Helfa QR.

Oedran 9+ oed

 

Rhwyddineb ***

 

Trosolwg

Cod QR (sef Cod Ymateb Cyflym) yw’r nod masnach ar gyfer math o god bar 2D a ddyluniwyd ar gyfer y diwydiant modurol yn Japan. Ers hynny, mae’r system cod QR yn gyffredin iawn a bydd y disgyblion wedi gweld enghreifftiau ohoni ym mhobman. Mae’r cod yn cynnwys modiwlau du (dotiau sgwâr) wedi’u trefnu mewn grid sgwâr ar gefndir gwyn. Yn y gweithgaredd hwn, byddwn ni’n edrych ar ffyrdd o ddefnyddio codau QR yn yr ystafell ddosbarth.

 

Disgrifiad

Casglwch ynghyd lyfrau darllen a chyfeirlyfrau gwahanol sydd ar gael yn yr ystafell ddosbarth. Gwnewch yn siŵr fod codau bar ar eu cefnau. Trafodwch nodweddion llyfr, e.e. clawr, meingefn, mynegai, broliant, tudalen gynnwys, teitl, awdur, etc. Yn olaf, tynnwch eu sylw at y cod bar; gofynnwch iddyn nhw beth ydyw. Beth yw ei ddiben? Pam mae cyhoeddwyr yn eu defnyddio?

Esboniwch wrthyn nhw y gallant greu eu codau eu hunain i gadw gwybodaeth am lyfrau. Efallai hoffech chi ddangos iddyn nhw sut mae cod QR yn gweithio (defnyddiwch hysbyseb mewn cylchgrawn neu eitem o gynnyrch, etc).

Gofynnwch i bob plentyn ddewis eu hoff lyfr, h.y. llyfr y maen nhw wedi’i ddarllen ac yn eithaf cyfarwydd ag ef. Yna bydd angen iddyn nhw ddod o hyd i rywbeth ar lein sy’n rhoi mwy o wybodaeth i bobl eraill am y llyfr, yr awdur neu’r stori, e.e. cyfweliad ar-lein â’r awdur, fideo sy’n ymwneud â’r stori neu’r dudalen Wikipedia sy’n berthnasol i awdur y llyfr. Gall hyd yn oed disgyblion ifanc neu lai galluog ddod o hyd i lun sy’n addas i’r llyfr.

Gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol, dangoswch iddyn nhw sut i ddod o hyd i gynhyrchydd cod QR rhad ac am ddim – mae www.qrstuff.com a http://www.visualead.com/qurify2 yn dda iawn. Fe ddefnyddion ni www.qrstuff.com

Dim ond tri cham sydd i’r broses: maen nhw’n dewis ‘Website URL’ o’r ddewislen ‘Data Type’ ac yna’n gludio URL y dudalen we o’u dewis i’r blwch ‘Website URL’. Ar yr adeg hon, gallwch anwybyddu’r swyddogaeth ‘Choose a colour’. Dewiswch ‘Download’ – yr allbwn symlaf – a chadw’r cod QR ar y bwrdd gwaith fel ffeil jpg neu png. Rhowch enw amlwg i’r ffeil jpg, e.e. NicQRcode fel y gall y dysgwr ei hadnabod.

Yna gall y disgyblion greu eu cod eu hunain, ei lwytho i lawr, ei argraffu, ei lamineiddio a’i ludio y tu mewn i glawr blaen eu llyfr.

Caniatewch i’r plant sganio codau QR ei gilydd. Gofynnwch iddynt pa rai roedden nhw’n eu hoffi a pham. Ar sail y wybodaeth a gawsant am y llyfrau a sganiwyd, gofynnwch iddyn nhw ddewis llyfr yr hoffen nhw ei ddarllen.

 

Beth sydd ei angen arnaf i?

