Serennu ar Skype!

Oedran 7+ oed Rhwyddineb ****

Trosolwg
Mae Skype yn gyfrwng cyfathrebu sy’n syndod o rwydd i’w feistroli ac, ar y cyfan, mae’n fwy diogel na dulliau cyfathrebu eraill fel ffonau ac e-bost. Gallwch chi anfon negeseuon testun, gwneud galwadau ffôn, defnyddio fideo byw os oes gennych chi gamera, anfon ffeiliau a gwneud galwadau grŵp. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd ac mae athrawon yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio Skype i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr yn barhaus. Yn y gweithgaredd hwn, mae’r athrawes yn agor ei hystafell ddosbarth i’r byd ar yr un pryd â chadw rheolaeth lwyr dros faterion addysgu, dysgu a diogelwch.

Disgrifiad
Yn gyntaf, bydd angen i chi greu cyfrif Skype – mae’n rhwydd ac am ddim. Bydd angen i chi lwytho’r meddalwedd i lawr ond mae’r canllaw gam wrth gam yn rhwydd iawn i’w ddilyn. Mewngofnodwch i’ch cyfrif a chlicio ar ‘Add Contact’. Gofynnir i chi roi cyfeiriad e-bost yr unigolyn yr hoffech ei ychwanegu. Mae’n syniad da dechrau eich rhestr o gysylltiadau trwy ychwanegu dosbarthiadau yn yr un ysgol, cydweithwyr, dosbarthiadau mewn ysgolion eraill a phobl addas yn y gymuned, e.e. y llyfrgellydd plant lleol. Does DIM angen i ddisgyblion gael eu cyfrifon eu hunain.

Bydd y bobl rydych yn eu hychwanegu yn derbyn neges e-bost yn gofyn iddyn nhw eich derbyn chi fel cyswllt – gallant naill ai dderbyn neu wrthod. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch chi eisoes wedi siarad â nhw, gwneud yn siŵr eu bod yn fodlon i chi gysylltu â nhw ac, yn bwysig, cadarnhau bod ganddyn nhw Skype!

Pan fydd eich cysylltiadau wedi derbyn eich cais a’u bod nhw ar eich rhestr cysylltiadau, cliciwch ar ‘Call phone’ wrth y sawl rydych chi eisiau eu ffonio. Bydd angen i chi drefnu amser a dyddiad ar gyfer yr alwad gyda’ch cyswllt ymlaen llaw. Fe wnaethom ni ddefnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol a gliniadur gyda gwe-gamera wedi’i osod ynddo yn wynebu’r plant fel y gallai’r ddau ddosbarth weld a chlywed ei gilydd.

Yn ein gwers ni, roedd yr athrawes eisiau i’r disgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o’r gwahaniaethau daearyddol rhwng y dref fewndirol lle’r oedd eu hysgol nhw wedi’i lleoli a thref glan môr. Mae’r athro yn yr ysgol gyswllt yn hen ffrind iddi a, gyda’i gilydd, maen nhw wedi cynllunio cyfres o alwadau Skype i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o amgylcheddau cyferbyniol.

Roedd y dysgwyr eisoes wedi llunio’r cwestiynau roedden nhw am eu gofyn a chymerodd y ddau ddosbarth eu tro i ofyn cwestiynau. Pan ofynnwyd cwestiwn iddyn nhw, dylai’r dysgwyr godi eu llaw os oeddent yn teimlo y gallent ateb. Yn ystod y cyfweliad, gofynnwyd i’r dysgwyr ysgrifennu’r ymatebion.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, gwnaed galwadau eraill er mwyn i’r dysgwyr dreiddio’n ddyfnach a gwneud mwy o ymholiadau wrth i fwy o gwestiynau godi. I orffen yr uned waith, cyflwynodd y ddau ddosbarth eu Project Ardaloedd Cyferbyniol i’r llall trwy Skype.

