Goleuni, Cysgodion a Fi!

Light Shadows and MeTrosolwg
Mae’r ymarfer hwn yn wych i helpu dysgwyr i ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng ffynonellau golau naturiol ac artiffisial. Mae hefyd yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n ffynhonnell golau, a’r hyn nad yw’n ffynhonnell golau, a all fod yn bwnc dyrys.

Disgrifiad
Gwnewch restr o’r pethau sy’n ‘rhoi golau’. Rhestrwch bob un o awgrymiadau’r plant, hyd yn oed os ydyn nhw’n dechnegol anghywir, e.e. y lleuad. Bydd hyn yn bwysig adeg adolygu a gwerthuso eu dysgu ar ddiwedd y wers.
Rhowch ystod o ffynonellau golau iddyn nhw i’w harchwilio, e.e. tortshys ar siapiau gwahanol, llusern wersylla, cannwyll, golau darllen, etc. Gallwch chi roi lluniau o bethau nad yw’n bosibl dod â nhw i’r ystafell ddosbarth, e.e. yr haul, goleuadau stryd, goleuadau car, etc. Ar y pwynt hwn, mae’n debyg y byddwch chi’n sôn am rai materion diogelwch fel peidio â chyfeirio golau tortshys i’w llygaid, ac mai dim ond yr athro sy’n cael cynnau cannwyll!
Rhowch gyfle i’r dysgwyr ddarlunio rhai o’r ffynonellau, naill ai ar y bwrdd gwyn neu drwy ddefnyddio rhaglen ddarlunio. Neu gallech chi ddefnyddio camera digidol i dynnu lluniau. Mae hynny’n arbennig o effeithiol os ydych chi eisiau tynnu llun o ffynhonnell golau yn erbyn cefndir du.
Ar gyfer pob eitem, gofynnwch i’r plant, e.e. Ar gyfer beth mae hwn? Pwy allai ei ddefnyddio? Sut mae’n wahanol? Sut mae yr un peth? Pa mor llachar neu ddwl yw e? Ydy e’n rhoi gwres?
Rhowch siapiau 3D i’r plant, fel pêl, silindr, ciwb, a gadael iddyn nhw ddefnyddio’r tortshys i edrych ar y cysgodion gwahanol sy’n cael eu creu trwy ddisgleirio tortsh arnyn nhw. Ydy gwrthrychau gwahanol yn cynhyrchu cysgodion gwahanol? Gallech chi ofyn i’r plant roi gwrthrych ar ganol darn mawr o bapur ac i ddarlunio’r cysgodion wrth iddyn nhw symud y dortsh o gwmpas y gwrthrych.
Edrychwch ar dirnod lleol adnabyddus ar Google Earth a defnyddio opsiwn yr haul i ddangos i’r dosbarth sut mae’n edrych ar adegau gwahanol o’r dydd, a ble mae’r cysgodion yn ymddangos.
Naill ai mewn grwpiau neu fel dosbarth, chwaraewch y gêm hon er mwyn atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd: http://www.bbc.co.uk/schools/scienceclips/ages/5_6/light_dark.shtml
Cyfeiriwch yn ôl at restr wreiddiol y plant o ffynonellau golau a gofynnwch iddyn nhw drafod a ydyn nhw’n dal i gytuno â’u syniadau gwreiddiol.

Beth sydd ei angen arnaf i?
Mynediad at y rhyngrwyd.
Amrywiaeth o dortshys, llusernau, canhwyllau ac ati.
Meddalwedd darlunio – Tux, 2Simple Kidpix neu rywbeth tebyg
Camerâu digidol (dewisol)
Google Earth (Gwglwch ef a’i osod ar eich cyfrifiadur – mae am ddim)

Gwerth ychwanegol

Mae datblygu sgiliau bwrdd gwyn rhyngweithiol yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr ddefnyddio rhaglenni bwrdd gwyn sy’n fwyfwy anodd. Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddysgwyr wneud hyn ac i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o destun gwyddoniaeth allweddol ar yr un pryd.

Awgrymiadau
Mae’r gêm a argymhellir uchod yn Saesneg. Os oes gan y dysgwyr iaith gyntaf wahanol mae’n haws chwarae’r gêm gyda’r athro yn darllen y cwestiynau a’r dewisiadau yn uchel yn iaith gyntaf y dysgwyr.

Diogelwch
Gweler y gweithgaredd am awgrymiadau ymarferol ar gyfer yr elfennau nad ydyn nhw’n rhai TG. Does dim ystyriaethau diogelwch o ran y meddalwedd hwn.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Crëwch rai lluniau o’r dydd neu’r nos, gan ddefnyddio meddalwedd darlunio ar y cyfrifiadur.
• Gofynnwch i’r plant gasglu lluniau o ffynonellau golau a dod â nhw i’r ysgol. Defnyddiwch y lluniau i greu Glog neu fwrdd Pinterest i’r dosbarth (gweler yr uned Glog a Blog yn y llawlyfr hwn).
• Tynnwch luniau o’r dirwedd. Gan ddefnyddio meddalwedd trin delweddau syml, (e.e. iPhoto ar Mac4, neu Picasa neu Gimp ar Mac a Windows ill dau) arbrofwch gyda’r opsiynau effeithiau a golygu er mwyn gweld beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cynyddu neu’n lleihau’r dinoethiad, cynyddu’r cyferbyniad, lleihau dwysedd y lliw etc. Allwch chi beri i’r un ddelwedd edrych fel golygfa fin nos neu olygfa yn ystod y dydd? Allwch chi beri i’r ddelwedd ‘newid tymor’?

This post is also available in: English, German, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.