Clic, Clec, Clonc!

Today's ReporterOedran 5–9 oed

Rhwyddineb ****

Trosolwg

Mae plant yn dysgu sut i strwythuro diwrnod a datblygu eu hymwybyddiaeth gronolegol mewn cyd-destun bywyd go iawn. Cânt hefyd asesu gweithgareddau’r dydd a rhannu hyn gydag eraill trwy bapur newydd ar-lein.

Disgrifiad

Crëwch amserlen fel bod un dysgwr yn ymgymryd â rôl “Ffotograffydd y Dydd” unwaith y mis. Mae’r ffotograffydd yn cael het arbennig i’w gwisgo a cherdyn ar ddarn o linyn i’w roi o amgylch ei wddf neu fathodyn gyda Gohebydd wedi’i ysgrifennu arno. Rôl y ffotograffydd yw defnyddio camera i ddogfennu gweithgareddau’r dydd. Yn ystod amser cinio (neu’n agos at ddiwedd y dydd os oes gennych chi amser) llwythwch y lluniau ar y cyfrifiadur. Yn y prynhawn, gall y dosbarth weld y lluniau a thrafod digwyddiadau’r dydd yn gronolegol dan arweiniad yr athro. Mae dysgwyr yn meddwl ei bod hi’n ddoniol iawn gweld eu hunain yn gweithio ac yn chwarae… a does dim ots os yw rhai o’r lluniau’n aneglur neu wedi’u tynnu’n wael, maen nhw’n dueddol o gredu bod hyn hyd yn oed yn fwy difyr!

Beth sydd ei angen arnaf i?

  • Teclyn tabled neu gamera
  • Rhaglen cipio delweddau
  • Bwrdd gwyn rhyngweithiol

Gwerth ychwanegol

Yn ein profiad ni, mae atgrynhoi digwyddiadau’r dydd yn gwella cof plant ac yn eu hannog i ddweud wrth eu rhieni beth maen nhw wedi bod yn ei wneud yn yr ysgol y diwrnod hwnnw. Dydyn nhw ddim felly yn ateb “Dydw i ddim yn cofio,” pan ofynnir iddyn nhw.

Awgrymiadau

Caniatewch i’r dysgwyr dynnu lluniau am hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, ond cyfyngwch y cyfnodau pryd y cânt wneud hyn i’r ychydig funudau cyntaf o wers neu fe all darfu gormod. Cofiwch ofyn iddynt dynnu ffotograffau yn ystod amser egwyl ac amser cinio hefyd. Efallai y byddwch chi am oruchwylio hyn eich hun, neu gallech ofyn i blentyn hŷn cyfrifol helpu’r gohebydd.

Wrth i’r plant ddechrau gwneud hyn, efallai na fydd modd defnyddio llawer o’r lluniau. Mae’n bosibl na fydd y plant yn defnyddio swyddogaethau’r camera yn effeithiol neu’n rhoi bys dros y ffenestr! Fodd bynnag, mae’r rhain yn bwyntiau addysgu pwysig a dylid eu trafod yn y sesiwn lawn.

Gwnewch yn siŵr fod batri’r camera wedi’i wefru a’i fod yn gweithio’n iawn. Mae wastad yn siomedig os yw’r dysgwyr yn awyddus i fynd ati ac yna’n canfod nad yw’r camera’n gweithio!

Gwnewch yn siŵr fod pob plentyn yn cael cyfle i fod yn ohebydd.

Os nad oes gennych chi amser i lwytho’r lluniau amser cinio neu yn ystod y prynhawn, gwnewch hynny ar ôl ysgol a’u hadolygu’r bore wedyn cyn enwebu’r plentyn nesaf i fod yn “Ffotograffydd y Dydd”.

DiogelwchToday'r reporter 2

Os ydych chi’n penderfynu llwytho lluniau o’r plant i’r rhyngrwyd, gwnewch yn siŵr fod gennych chi ganiatâd rhieni.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Os ydych chi’n rhoi’r lluniau mewn cyflwyniad PowerPoint, gallwch ysgrifennu sylwadau’r plant ar y sleidiau wrth i chi adolygu gweithgareddau’r dydd. Llwythwch y cyflwyniad i Slideshare (www.slideshare.net) ac yna defnyddio’r cod mewnosod i ychwanegu’r cyflwyniad at flog eich ysgol/dosbarth. Neu gallwch chi rannu’r manylion mewngofnodi gyda’r rhieni. Gallwch chi hyd yn oed ychwanegu sylwebaeth sain ar Slideshare! Fel arall, defnyddiwch www.picasa.google.com
  • Defnyddiwch www.fodey.com neu www.inthepaper.co.uk i droi adroddiadau’n bapurau newydd. Mae’r meddalwedd hwn yn wych – mae’n rhad ac am ddim, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn cynhyrchu ‘papurau newydd’ realistig o’ch adroddiadau a’ch ffotograffau.

This post is also available in: English, Italian, Spanish, Romanian

Tags:

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.