Tasgau Trydar.

twitter-birdOedran 8+ oed

Rhwyddineb ****

Trosolwg

Mae llawer o athrawon yn dweud wrthym nad ydynt yn defnyddio Twitter. Does dim ots a ydych chi’n ei ddefnyddio’n gymdeithasol neu ddim, mae’n offeryn e-ddysgu gwych. Does dim angen i ddefnyddio Twitter yn yr ystafell ddosbarth godi arswyd arnoch chi! Mewn gwirionedd, fe all gynnig rhyddid i athrawon a dysgwyr gan ei fod yn gyfarwydd, yn hyblyg ac yn hwyliog. Yn y gweithgaredd hwn, rydym wedi defnyddio Twitter i addysgu agweddau ar hanes, o ran helpu dysgwyr i ddeall teimladau, pryderon a phrofiadau pobl yn y gorffennol.

Disgrifiad

Ystyriwch gyd-destun hanesyddol – fe wnaethom ni ddefnyddio’r plant a anfonwyd o ddinasoedd mawr yn y DU ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd.

Mewn gwers flaenorol, byddwch eisoes wedi ymchwilio i bwy oedd y faciwîs a pham y bu’n rhaid iddynt adael eu cartrefi yn y dinasoedd. Yn ddelfrydol, dylech chi ddangos rhai lluniau ac arteffactau i’r plant. Ar ddiwedd y wers honno, ystyriwch enwau plant a oedd yn boblogaidd ar y pryd a gadewch i’r dysgwyr ddewis enw – mae Alfred a Betty bob amser yn boblogaidd. Sefydlwch gyfrifon Twitter ar gyfer pob plentyn ymlaen llaw gan ddefnyddio’r enw o’u dewis, e.e. MaudEvac ynghyd â hashnod ar gyfer y gweithgaredd e.e. #YEJevacuee (mae’r blaenlythrennau’n cynrychioli enw’r ysgol).

Peidiwch â gwneud yr hashnod yn rhy hir – mae’n cyfrif tuag at nifer y nodau a ganiateir – ond dylech ei wneud yn benodol iawn neu mae’n bosibl y bydd pobl eraill yn dymuno ymuno â’r faciwîs. (Ond efallai y byddwch chi’n teimlo y gallai hyn fod yn hwyl hefyd.)

Screen Shot 2014-02-06 at 14.17.20Gosodwch yr olygfa (yn ddramatig, fel y mae athrawon yn gallu bod!) Mae’n 1939 ac mae Llundain yn cael ei bomio. Atgoffwch bob plentyn o’r enw a ddewiswyd ganddynt a gadewch iddyn nhw benderfynu ar gymeriad i fynd gyda’r enw a rôl y cymeriad hwnnw, e.e. faciwî, mam sy’n dal i fyw mewn dinas fawr, plant neu oedolion yn y teulu sy’n cynnig llety, tad sydd oddi cartref yn ymladd yn y rhyfel, etc.

Dywedwch wrthynt eu bod nhw’n mynd i chwarae rôl i brofi sut beth oedd bywyd eu cymeriad hanesyddol. Mae’n rhaid iddynt ysgrifennu am sut maen nhw’n teimlo, sut leoedd yw eu cartrefi newydd, y gwahaniaethau rhwng y dref a’r wlad, sut brofiad yw mynd i ysgol newydd, cymaint y maen nhw’n gweld eisiau eu plant ac ati. Yr unig wahaniaeth yw bod ganddyn nhw Twitter.

Os yw’r dysgwyr yn dweud nad oedd Twitter yn bodoli yn 1939 (byddan nhw’n ymhyfrydu mewn gwneud hynny), esboniwch wrthynt y dylent feddwl am Twitter fel dyddiadur traddodiadol neu gyfres o gardiau post at eu rhieni.

