Caledwedd

Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn ymdrin â meddalwedd. Fodd bynnag, gofynnir i ni’n aml am ba fath o galedwedd sydd ei angen ar athrawon cynradd mewn gwirionedd, a beth ddylai fod ar eu rhestr ddymuniadau. Mae’r cwestiwn cyntaf yn eithaf rhwydd. Gellir cynnal yr HOLL weithgareddau yn y llawlyfr cynradd gyda’r offer canlynol.

(Rydym ni’n cymryd yn ganiataol bod gennych chi gyfrifiaduron, byrddau gwyn rhyngweithiol a chysylltiad â’r rhyngrwyd o leiaf.)

Camerâu

Camerâu digidol (cynifer ag y gallwch gael gafael arnynt). Gofynnwch i rieni roi eu hen gamerâu a ffonau camera i’r ysgol. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n dileu lluniau gwyliau (neu waeth) ymlaen llaw. Peidiwch â chael eich temtio gan y rhai lliwgar, ffasiynol – mae’r holl arian wedi’i wario ar y lliw a’r kitsch. Ein hoff gamera ar hyn o bryd yw’r Nikon Coolpix sylfaenol a fydd yn gwneud mwy neu lai popeth sydd ei angen arnoch. Yn ogystal â hyn, mae’n rhwydd i’w defnyddio ac yn ddigon cadarn i’w ddefnyddio mewn ystafell ddosbarth gynradd gyffredin.

Rydym ni hefyd yn hoffi camerâu Lego. Maen nhw’n edrych fel petaen nhw wedi’u gwneud o frics Lego ac mae uniadau bach arnyn nhw hefyd sy’n golygu eich bod chi’n gallu eu cynnwys mewn adeiladwaith Lego. (Gwnewch eich trybedd eich hun a’i gosod ar ben craen Lego, rhowch hwnnw ar ben car Lego a thynnwch luniau o’r stryd rydych chi newydd ei hadeiladu).

Os gallwch chi fforddio camera sydd â lens glosio, gwnewch yn siŵr ei bod yn lens glosio optegol. Mae camerâu closio digidol yn rhatach ond, yn y bôn, y cyfan maen nhw’n ei wneud yw chwyddo’r ddelwedd fel y byddech ar gyfrifiadur ac, wrth i’r ddelwedd fynd yn fwy mae’n picselu ac yn mynd yn aneglur. Yn ogystal â’r ffaith bod plant yn casáu hyn, byddwch chi hefyd yn talu am rywbeth nad oes ei angen arnoch chi.

Camerâu fideo/camerâu recordio

Dewiswch gamerâu fideo syml, rhwydd eu defnyddio sydd â chyn lleied o fotymau a swyddogaethau â phosibl. Prynwch y rhai rhataf sy’n edrych yn gadarn. Bydd y dysgwyr yn gwneud eu gwaith golygu ar y cyfrifiadur, felly mae camerâu drud â nodweddion golygu wedi’u gosod ynddynt yn eithaf dibwrpas. Yn ddelfrydol, dewiswch gamerâu fideo sy’n rhedeg ar y prif gyflenwad trydan ac ar fatris – maen nhw ychydig yn ddrutach i ddechrau, ond fel arall byddwch yn prynu ac yn newid batris byth a hefyd, sy’n gallu bod yn ddrud iawn. Os ydych chi’n dewis un sy’n rhedeg ar fatris yn unig, gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio ar fatris safonol a buddsoddwch mewn rhai y gellir eu hailwefru, ynghyd â gwefrydd.

Trybeddau camera

Rydym ni’n hoffi trybeddau Gorilla oherwydd gallwch chi eu cysylltu ag unrhyw beth ac maen nhw’n rhwyddach o lawer i blant eu defnyddio na’r math sydd â choesau sy’n ymestyn. Mae trybeddau bach â choesau sefydlog yn weddol dda, heblaw am y ffaith bod plant byth yn gallu dod o hyd i fwrdd o’r uchder iawn a’u bod nhw’n treulio oesoedd yn llusgo byrddau o amgylch yr ystafell (neu y tu allan) ac yn gosod y drybedd ar bentyrrau o lyfrau sydd wastad yn dymchwel.

