gellir gwneud ffotograff 360˚. Bydd angen iddynt dynnu 10 ffotograff fesul 3m.
Rhannwch y plant yn grwpiau ac esboniwch y bydd pob grŵp yn gyfrifol am dynnu ffotograffau o ran benodol o’r ystafell ddosbarth (3-6m yn dibynnu ar faint o ddysgwyr a grwpiau sydd gennych chi).
Dangoswch i’r dysgwyr sut i dynnu’r ffotograffau gyda chamera digidol a sut i ddefnyddio’r ffenestr wylio ar y camera i asesu ansawdd pob ffotograff. Byddai’r ansawdd yn well pe baech yn defnyddio trybedd (tripod) gan y byddai hynny’n sicrhau bod y lluniau ar yr un lefel – y cyfan fyddai angen ei wneud yw troi’r camera o gwmpas ar ben y drybedd – ond nid yw’n gymaint o hwyl!
Pan fyddant wedi gwneud hyn, llwythwch yr holl ffotograffau i ffolder a dileu’r rhai nad oes mo’u hangen (bydd wastad un neu ddau ffotograff anaddas).
Bydd angen i chi osod Image Composite Editor a Photosynth Application ar eich cyfrifiadur er mwyn dechrau arni. Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw dilyn y cyfarwyddiadau ar y safle. Pan fyddwch chi wedi gwneud hyn, ewch i’r dudalen ‘Create’ a dilyn y cyfarwyddiadau i greu eich delwedd. Mae arweiniad manylach a mwy o gymorth ar gael yma: http://photosynth.net/help.aspx
Pan fyddwch chi wedi gorffen, cyhoeddwch y ffotograff ar wefan yr ysgol, blog, wiki’r dosbarth neu Glog. Gall y disgyblion rannu eu hystafell ddosbarth gyda’u rhieni, eu ffrindiau a phlant mewn ysgolion eraill. Dewch o hyd i ffotograffau 360˚ eraill o ystafelloedd dosbarth trwy deipio “class” yn y blwch chwilio ar wefan Photosynth.

Beth sydd ei angen arnaf i?
• Camera digidol
• Mynediad at y rhyngrwyd
• http://photosynth.net/default.aspx

Gwerth ychwanegol
Mae’r meddalwedd hwn yn caniatáu i ddysgwyr greu delweddau 360˚ soffistigedig o un lleoliad a delweddau ‘Synth’ o sawl ongl wahanol. Gall y dysgwyr ddefnyddio’r delweddau hyn mewn projectau a chyflwyniadau ac ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol. Mae rhai o nodweddion y safle yn unigryw i Photosynth.

Awgrymiadau
Cofiwch wefru’r camera/camerâu. Mae’n well peidio â cheisio rhuthro’r broses. Yn hytrach, rhowch gyfle i’r dysgwyr arbrofi â’r camera yn gyntaf. Mae’n helpu llawer os yw’r dysgwyr yn deall pwysigrwydd ‘dilyniant’ ffotograffau, felly fe allai fod yn ddefnyddiol gosod marc ar y llawr i ddangos ble y dylent sefyll wrth dynnu pob un ffotograff.

Gosodwch y camera a dewiswch y gosodiadau cywir ar gyfer tynnu’r llun. Dywedwch wrth y plant i beidio â’i newid!

Diogelwch
Os yw dysgwyr yn ymddangos yn eich delweddau, gwnewch yn siŵr fod gennych chi ganiatâd rhieni cyn eu llwytho i’r we.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Edrychwch ar http://www.youtube.com/watch?v=bQsbi1uDkrE i gael syniadau.
• I greu gwaith celf arbennig gan ddefnyddio’ch ffotograffau eich hun, rhowch gynnig ar www.befunky.com. Gall dysgwyr greu delweddau celfyddyd bop ac ychwanegu effeithiau arbennig, delweddau clipart, swigod siarad ac ati i’w ffotograffau eu hunain. Os oes gennych chi gyfrifiadur Mac fe allwch chi ddefnyddio Photobooth, sy’n debyg iawn.
• Edrychwch ar lun o Water Lilies Monet. Mae’r lluniau a welwn ni ar gardiau yn gwneud iddo edrych yn fach ac yn wastad. Mae’r rhai gwreiddiol (x2) yn yr Orangerie ym Mharis a phaentiadau Photosynth ydynt – maen nhw’n mynd o gwmpas 360°. Edrychwch arnynt ar http://www.nytimes.com/2006/05/16/arts/design/16oran.html?_r=0

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.