Gadewch i’r dysgwyr bostio meddyliau, sylwadau a phrofiadau, a gofynnwch i’r plant eraill ymateb. Trafodwch y postiadau a gofynnwch i’r cymeriadau ymhelaethu, e.e. “Pam wyt ti’n teimlo’n ofnus Alfred?” Er mwyn gwneud hyn, dylech chi eich hun sefydlu cyfrif a chwarae rôl cymeriad hefyd – dewis da yw bod yn athro ysgol yn y pentref y mae’r plant wedi’u hanfon iddo. I orffen yr uned, gall y dysgwyr ysgrifennu gwerth wythnos o gofnodion dyddiadur, creu cyflwyniad ar fywydau faciwîs, neu greu gwaith celf yn seiliedig ar eu ‘profiadau’.

Beth sydd ei angen arnaf i?

  • Mynediad at y rhyngrwyd.
  • Cyfrifon ar www.twitter.com (un i bob plentyn ac un i chi eich hun).
  • Ffordd o gael mynediad at Twitter, e.e. ffonau symudol (gallai’r plant ddefnyddio eu ffonau eu hunain neu gallech brynu rhai rhad yn ail-law at ddefnydd yr ysgol) neu gyfrifiaduron personol, teclynnau tabled ac ati.
  • Mae bwrdd gwyn rhyngweithiol yn ddefnyddiol hefyd i arddangos y postiadau Twitter.

Gwerth ychwanegol

Os nad yw dysgwyr yn cael eu gorfodi i rannu syniadau wyneb yn wyneb, maen nhw’n aml yn fwy parod i gymryd rhan gan nad ydynt yn pryderu cymaint am ‘fod yn anghywir’ (mae ffugenwau’n ddefnyddiol iawn yn hyn o beth). Mae’r ffaith bod pawb yn cyfrannu yn sicrhau bod y postiadau’n dod yn gynyddol fyfyriol wrth symud trwy’r cyfraniadau amlwg fel ‘Rydw i’n teimlo’n ofnus’. Mae’r wefr o ddefnyddio ffonau symudol a/neu Twitter mewn gwersi hefyd yn ennyn diddordeb… a brwdfrydedd!

Awgrymiadau

Os nad yw’r ysgol yn caniatáu defnyddio ffonau symudol gallech chi naill ai ystyried newid polisi’r ysgol, defnyddio cyfrifiaduron personol neu declynnau tabled neu osod y dasg fel gwaith cartref. Gall y plant ddefnyddio eu cyfrifiaduron neu eu ffonau gartref. Os ydych chi’n gosod y dasg fel gwaith cartref, bydd angen i chi ddweud wrth bawb bod yn rhaid iddynt bostio o leiaf dwy neges ac ymateb i o leiaf dau berson (neu nifer tebyg) i gynnal y momentwm.

Esboniwch wrth y plant beth yw diben yr #hashnod ac y gallant gyfeirio eu neges drydar at unigolyn penodol drwy ddefnyddio’r symbol @ o flaen ei enw.

