Oedran 6+ oed
Rhwyddineb *****
Trosolwg
Wordles yw’r patrymau geiriau sydd i’w gweld ym mhobman y dyddiau hyn. Rydym ni’n hoff iawn o’r meddalwedd sy’n eu cynhyrchu! Mae mor rhwydd ei ddefnyddio ac mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd. Ar gyfer yr enghraifft hon, rydym ni wedi ddefnyddio Wordle i greu gweithgaredd cynhesu difyr a chyflym ar gyfer gwers.
Disgrifiad
Ewch i http://www.wordle.net/. Cliciwch ar ‘Create’ ar hafan Wordle. Gallwch chi naill ai teipio neu dorri a gludo’r testun rydych am ei ddefnyddio yn y blwch mawr gwyn. (Gwnaethom ni ei ddefnyddio ar gyfer gemau sillafu a geirfa, er enghraifft, gan ddefnyddio ansoddeiriau yr oeddem am eu hadolygu.) Pwyswch ‘Go’ ac aros ychydig eiliadau iddo greu Wordle yn defnyddio’r geiriau a roddwyd gennych.
Arddangoswch y Wordle ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol am gyfnod penodol (bydd 30 eiliad yn ddigon fel arfer) a gofynnwch i’ch dosbarth ysgrifennu cynifer o eiriau ag y gallant yn yr amser a roddir.
Pan fyddwch chi wedi ymgyfarwyddo â hyn, rhowch gynnig ar wahanol arddulliau, lliwiau a gosodiadau. Yn ein barn ni, mae dewis ‘Horizontal’ neu ‘Mostly Horizontal’ yn y tab ‘Layout’ yn llai dryslyd i ddisgyblion iau. Dewiswch ffont addas trwy glicio ar y tab ‘Font’ – ‘Vigo’ neu ‘ChunkFive’ yw’r rhai gorau.
Yn olaf, os oes gennych chi ddisgyblion y mae’n well ganddynt sgriniau lliw yn hytrach na’r lliw gwyn llachar, cliciwch ar y tab ‘Colours’ a dewis un o’r cynlluniau sydd wedi’u gosod ar gefndir tywyll, e.e. ‘yramirP’.
Ar gyfer y gweithgaredd cynhesu hwn gallech chi ddefnyddio geirfa bynciol, rhestrau sillafu, cerddi neu ddarnau o lyfrau i enwi ond ychydig.
Beth sydd ei angen arnaf i?
Ar gyfer gweithgaredd dosbarth cyfan, mae bwrdd gwyn rhyngweithiol neu daflunydd yn eithaf hanfodol. Fodd bynnag, gallwch chi greu Wordles i ddisgyblion eu defnyddio’n unigol neu mewn parau ar gyfrifiadur personol.
Dyfais amseru – fe ddefnyddiais i amserydd ŵy! Ond byddai cloc, watsh neu stopgloc yn gwneud yr un peth.
Gallwch chi hefyd ddefnyddio Tagxedo, sydd ychydig yn fwy cymhleth na Wordle. Mae’n gwneud yr un peth yn y bôn, ond mae’n caniatáu i chi greu patrymau mewn amrywiaeth o siapiau – mae’r ffotograff yn dangos plant yn gwneud cymylau geiriau ar thema’r Nadolig http://www.tagxedo.com/
Gwerth ychwanegol
Dyma un o’r adnoddau ar-lein sy’n cymryd llai o amser na chreu gweithgareddau tebyg gyda phinnau ffelt a phapur. Yn ogystal â bod yn gyflym, gellir ei addasu’n ddiddiwedd hefyd! Byddai’n cymryd o leiaf awr i greu rhywbeth tebyg ar boster neu drwy ysgrifennu ar fwrdd gwyn/bwrdd du. Mae hwn yn barod i’w ddefnyddio mewn llai na 5 munud!
Awgrymiadau
Efallai yr hoffech chi greu Wordle ymlaen llaw a gofyn i’r dysgwyr pa gynllun lliwiau, ffont a gosodiad sy’n ei gwneud yn haws iddynt adnabod y geiriau. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych chi ddysgwyr sy’n darllen llyfrau gan ddefnyddio miswrn (visor) lliw.
Diogelwch
Efallai yr hoffech chi ddweud wrth y dysgwyr i beidio ag agor unrhyw Wordles sydd eisoes yn bodoli heb eich caniatâd – wedi dweud hynny, dydym ni erioed wedi gweld rhai amheus ar y safle!
Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
- Beth am roi cynnig ar ysgrifennu straeon cwmwl:
Mewn grwpiau o bedwar, mae’r dysgwyr yn dewis stori o lyfrgell y dosbarth/yr ysgol a’i darllen.
Maen nhw’n dewis geiriau allweddol o’r stori (20 i 40 o eiriau)
Rhowch y geiriau yn http://www.tagxedo.com/app.html a llwytho i fyny.
Newidiwch y lliwiau, y thema, y ffontiau, y gogwydd. Dewiswch siâp sy’n adlewyrchu/crynhoi’r stori a ddewiswyd.
Rhannwch y gwahanol gymylau ar Facebook, Twitter ac ati. Gallwch chi ddefnyddio ‘Print screen’ a rhannu’r ddelwedd ar flog neu dudalen we os yw hynny’n well gennych.
O’r cymylau a grëwyd, mae’r dysgwyr yn dewis un a’i ddefnyddio fel ysgogiad ar gyfer eu stori eu hunain. Ar ôl gorffen, gallent wneud cwmwl o’r stori honno hefyd.
Yn olaf, dewiswch ddysgwyr i ddarllen eu stori’n uchel. Mae’r dysgwyr yn trafod y nodweddion sy’n debyg ac yn wahanol rhwng y testunau gwreiddiol a’r straeon cwmwl. Gellir rhannu straeon ysgrifenedig ar lein, e.e. ar flogiau, Glogiau neu wefannau.
- Gyda phlant hŷn, torrwch a gludwch destun o wahanol straeon y maen nhw wedi’u darllen yn ystod y flwyddyn (peidiwch â rhoi’r enwau), a gweld a ydyn nhw’n gallu dyfalu pa rai ydynt.
- Defnyddiwch destunau gan nifer o awduron sy’n trafod yr un pwnc neu gan awduron o gyfnodau gwahanol. Er enghraifft, sut mae disgrifiad o olygfa ddomestig yn Teulu Bach Nantoer yn cymharu â golygfa ddomestig gyfoes yn Bownsio gan Emily Huws?
- Edrychwch ar Wordles o areithiau enwog a gweld a allwch chi ddyfalu pa rai ydynt (mae araith sefydlu Barack Obama yn gweithio’n dda).
This post is also available in: English
No comments yet.