Ceblau a gwifrau

Prynwch gamerâu sydd â chysylltiadau USB bach safonol. Casglwch gynifer o wifrau USB ac USB bach ag y gallwch. Mae’n syniad da gofyn i rieni roi unrhyw hen rai sydd ganddyn nhw i’r ysgol.

Microffonau

Yn ddelfrydol, bydd angen o leiaf un microffon arnoch y gellir ei gysylltu â chyfrifiadur. Ni fydd y microffonau sydd wedi’u gosod yn y rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn dal lleisiau main plant wyth mlwydd oed cyffredin. Rydym ni’n hoffi’r rhai Snowball oherwydd eu bod nhw’n rhoi ansawdd sain ardderchog am eu pris ac yn gadarn iawn.

Y rhestr ddymuniadau…

Os ydych chi am wario ychydig yn fwy, dyma ein rhestr ddymuniadau ni. Mae’n dibynnu’n llwyr ar yr hyn rydych chi eisiau ei wneud.

Dyma ein rhestr ni yn nhrefn blaenoriaeth, mwy neu lai …

Wi-Fi

Wi-Fi ar draws yr ysgol yn lle’r cysylltiadau gwifredig y mae’n rhaid i ysgolion cynradd ymdopi â nhw’n aml. Does byth digon ohonynt ac maen nhw wastad yn y man anghywir. Mae hefyd angen cyflymder llwytho cyflym arnoch os yw plant yn mynd i gyhoeddi eu gwaith ar y we. Mae’r rhan fwyaf o becynnau band eang yn cael eu hysbysebu i ddefnyddwyr domestig ar sail eu hamseroedd llwytho i lawr cyflym fel y gallwch gael eich ffilmiau ar gais heb aros am oriau. Nid yw cyflymder llwytho cyflym yn bwynt gwerthu i ddefnyddwyr nad ydynt am wneud mwy na phostio ambell sylw ar Facebook. Fodd bynnag, ni fydd angen i chi lwytho ffeiliau mawr i lawr mewn ysgolion fel arfer, ond os yw 30 o blant yn rhoi eu gwaith ar y we ar yr un pryd, fe allai hynny gymryd oesoedd os yw cyflymder llwytho y band eang yn araf.

Dyfeisiau symudol

  • Casglwch iPods/chwaraewyr mp3 a mathau eraill o galedwedd y mae pobl yn cael gwared arnyn nhw. Gallwch ddefnyddio hen rai na fydd yn rhedeg yr apiau diweddaraf i gadw traciau a recordiadau o leiaf.
  • Cynifer o ffonau symudol ag y gallwch gael gafael arnynt. Mae pobl yn tueddu i gyfnewid ffonau clyfar ond yn aml bydd ffonau sylfaenol yn gallu mynd ar y rhyngrwyd hyd yn oed. Gwell fyth petaech chi’n gallu cael rhai sydd wedi’u datgloi neu sydd heb SIM. Fodd bynnag, bydd eich defnydd arnynt yn gyfyngedig iawn os nad oes gan eich ysgol rwydwaith di-wifr. Er hynny, byddai’n dda petai’r athro yn gallu cael un y gellir ei gysylltu â’r bwrdd gwyn rhyngweithiol.
  • Os ydych chi’n mynd i fuddsoddi mewn teclynnau tabled, er gwaethaf y ffaith mai cyfrifiaduron Mac sydd orau gennym ni, byddem ni’n awgrymu’n gryf eich bod yn cael teclynnau tabled Android yn hytrach nag iPads. Maen nhw’n rhatach i’w prynu ac, yn bwysicach, mae llawer mwy o apiau rhad ac am ddim ar gael ar eu cyfer.
  • Bydd hefyd angen i chi ystyried y ffaith y bydd angen cysylltiad Wi-Fi arnoch yn gyntaf neu, fel arall, ni fyddwch yn gallu llwytho meddalwedd i lawr yn hawdd na defnyddio’r tabledau i’r diben y cynlluniwyd nhw – fel dyfeisiau symudol. Mae hyn yn swnio fel pwynt amlwg, ond rydym ni’n ymwybodol o un ysgol a brynodd ddeg ohonynt yn ddiweddar heb ystyried hyn.
  • Buddsoddwch mewn meddalwedd arbenigol. Defnyddiwch Configurator ar gyfer iPads sy’n caniatáu i chi osod eich holl iPads mewn ffordd safonol yn hytrach na gorfod eu gosod fesul un. Mae hyn yn berffaith ar gyfer ystafelloedd dosbarth lle mae angen adnewyddu’r dyfeisiau yn gyflym gan sicrhau bod y gosodiadau cywir arnyn nhw, yn ogystal â’r polisi cymeradwy, yr apiau a’r data diweddaraf.
  • Gwiriwch eich yswiriant – os ydych chi’n mynd â theclynnau tabled neu ffonau clyfar oddi ar y safle, mae’n bosibl y bydd y print mân yn eich polisi yswiriant yn dweud nad yw hynny’n cael ei gynnwys – rydym ni’n gwybod am ysgol a ddysgodd y wers honno’r ffordd galed hefyd.
  • Byddai cael un iPad/teclyn tabled/iPhone rhwng dau ddysgwr mewn dosbarth yn nod da ar gyfer y tymor hir. Mae’r llawlyfr E-ddysgu ar gyfer Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ymdrin â’r syniad o ddod â’ch dyfais eich hun, ond gwnaethom benderfynu y gallai’r trafferthion sy’n gysylltiedig â chaniatáu i 20+ o blant mewn ystafell ddosbarth gynradd ddefnyddio’u dyfeisiau eu hunain wthio’r rhan fwyaf o athrawon dros y dibyn. Erbyn i ddisgyblion gyrraedd eu harddegau, gallant ymdopi â dyfeisiau sydd â rhyngwynebau gwahanol, ond nid yw hynny’n wir yn yr ysgol gynradd.

