Dwi wrth fy modd gyda Raspberry Pi , Makey Makeys, Drawdio a’u tebyg! Mae’r ffaith bod parseli newydd yn cynnwys teclynnau anhygoel yn cyrraedd bron pob dydd yn dipyn o jôc yn y swyddfa erbyn hyn! Ond dyna ni, fe fyddan nhw’n genfigennus tu hwnt pan welan nhw Blokify. Dwi ddim wedi dweud wrthyn nhw Full Article…
Amser a Ddengys.
Oedran 9–12 oed Rhwyddineb *** Trosolwg Mae deall sut mae’r byd a phopeth o’i fewn yn newid dros amser yn hanfodol i ddeall y cysyniad o ddiwrnod, wythnos, tymor a blwyddyn, a chysyniad cyffredinol ‘amser’. Bydd y plant yn cael cyfle i ddadansoddi sut mae gwrthrych yn newid dros amser, boed hynny’n blanhigyn yn tyfu, Full Article…
Mathemateg Maes.
Oedran 9–12 oed Rhwyddineb **** Trosolwg Mae Google Earth yn enw eithaf cyfarwydd erbyn hyn ac mae’n gwella drwy’r amser ac yn parhau i gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer addysgu a dysgu trawsgwricwlaidd. Yma, fe ddefnyddion ni’r offer mesur Line and Path i ganfod pellteroedd sy’n anodd eu mesur. (Er hwylustod, cyfeirir at Google Earth Full Article…
Chwilio Chwim!
Trosolwg Peiriant chwilio yw WolframAlpha, ac mae’n gweithio mewn ffordd gwbl wahanol i Google, dyweder. Tra bydd peiriannau chwilio eraill yn darparu llwythi o ganlyniadau ar ffurf tudalennau gwe – a llawer ohonynt yn rhy fanwl ac anodd i ddysgwyr eu darllen a chanfod yr hyn sydd arnynt ei eisiau – mae’r canlyniadau ar WolframAlpha Full Article…
Moovly Grwfi
Defnyddiwch Moovly i greu cartwnau, cyflwyniadau a phosteri. Mae’n hawdd i recordio’ch hun yn darllen y cyfarwyddiadau a defnyddiwch luniau sydd ar gael ar y wefan yn barod i greu’r fideo. fe allwch ddefnyddio lluniau eich hun hefyd. Mae’n gret ar gyfer cyflwyno damcaniaethau gwyddonol ac i adrodd storiau gwyddonol. Dyma gyflwyniad sydyn.