Diogelwch

Os ydych chi’n pryderu am ddiogelwch, mae sawl dewis ar gael i chi. Gallwch ddileu’r holl gyfrifon pan fydd y gweithgaredd wedi dod i ben; gofynnwch am ganiatâd rhieni i’r dysgwyr sefydlu eu cyfrifon eu hunain gyda chyfeiriadau e-bost eu hunain (neu rai eu rhieni); crëwch UN cyfrif a fydd yn cael ei oruchwylio gennych chi a rhowch y wybodaeth fewngofnodi i’r disgyblion fel y gallant ei ddefnyddio i bostio eu syniadau. O ran y dewis olaf hwn, bydd sylwadau’r dysgwyr i gyd yn ymddangos o dan yr un enw. Mae hyn yn iawn os ydych chi’n sefydlu’r wers yn seiliedig ar gymeriad o lyfr, e.e. Carrie’s War, ac yn esbonio “Rydym ni i gyd yn mynd i esgus bod yn Carrie”, ond mae’n llai o hwyl.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Gwnewch yr un peth gan ddefnyddio sefyllfaoedd eraill – mae Alldaith Olaf Scott yn un da. Mae’r plant yn dewis bod yn ddaearegwyr, gwyddonwyr, meteorolegwyr, cogyddion, meistri cŵn, llyw-wyr ac ati ac yn trydar ynglŷn â’r hyn y gallant ei weld, neu’r hyn y maen nhw’n ei wneud neu’n ei deimlo. (Ein hoff neges Twitter ERIOED oedd un gan ddisgybl a oedd yn esgus bod yn Boysie Oates a bostiodd #polar @cptscott I might B some time).
  • Un arall da i blant hŷn yw golygfa o Shakespeare neu ddrama arall y maen nhw’n ei hastudio. Fe ddefnyddion ni Macbeth ac roedd yn ddoniol iawn – negeseuon trydar y tair gwrach a aeth â’r sylw i gyd (#mactwitter x2x2 T&T fire burn+cldrn bbl #mactwitter @hecate try www.newtfrog.com for a goodd recipe). Er gwaetha’r hwyl a gafwyd, roedd wir yn rhaid i’r disgyblion ddeall y testun yn fanwl i allu trydar amdano.
  • Defnyddiwch gyfuniad o Twitter a Google Earth fel gweithgaredd mapio unigryw neu gyflwyniad i ddefnyddio Google Earth. Rhoddodd un athro yr enw GeoTweets ar y rhain. Rhowch her debyg i ‘Ble ydw i? i’ch rhwydwaith Twitter. Hynny yw, rhowch gliw i awgrymu ble rydych chi fel ‘Mae’n bwrw eira’n eithaf trwm. Mae’n ganol dydd ac mae’n dywyll iawn’. Gwnewch hyn cyn y sesiwn i roi amser i bobl ymateb. Gadewch i’r plant anfon cwestiwn yn ôl i gael mwy o wybodaeth. Gall y rhai sy’n cymryd rhan yn yr her dynnu ffotograff hefyd a’i anfon. Rhowch arweiniad i’r plant mewn ffordd gynnil – rydych eisiau iddyn nhw fod yn fforwyr, nid twristiaid! Anogwch y plant i ddarganfod gwybodaeth am ardal y GeoTweet – tystiolaeth – fe ddaethom ni o hyd i enw’r garej leol! Anfonwch y dystiolaeth yn ôl at yr anfonwr gwreiddiol trwy neges Twitter i ddweud eich bod chi wedi dod o hyd iddo. Gallech ofyn cwestiwn arall am yr ardal hefyd o bosibl.
  • Defnyddiwch eich rhwydwaith Twitter i annog y plant i gyfansoddi neges o drydar fel “#YsgolEvanJames. Beth oedd y gair y cawsoch y drafferth fwyaf i’w sillafu pan oeddech chi yn yr ysgol?” neu” #class4Newtownprimary Pa air ydych chi’n dal i gael trafferth ei sillafu?” Gofynnwch i’ch ffrindiau ‘aildrydar’ i’w rhwydweithiau nhw hefyd. Gofynnwch i’r plant lunio rhestr o’r ymatebion. Os oes gennych chi ddigon o ymatebion, fe allech chi ddangos y canlyniadau ar ffurf graff bar. Yna, yn lle’r rhestr sillafu safonol, gofynnwch i’r plant ddewis 5 (neu fwy) o’r geiriau hyn i’w dysgu. Os ydyn nhw’n dymuno, gallai’r plant anfon neges drydar yn ôl at yr unigolyn a gyfaddefodd na allai sillafu’r gair hwnnw, yn dweud wrtho/wrthi eu bod nhw’n gallu ei sillafu bellach. Cawsom ymateb gwych gan un sylwebydd chwaraeon enwog a gyfaddefodd ei fod yn dal i gael trafferth sillafu’r gair ‘goal’. Mae’n ei sillafu fel ‘gaol’ drwy’r amser. Pan wnaeth un plentyn a oedd yn hoff iawn o bêl-droed anfon neges drydar ato i ddweud y gallai ef sillafu’r ddau air erbyn hyn a’i fod yn gwybod y gwahaniaeth, cafodd neges drydar wych yn ôl yn dweud ‘Llongyfarchiadau!’.
  • Mae llawer mwy ar gael yma http://www.teachhub.com/50-ways-use-twitter-classroom

This post is also available in: English, Dutch, Italian, Spanish, Romanian

Tags: , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.