E-ddarllenwyr

Fe wnaethon ni esbonio pam ein bod ni’n hoffi e-ddarllenwyr cymaint yn y wers e-Ddarllen yn y Dosbarth.

Microffonau radio

Os oes gennych chi Wi-Fi yn yr ysgol, buddsoddwch mewn microffonau radio fel na fydd rhaid i chi orchuddio ceblau â thâp. Bydd y rhain yn rhoi mwy o ryddid i chi hefyd. (Maen nhw’n dod gyda blwch derbyn bach sy’n cael ei wifro i gyfrifiadur neu ddesg sain.)

Robotiaid syml y gellir eu rhaglennu

Mae plant wrth eu boddau â phethau robotaidd. Mae’r Bee Bot gan TTS yn robot sylfaenol gwych y gellir ei raglennu. Mae’n syml iawn ac wedi’i gynllunio ar gyfer plant er mwyn gwella eu sgiliau TGCh. Mae’n dod mewn cragen liwgar sy’n edrych yn debyg i wenynen, a gellir newid y gragen i liwiau eraill. Y peth gorau amdano yw ei fod yn rhad.

Ceir system reoli syml ar ben y gragen. Gall y plentyn raglennu dilyniant gan ddefnyddio’r bysellau saeth, ac yna gwasgu’r botwm “Go” a bydd y robot yn cyflawni’r gweithredoedd. Fe all ddal hyd at 40 o gyfarwyddiadau. Fe all symud ymlaen ac yn ôl, troi i’r chwith ac i’r dde, ac oedi (am 1 eiliad). Ceir botwm clirio hefyd i ddechrau rhaglennu o’r newydd.

Ar y pegwn arall ceir citiau Lego. Mae’r rhain yn wych ond yn ddrud – mae tua 5 ohonynt ar gael ac maen nhw’n amrywio o ran pris o £60 i £250. Maen nhw’n gallu gwneud llawer o bethau ond nid ydynt yn addas i blant o dan 10 oed mewn gwirionedd.

Mae’r fraich robotaidd “The Edge” gan OWI yn fan canol da. Mae’n edrych fel robot, mae’n gallu gwneud llawer o bethau ac mae’n costio 50€ i 60€ yn unig.

