Ffair o Ffilmiau.

you've been framed portrait2Oedran 10+ oed 

Rhwyddineb *

Trosolwg

Mae’r meddalwedd hwn soffistigedig a dydy e ddim wedi’i greu’n benodol ar gyfer plant. Wedi dweud hynny, dydy e ddim yn gymhleth ac mae’n sicr o fewn cyrraedd sgiliau craidd dysgwyr yroedran yma. Mae gwneud fideos yn weithgaredd defnyddiol iawn oherwydd gallwch ei ddefnyddio mewn llawer maes cwricwlwm, felly mae’n werth dod i arfer â meddalwedd golygu fideo.

Disgrifiad

Os nad oes gennych chi Windows MovieMaker ar eich cyfrifiadur, bydd angen i chi ei lwytho i lawr o’r we (defnyddiwch y ddolen sydd yn yr adran ‘Beth sydd ei angen arnaf i’). Does dim rhaid talu ffi i wneud hyn.

(Sylwer: Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur Mac, bydd y meddalwedd gyfatebol, iMovie, eisoes wedi’i gosod arno. Mae hwn yn gweithio ychydig yn wahanol).

Pan fyddwch chi’n barod, gofynnwch i’r dysgwyr agor y rhaglen. Bydd y sgrin mwy neu lai yn wag, gyda sgrin fach ddu yn y gornel dde uchaf (dyma lle bydd eu ffilm yn cael ei chwarae). Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud yn y gornel chwith uchaf; ceir y tabiau arferol yma fel ‘File’, ‘Edit’, ‘View’ ac ati. Bydd botymau technegol yn mynd i lawr yr ochr fel Import’, ‘Edit’ a ‘Publish to’. Bydd y ‘Storyboard’ ar hyd y gwaelod.

Bydd y dysgwyr eisoes wedi recordio’r deunydd y byddan nhw’n ei ddefnyddio. Gall hyn fod yn sawl clip byr neu un fideo parhaus. Gallai’r deunydd fod wedi’i ffilmio yn ystod gwers addysg gorfforol, yn ystod arbrawf gwyddonol neu ar eu gwyliau. Mae rhyngoch chi a nhw i benderfynu pa ddeunydd i’w ddefnyddio.

Y rhan fwyaf cymhleth (nad yw mor gymhleth â hynny mewn gwirionedd) yw mewnforio’r fideo. Bydd eich ffeil fideo wedi’i chadw yn un o bedwar man, rhestrir rhain yn y dolenni ar y chwith: ‘From digital video camera’ (mae hyn yn cynnwys ffonau), y ffeil ‘Video’ ar eich cyfrifiadur, y ffeil ‘Pictures’ ar eich cyfrifiadur neu’r ffeil ‘Audio or music’ ar eich cyfrifiadur.

Cliciwch ar y ddolen berthnasol a dod o hyd i’r deunydd rydych am ei ddefnyddio. Rhowch ddau glic dde arno ac, mewn eiliadau, dylai’r deunydd ymddangos ym mhrif sgrin Windows MovieMaker.

Llusgwch y clip(iau) fideo yr hoffech eu defnyddio i sgwâr gwag ar y bwrdd stori. Os ydych chi’n clicio ar y botwm chwarae o dan y sgrin yn y gornel dde, fe ddylai eich clip chwarae. Mae hyn yn rhwydd os ydych chi’n defnyddio un clip yn unig. Ar gyfer mwy nag un clip, llusgwch un i bob sgwâr gwag ar y bwrdd stori. Mae’r ffilm sylfaenol wedi’i chwblhau nawr i bob pwrpas!

Er mwyn gwneud i’r ffilm edrych fel ffilm go iawn, bydd angen i’r dysgwyr glicio ar y ddolen ‘Titles and credits’ ar y chwith. Mae’n well peidio ag arbrofi gyda ‘Title at the beginning’ a ‘Credits at the end’ nes bod y dysgwyr yn fwy cyfarwydd â’r meddalwedd a’r prosesau.

Cliciwch ar ‘Title at the beginning’ a gofynnwch i’r disgyblion deipio teitl y ffilm yn y blwch cyntaf. Gallant deipio eu henw(au) yn y blwch oddi tano. I orffen, mae’n rhaid iddynt glicio ar Add title’. Yn ôl ar y brif sgrin, gofynnwch i’r dysgwyr glicio ar ‘Titles and credits’ unwaith eto ac yna clicio ar ‘Credits at the end’. Gallant deipio eu henw(au), rôl/rolau ac ati yn y blwch hwn.

Gofynnwch i’r dysgwyr wasgu’r botwm chwarae i weld eu ffilm orffenedig a phenderfynu a ydyn nhw’n fodlon ar eu gwaith.

