Hanner Call!

Oedran 7+ oed Rhwyddineb ****Fraction Families

Trosolwg
Yn ein barn ni, Visnos yw’r meddalwedd gorau erioed ar gyfer addysgu ffracsiynau – ac mae’n rhad ac am ddim! Mae’n hawdd iawn ei addasu a gallwch chi ei ddefnyddio gyda grwpiau blwyddyn gwahanol hefyd, cyn belled â’ch bod chi’n dewis y ‘teulu’ priodol o ffracsiynau ar gyfer y wal. . (‘Yn yr adnodd hwn cyfeirir at ffracsiynau fel ‘teuluoedd’, e.e. byddai ‘2s’ yn 12 14 18 ac 116 ac yn y blaen. Gallwch hefyd ddewis ‘3s’ neu ‘5s’ ar gyfer dysgwyr hŷn a/neu fwy galluog). Hefyd gallwch ddewis ‘large’ sy’n rhoi pob teulu ffracsiynau i chi neu ‘mixed’ sy’n rhoi detholiad ar hap o deuluoedd ffracsiynau i chi.

Disgrifiad
Rydym ni’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n gwylio’r arddangosiad clyweledol sy’n amlinellu holl swyddogaethau’r rhaglen, cyn i chi ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch ei wylio yn http://www.visnos.com/demos/fraction-wall.

Dangoswch y wal ffracsiynau wag i’r dosbarth. Esboniwch wrthyn nhw beth ydyw a dangoswch, yn gyflym, sut i ddefnyddio’r llygoden i amlygu ffracsiynau unigol. Esboniwch eu bod nhw’n mynd i wneud ymchwil i deuluoedd ffracsiynau a sut y gall ffracsiynau fod â’r un gwerth yn union. Dywedwch wrthyn nhw mai’r enw ar rhain yw ffracsiynau cywerth.

Gwnewch yn siŵr fod ‘Eq’ yn dangos tic, nid croes, a’ch bod chi wedi dewis y teulu priodol. Yna cliciwch ar, dyweder, 14 ar y wal ffracsiynau. Gofynnwch i’r dysgwyr beth maen nhw’n sylwi arno. Tynnwch eu sylw at y blychau ‘totals’ sy’n mynd i lawr ochr dde’r wal ffracsiynau. Gofynnwch iddyn nhw beth mae’r ffracsiynau hyn yn ei ddweud wrthym ni.

Gofynnwch i’r dysgwyr ddefnyddio’r wal ffracsiynau i ganfod cynifer o ffracsiynau cywerth â phosibl. Efallai y byddwch chi am iddyn nhw ysgrifennu eu hatebion fel hyn 14 = 28 . Esboniwch mai dim ond 5 munud sydd ganddyn nhw i wneud hyn, a phan fyddwch chi’n eu galw’n ôl byddwch chi’n gweld pwy a ganfu’r nifer mwyaf.

Pan fyddwch chi wedi gwneud hyn (a gwirio’r atebion), gallwch ddewis symud ymlaen i wal anoddach, ailadrodd y gweithgaredd gan ddefnyddio’r un wal ond gofyn iddynt ganfod degolion neu ganrannau cywerth, neu arddangos wal ar hap a gofyn iddynt fynegi eu harsylwadau ar lafar fel modd o atgyfnerthu’r hyn y maen nhw eisoes wedi’i ddysgu, e.e. “Mae un hanner yn hafal i ddau chwarter”.

Beth sydd ei angen arnaf i?
• http://www.visnos.com/demos/fraction-wall#launch a gwerslyfrau neu daflenni gwaith i gofnodi atebion.
• Bwrdd gwyn rhyngweithiol.
• Fe wnaethom ni ddefnyddio www.visnos.com gan ei fod yn ddigon rhwydd i ddysgwyr (ac athrawon) llai hyderus ei ddefnyddio.

Gwerth ychwanegol
Mae’r cysyniad o ‘ffracsiwn’ yn un anodd i lawer o ddysgwyr ei ddeall – a ffracsiynau cywerth hyd yn oed yn fwy felly! Dydy’r wal ffracsiynau ddim yn fygythiol o gwbl ac eto mae’n mynnu bod y dysgwyr yn canolbwyntio’n llwyr. Mae defnyddio’r wal fel y gwnaethom ni fan hyn, fel cyflwyniad cychwynnol, yn helpu i ddal sylw dysgwyr. Mae’n adnodd gweledol gwych ar gyfer dysgu cysyniad sy’n gallu bod yn haniaethol.

Awgrymiadau
Efallai y byddwch chi’n teimlo (yn enwedig gyda dysgwyr hŷn a/neu fwy galluog) y bydd dysgwyr yn elwa ar wylio’r arddangosiad ar-lein. Gellir stopio neu oedi’r arddangosiad ar unrhyw adeg fel nad ydyn nhw’n cael eu llethu gan ormod o wybodaeth am yr holl swyddogaethau.

Rydym ni wedi cyfeirio at ffracsiynau fel teuluoedd. Chi sydd i benderfynu pa un a yw hyn yn briodol i’ch dysgwyr chi, ond ni fydd yn effeithio ar ganlyniadau dysgu’r wers y naill ffordd neu’r llall.

Yn ein profiad ni, mae’r gweithgaredd hwn yn gweithio’n arbennig o dda pan fydd dysgwyr yn gweithio mewn parau, oherwydd bydd hyn yn darparu cymorth gan gyfoedion ac adborth trwy gydol y dasg.

Diogelwch
Mae’r meddalwedd hwn 100% yn ddiogel. Does dim dolenni i safleoedd eraill ac nid yw’r dysgwyr yn rhyngweithio â defnyddwyr eraill. Crëwyd y meddalwedd gan athro ar gyfer athrawon.

Cyfleoedd eraill i ddefnyddio’r un meddalwedd:
• http://www.visnos.com/demos/classroom-timer#launch
• http://www.visnos.com/demos/fishtables#launch
• http://www.visnos.com/demos/clock#launch

a llawer, llawer mwy! Cymerwch gip arnynt ar safle Visnos.

Diolch yn fawr i Michael McDaid, yr athro a greodd y meddalwedd hwn ac a ganiataodd i ni ei ddefnyddio fel meddalwedd prawf a’i gynnwys yn y llyfr!

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.