Y llall y byddem ni’n ei argymell yw’r RC Rover gan Snap Circuits – electroneg pŵer isel syml sy’n gweithio ar fatri. Mae’n addas i blant tua 8 oed ac mae’r pris yn rhesymol hefyd, sef oddeutu 50€.

Gair o rybudd – mae llawer o robotiaid yn dod ar ffurf citiau i chi eu hadeiladu eich hun. Yn bersonol, byddem ni’n osgoi’r rhain yn gyfan gwbl oherwydd eu bod nhw’n rhy anodd i blant oed cynradd eu hadeiladu heb oruchwyliaeth unigol ddwys, a bydd rhiant sy’n deall pethau technegol yn gorfod ei wneud drosoch. Anwybyddwch y broliant ar y blwch ynglŷn â sut mae plant yn dysgu cymaint wrth eu hadeiladu.

Microsgop digidol ar gyfer ymchwiliadau gwyddoniaeth

Dyma ffefryn personol yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad o addysgu gwyddoniaeth. Mae plant wastad yn cael eu cyfareddu gan edrych ar eu gwallt neu eu croen eu hunain, y pethau maen nhw’n eu bwyta, bwystfilod bychain mewn dŵr pwll neu lu o bethau eraill yn y byd naturiol. Ceir dau fath o ficrosgop digidol yn y bôn – y rhai sy’n cysylltu’n uniongyrchol â theledu neu daflunydd data a’r rhai sy’n cysylltu â chyfrifiadur trwy USB. Dewiswch yr ail un – maen nhw’n ddrutach ond os ydych chi eisiau’r dosbarth cyfan weld y ddelwedd, cysylltwch y microsgop â’r cyfrifiadur ac yna’r cyfrifiadur â’r taflunydd. Mae cysylltu â chyfrifiadur yn golygu y gallwch wneud llawer mwy o ran trin delweddau, (rhowch gynnig ar gynlluniau lliw eithafol), fel cyfleu’r delweddau fel ffotograffau llonydd neu greu fideo treigl amser ac yn y blaen.

Gliniaduron

Wrth i hen gyfrifiaduron bwrdd gwaith gyrraedd diwedd eu hoes, newidiwch nhw am liniaduron. Mae’n gwneud synnwyr perffaith!

Byrddau gwyn rhyngweithiol

Rydym ni’n cymryd yn ganiataol y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gallu defnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol a gydag amser yn darganfod mwy a mwy am ei bosibiliadau. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o athrawon rydym ni’n gweithio gyda nhw yn dueddol o ystyried eu bwrdd fel sgrin gyfrifiadur ddefnyddiol gan ei bod yn ddigon mawr i bawb ei gweld. Rydym ni am archwilio sut y gallwch fanteisio ar ei botensial er mwyn iddo ddod yn rhywbeth y gall dysgwyr ryngweithio ag ef. Dilynwch y ddolen hon i gael rhai syniadau gwych ar gyfer eich bwrdd gwyn rhyngweithiol.

http://taccle2.eu/interesting-things-to-do-with/interesting-things-to-do-with-an-interactive-whiteboard

X box, Nintendo Wii ac ati

Mae llawer o athrawon yn edrych yn syn arnaf pan fyddaf yn mynd â ‘pheiriannau gemau’ i mewn i ysgol. Yn ogystal â’r ffaith eu bod nhw’n hwyl i’w defnyddio ac yn gallu bod yn gymhelliant, mae llawer o gyfleoedd dysgu’n bosibl hefyd. Mae Wii Skittles yn wych ar gyfer helpu plant 5 oed i adio a thynnu hyd at ddeg (“Sawl un wnes di eu taro a sawl un sydd ar ôl i’w taro?”), mae Wii Golf yn ddefnyddiol ar gyfer helpu plant ychydig yn hŷn i ddysgu sut i dynnu (“Pa mor bell yw’r twll a pha mor bell yw dy ergyd nesaf? Felly, pa mor bell oedd dy ergyd gyntaf?”). Mae Super Paper Mario yn dangos y gydberthynas rhwng 2D a 3D trwy adael i chi newid yn gyflym rhwng y ddau, ac mae Mario Kart yn dda ar gyfer gweiddi cyfarwyddiadau mewn iaith arall.

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.