Os hoffech chi rannu’r ffilm gydag eraill, bydd angen i chi fynd i’r tab ‘Export as’ a chlicio ar un o’r dewisiadau. Gallech ei allforio i You Tube os hoffech ei rhannu gyda’r byd neu fel ffeil .mov y gellir ei rhannu gyda rhieni trwy Dropbox er enghraifft. Os hoffech ei rhoi ar Moodle neu ar flog, bydd angen i chi ei llwytho i fyny i You Tube yn gyntaf, ei marcio’n ‘Unlisted’ ac yna clicio ar ‘Share’. Bydd hyn yn rhoi ‘Embed code’ i chi y gellir ei gopïo a’i ludo i ble bynnag yr hoffech chi ei fewnosod. Mae marcio fideo You Tube yn ‘Unlisted’ yn golygu na fydd yn ymddangos mewn chwiliad ond bydd unrhyw un â’r cyfeiriad URL yn gallu ei weld. Bydd rhai mathau o feddalwedd blogio (e.e. WordPress) yn caniatáu i chi gopïo URL You Tube heb orfod defnyddio codau mewnosod.

Beth sydd ei angen arnaf i?

  • Windows MovieMaker, iMovie (ar gyfer cyfrifiaduron Apple Mac) neu feddalwedd tebyg.
  • Clipiau fideo o gamera digidol neu ffôn. Mae hefyd yn bosibl llwytho clipiau i lawr o’r rhyngrwyd.
  • I weld a oes gennych chi Windows MovieMaker fel rhan o becyn meddalwedd eich cyfrifiadur, cliciwch ar fotwm Windows (sydd yn y gornel chwith ar waelod eich bwrdd gwaith fel arfer), a theipiwch enw’r rhaglen yn y blwch chwilio. Os nad yw’n ymddangos yn y ffenestr wen, bydd angen i chi lwytho’r meddalwedd i lawr o’r we: http://en.kioskea.net/download/download-124-windows-movie-maker

Gwerth ychwanegol

Mae’r gwerth ychwanegol yn dibynnu’n fawr ar y cyd-destun. Er enghraifft, mae defnyddio Windows Movie Maker i olygu, cynhyrchu a chyhoeddi adroddiadau newyddion dysgwyr yn ychwanegu elfen broffesiynol a phrofiad bywyd go iawn at waith llythrennedd. Gall y rhai sy’n gadael yr ysgol ffilmio a golygu ffilm ddogfen yn seiliedig ar eu hamser yn yr ysgol. Gallai’r ffilm hon gael ei rhoi ar DVD a’i gwerthu i godi arian ar gyfer eu taith diwedd blwyddyn. Yn yr un modd â’r uned ar ddefnyddio Dvolver Moviemaker, dim ond os gallwch chi ddefnyddio meddalwedd golygu fideo y gellir datblygu’r sgiliau TG hyn i’r eithaf.

Awgrymiadau

Os hoffech chi i’r dysgwyr ddatblygu eu ffilmiau ymhellach, gallen nhw newid lliw/ffont y teitlau agoriadol a’r rhestr ddiolchiadau ar y diwedd. Gallent hefyd newid y ffordd mae’r sleidiau yn trawsnewid (pylu i mewn/allan) ac ati ac ychwanegu trac sain neu lais. Mae mwy o wybodaeth, syniadau a chyfarwyddiadau ar gael trwy deipio’r URL canlynol yn eich porwr:

http://straubroland.wordpress.com/2010/10/26/windows-movie-maker-for-teaching/

(Gyda llaw, roedd Roli Straub, a greodd hwn, yn un o’r garfan gyntaf o athrawon a hyfforddwyd gan Taccle.)

Os yw’r dysgwyr yn defnyddio’r meddalwedd hwn am y tro cyntaf, mae’n well iddynt weithio mewn grwpiau bach. Mae hefyd yn syniad da gweithio gydag ambell grŵp ar y tro yn unig. Os nad oes gennych chi lawer o brofiad o ddefnyddio’r meddalwedd eich hun, gallai gofyn i’r dosbarth cyfan geisio cynhyrchu eu ffilm eu hunain achosi straen diangen, a difetha gwers a allai fod yn ddifyr iawn fel arall!

