Teimladau Tafodrydd

Fuzzy FeelingsTrosolwg
Mae’r gweithgaredd hwn yn ddifyr a gellir ei ddefnyddio fel aseiniad bach ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn. Mae’n helpu disgyblion i deimlo’n rhan o’r dosbarth ac yn datblygu eu hymwybyddiaeth o deimladau pobl eraill. Os ydych chi’n gyfarwydd â’r gweithgaredd “Y Nodyn Bach”, gellir ystyried y gweithgaredd hwn fel fersiwn modern ohono.

Disgrifiad
Dechreuwch drwy ddangos i’r plant sut i ddefnyddio www.blabberize.com i wneud Blabber. Esboniwch wrthynt mai llun neu ffotograff 2D sy’n siarad yw blabber. Mae’n bosibl y byddwch eisoes wedi dangos Blabber iddynt a wnaethoch chi ymlaen llaw.

Os oes gan eich cyfrifiadur ficroffon gosodedig, bydd hwnnw’n ddigonol fel arfer. Os ydych chi’n defnyddio microffon allanol, dangoswch i’r plant sut i’w ddefnyddio cyn i chi ddechrau.

Rhowch enwau’r plant ar ddarnau unigol o bapur a’u rhoi mewn blwch. Gofynnwch i bob plentyn ddewis darn o bapur o’r blwch yn ei dro heb ei ddangos i neb. Os yw’n dewis ei enw ei hun, gofynnwch iddo roi’r papur yn ôl yn y blwch a dewis un arall. Erbyn y diwedd, bydd gan bawb “Gyfaill Cudd”. Dros gyfnod o amser, byddwch chi’n rhoi cyfle i bob dysgwr anfon “neges arbennig” at ei gyfaill cudd. Gellir anfon neges ben-blwydd, dymuniadau da am y flwyddyn newydd, cyfarchion ar ddiwrnod pan fydd y cyfaill cudd yn cael cerdyn adroddiad da iawn, canlyniadau chwaraeon da iawn, steil gwallt newydd… gallwch anfon Blabber am unrhyw reswm! Y cyfaill cudd sydd i benderfynu pryd yr hoffai wneud hyn, ar yr amod ei bod yn adeg gadarnhaol. Gall y neges fod yn un fer, cân, cerdd neu sylw canmoliaethus iawn! Pan fydd y neges wedi’i chreu, gall y dysgwr naill ai dewis llun o’r gronfa ddelweddau a ddarperir neu lwytho ffotograff neu lun o gyfrifiadur y dosbarth. Gellir anfon y ddolen ar gyfer y Blabber at y “cyfaill cudd” ar yr adeg ddewisedig.

Beth sydd ei angen arnaf i?
Microffon (oni bai bod un yn rhan o’ch cyfrifiadur)
www.blabberize.com
Tiwtorial ar: http://www.youtube.com/watch?v=FEtUu1r8Pe4
Un tebyg ond gyda mwy o nodweddion: www.goanimate.com

Gwerth ychwanegol
Bydd pob dysgwr yn cael hwb annisgwyl i’w hyder.
Mae’n apelio at synnwyr digrifwch gwirion plant.
Dysgu sut i ddweud rhywbeth dymunol a bod yn garedig mewn ffordd ddifyr a hwyliog.

Awgrymiadau
Gwnewch hyn ar ddechrau’r flwyddyn neu cytunwch ar gyfnod diffiniedig ar gyfer y gweithgaredd. Fe all fod yn anodd i blant aros misoedd am eu neges.

Penderfynwch ar hyd y neges ymlaen llaw.

Diogelwch
Os ydych chi am gael ffotograffau o bobl enwog neu’n ansicr pa un a allwch chi ddefnyddio delwedd, ceisiwch ddefnyddio delweddau o http://search.creativecommons.org/ yn unig. Mae’n ddiogel i ddysgwyr ddefnyddio ffotograffau o’u hunain, ond gofynnwch iddynt beidio â rhoi eu henwau a’u cyfeiriadau ac ati.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Gellir ei ddefnyddio i greu cymeriadau ffuglennol a pharatoi monologau ar eu cyfer.
• Cyflwyniadau yn arddull Talking Heads: bywgraffiadau o bobl enwog/hanesyddol yn eu cymuned.
• Creu bwletinau newyddion ar gyfer y dosbarth.
• Gwneud tiwtorialau “Sut i…”.
• Creu eu negeseuon Blabber eu hunain ar gyfer gwyliau ac achlysuron arbennig.

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.