Beth sydd ei angen arnaf i?
Cyfrif Skype
Cysylltiad â’r rhyngrwyd gyda’r pyrth cywir ar agor (80 a 443)
Gwe-gamera os ydych chi am wneud galwad fideo (argymhellir hyn)

Gwerth ychwanegol
Mae’r byd ar flaenau eich bysedd – yn llythrennol.
Cymwysiadau diddiwedd (gweler isod am rai enghreifftiau yn unig).
Mae’n datblygu sgiliau na allwch chi eu datblygu trwy ddulliau eraill o gyfathrebu electronig, e.e. mae negeseuon e-bost yn ‘sefydlog’ tra bod hyn yn fyw ac yn gofyn i ddysgwyr ‘feddwl yn chwim’.
Chi sy’n rheoli’r porth cyfathrebu drwy’r amser.

Awgrymiadau
Ar ôl sefydlu’r cyfrif, chi fydd ‘ceidwad porth’ eich cyfrif Skype i bob pwrpas. Chi fydd yn dewis pwy i’w ychwanegu at eich cysylltiadau a chi fydd yn rheoli pob galwad. Nid yw’n bosibl derbyn galwadau digymell – os ydych chi’n gweld enw nad ydych chi’n ei adnabod, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw peidio ag ateb yr alwad a rhwystro’r rhif gydag un clic. Hefyd, ni all neb eich galw pan fyddwch wedi allgofnodi o Skype.

Os ydych chi’n fodlon bod ag un cyswllt yn unig ar eich rhestr – rhywun rydych wedi’i adnabod am 30 mlynedd, sydd hefyd yn athro, ac sy’n digwydd bod yn addysgu yn yr ystafell ddosbarth drws nesaf – mae hynny’n iawn. Mae’n ddechrau!

Gwnewch alwad arbrofol yn gyntaf, yn bennaf i wirio’ch cysylltiad â’r rhyngrwyd. Os yw’r alwad fideo yn cael ei tharfu neu ei datgysylltu’n gyson, gallwch chi ddewis cyfweliad ‘sain yn unig’ neu SMS.

Mae Skype yn dod o dan y categori meddalwedd Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VoIP – Voice over Internet Protocol). Mae rhai eraill y gallwch chi eu defnyddio hefyd fel PhonePower, Lingo a Vonage.
Mae’n bosibl y gallai eich gweinydd atal mynediad at Skype, felly gofynnwch i weinyddwr eich gweinydd (server host) ‘ddadflocio’r porth’ y mae Skype yn ei ddefnyddio. Mae Skype yn rhaglen sy’n gweithio yn defnyddio’r rhyngrwyd ond sydd ddim ar y we fyd-eang. Mae mwy o wybodaeth am hyn yn yr adran Diogelwch. I weld sut mae gweddill y byd yn defnyddio Skype yn yr ystafell ddosbarth, ewch i https://education.skype.com – go brin fod 43,000 o athrawon yn anghywir!

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalweddSkype-icon
• Ymarfer iaith dramor.
• Cymharu patrymau tywydd yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
• Sefydlu cwisiau neu gystadlaethau sillafu rhyngwladol.
• Cynnal trafodaeth ryng-ysgol.
• Lle’r ydym ni: cysylltwch ag ysgol ‘ddirgel’, a gofynnwch i’r dysgwyr ddarganfod ei lleoliad trwy gael cyfres o gliwiau neu bosau.
• Cyfarfodydd athrawon/rhieni trwy Skype… pam lai?
• Cyfweld artistiaid, awduron, athletwyr, a phobl yn y gymuned y mae ganddynt 10 munud i’w sbario ond sy’n byw yn rhy bell i ffwrdd i ymweld â’r dosbarth.
• Ewch i http://www.edudemic.com/online-colleges-50-creative-ways-to-use-skype-in-the-classroom/ ar gyfer llawer mwy o syniadau.
• Defnyddiwch Skype i ddysgu sgìl – efallai y gallwch chi ddod o hyd i rywun a allai ddangos i’ch dosbarth sut i wneud cacen/troi pren/enwi mathau coed gwahanol (defnyddio iPad) ac ati.

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags:

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.