Diogelwch

Rydym ni’n awgrymu eich bod chi’n gwirio unrhyw glipiau fideo mae’r dysgwyr eisiau eu defnyddio o’r we. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, defnyddiwch glipiau fideo a ffilmiwyd gan y dysgwyr eu hunain yn unig.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Ewch ar daith gerdded fathemategol ac annog y plant i ddod o hyd i onglau sgwâr, siapiau teselog (tessellated), ffractalau, patrymau ym myd natur, cyflinellau ac ati, a thynnu sylw atynt. Ffilmiwch y daith.
  • Gofynnwch i’r plant sefyll ar fyrddau yn yr ystafell ddosbarth a symud y camera’n araf i ffilmio gwrthrychau oddi uchod. Dangoswch y ffilm ar y bwrdd gwyn ac wedyn clicio ar ‘pause’, a thynnu amlinell o’r siapiau oddi uchod. Defnyddiwch hyn fel sail i siarad am uwcholygon, mapio ac ati. Siaradwch am – a dangoswch – olygon Google Earth o’u hysgol a thynnwch yr amlinellau.
  • Gofynnwch i’r plant wneud ffilm sy’n para ychydig funudau am bethau fel traffig, y farchnad, anifeiliaid mewn cae, plant yn chwarae, a defnyddio hyn fel man cychwyn i ysgrifennu stori.
  • Gofynnwch i’r plant wneud ffilm fer yn rhoi cyfarwyddiadau ynglŷn â defnyddio onglydd, gwneud mosäig, gwasgu blodau ac ati. Atgoffwch nhw i wneud bwrdd stori yn gyntaf.
  • Gallent gyfweld ei gilydd ynglŷn â phethau fel eu hoff lyfr a pham y byddent yn ei argymell.
  • Gallent gyfweld ag ymwelwyr â’r ysgol – ar bob cyfle! (Llywodraethwyr, staff yr awdurdod lleol, heddweision, nyrsys ac ati.)
  • Gwnewch fideo o’r wyddor – gofynnwch i blant iau wneud lluniau lliwgar o lythrennau’r wyddor. Gallent ddal y rhain yn uchel a ffilmio ei gilydd yn ynganu’r llythyren. Gallai plant hŷn wneud ffilm yn dangos enghraifft o bob llythyren, e.e. anifeiliaid, adar, ceir, cŵn ac ati.
  • Ffilmiwch wers addysg gorfforol, dawns neu ddrama a’i defnyddio fel sail ar gyfer gwella.
  • Gofynnwch i’r plant wneud fideo o’r hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud/eu hoff weithgareddau yn yr ysgol. Rhannwch hyn gyda’r rhieni, e.e. mewn nosweithiau rhieni neu drwy wefan yr ysgol.
  • Rhowch bos i’r dosbarth ei ddatrys, e.e. problem resymegol neu broblem meddwl ochrol, a gofyn i’r plant ffilmio sut maen nhw’n ei ddatrys. Mae’n ddiddorol canfod a yw eu hesboniadau’n fwy eglur pan fyddant yn gwybod eu bod yn cael eu ffilmio.
  • Gallent wneud ffilm i gyd-fynd â cherdd.
  • Gallent wneud hysbyseb ar gyfer eu hoff lyfr, man lleol i ymweld ag ef, pam y dylai pobl ailgylchu.
  • Gwnewch fideo treigl amser trwy ffilmio pethau fel wyau ieir bach yr haf, penbyliaid (tadpoles) ac ati am 30 eiliad bob ychydig ddiwrnodau. Ffilmiwch yn amlach pan fydd newidiadau’n digwydd. Lluniwch rota ar gyfer ffilmio.
  • Arbrofwch gyda sgrin werdd – ffilmiwch y plant yn erbyn cefndir glas neu wyrdd, a gosodwch feddalwedd sgrin werdd ar eich cyfrifiadur. Mae hyn yn cuddio’r cefndir gwyrdd neu las ac yn caniatáu i chi ychwanegu pa gefndir bynnag y dymunwch. Trwy wneud hyn, gallwch gyfweld â beirdd enwog/Rhufeiniaid/pobl mewn gwledydd eraill! Dyma diwtorial defnyddiol sy’n dangos i chi sut i wneud hyn: http://www.youtube.com/watch?v=dtFYD-2NRMc. Dyma feddalwedd rhad ac am ddim ar ei gyfer http://www.123videomagic.com/download.asp (Diolch i A. Lydon).
  • Gofynnwch i blant hŷn wneud fideo yn dangos y tymhorau’n newid, mathau gwahanol o dywydd ac ati ar gyfer dosbarthiadau iau (cynigiwyd hyn gan Simon Haughton).
  • Os oes gennych chi robot neu degan a reolir gan radio, defnyddiwch dâp i osod y camera ar ei ben a recordio taith y robot (cynigiwyd hyn gan @bevevans22).
  • Gofynnwch i’r plant ymarfer rhoi cyfarwyddiadau. Bydd un grŵp yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd cyrchfan, a bydd grŵp arall yn dilyn y cyfarwyddiadau gan ffilmio eu taith a recordio’r hyn maen nhw’n ei wneud.
  • Peidiwch â recordio drama neu gyngerdd yr ysgol yn unig (er y gallwch wneud hynny hefyd!) – gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfweld  â’r cast ynglŷn â sut maen nhw’n teimlo cyn ac ar ôl y perfformiad, ffilmiwch y plant yn paratoi, recordiwch rannau o’r ymarferion ac wrth wneud y golygfeydd a’r gwisgoedd, cyfwelwch y gynulleidfa ar ôl y sioe. Ychwanegwch ffilm o blentyn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndirol am y dramodydd, y cyfansoddwr ac ati.
  • Gallent wneud ffilm o’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar daith faes neu ymweliad.
  • Gallent esgus darllen y newyddion ar y teledu a darllen newyddion yr ysgol neu’r dosbarth am yr wythnos. (Gwnewch y sgrin deledu o flwch cardbord.)

This post is also available in: English, Dutch, Italian, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.