  • Bwrdd gwyn rhyngweithiol
  • Dyfais sydd â darllenydd QR wedi’i osod arni (mae apiau rhad ac am ddim ar gael ar gyfer yr holl ffonau clyfar a theclynnau tabled)
  • Argraffydd
  • Papur lamineiddio
  • Mynediad at y rhyngrwyd

 

Gwerth ychwanegol

Mae’r gwerth ychwanegol yma yn ddeublyg; yn ogystal â thanio brwdfrydedd dysgwyr mewn llyfrau, mae’r gweithgaredd hwn hefyd yn eu galluogi i gysylltu deunydd darllen traddodiadol â’r rhithfyd sy’n rhan gynyddol o’u bywydau. Darllenwch yr adran ‘Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd hwn’ i ddarganfod sut y gallwch ei ddefnyddio mewn ffyrdd eraill newydd a chyffrous ar ôl i chi a’ch dosbarth ddod yn gyfarwydd â chreu codau QR!

 

Awgrymiadau

Mae’r pethau arferol o ran trefnu ystafell ddosbarth yn berthnasol: efallai eich bod eisiau’r dysgwyr weithio mewn parau neu grwpiau y tro cyntaf iddynt wneud hyn (fe all achosi llai o straen). Hefyd, os ydych chi’n gweithio gyda dysgwyr iau, gallech ofyn i bob un ohonynt gysylltu eu codau â’r dudalen berthnasol ar Wikipedia (neu safle tebyg) yn hytrach na chael ‘dewis rhydd’ o bopeth sydd ar y we.

 

Diogelwch

Rydym yn cymryd yn ganiataol mai eu hoff lyfr fydd Harry Potter neu War Horse, yn hytrach na Fifty Shades of Grey, felly mae’r unig faterion diogelwch yn ymwneud â chwilio ar y rhyngrwyd. Fe ddylai fod gan eich ysgol fur gwarchod digonol a fydd yn rhwystro unrhyw beth amheus rhag ymddangos yn ystod y gweithgaredd hwn.

 

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

 

  • Rydym ni wrth ein boddau â’r y syniad o gysylltu codau QR â’r gwaith y mae dysgwyr wedi’i greu ar-lein. Ystyriwch y gweithgareddau ‘Her Jig-so’ neu ‘Teimladau Tafodrydd’ yn y llawlyfr hwn: gall dysgwyr greu cod QR ar gyfer eu jig-so neu eu Blabber ac yna ei ludio yn eu llyfrau gwaith. Gall unrhyw un sydd eisiau gweld eu gwaith sganio’r cod a byddant yn cael eu tywys iddo ar unwaith! (Bydd timau arolygu yn hoff iawn o hyn!)
  • Gall dysgwyr fynd â’u codau QR adref gyda nhw hefyd er mwyn i’w rhieni allu sganio a gwerthfawrogi eu creadigaethau.
  • Pan fyddwch chi’n fwy hyderus, gallwch ddefnyddio’r cynhyrchydd i roi cod lliw i’r codau QR er mwyn creu cod lliw cyfeiriol, e.e. codau QR gwyrdd ar gyfer gwaith gwyddoniaeth, rhai coch ar gyfer hanes ac ati.
  • Crëwch godau QR ar gyfer darnau diddorol o wybodaeth neu fideos, eu lamineiddio a’u rhoi ar waliau coridorau a lwwybrau. Trwy wneud hyn, mae’r mannau ‘segur’ hyn yn dod yn fannau dysgu.
  • Defnyddiwch Google docs i greu taflenni gwaith a thaflenni atebion. Cysylltwch y daflen atebion â chod QR ac yna ychwanegwch ddelwedd y cod QR at waelod y daflen waith cyn i chi ei hargraffu. Yna, gall disgyblion wirio eu hatebion trwy sganio’r cod.
  • Mae llawer o syniadau ar gyfer cwisiau cod QR ar gael ar-lein. Rydym ni’n hoffi http://www.kerryjturner.com/?p=446
  • Defnyddiwch godau QR i greu Helfa Drysor neu Helfa Sborion o amgylch eich ysgol neu bentref. Mae un darn o feddalwedd rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i wneud hyn yn rhwydd ar gael gan Class Tools yn http://www.classtools.net/QR/create.php
  • Edrychwch ar http://www.slideshare.net/jonesytheteacher/40-interesting-ways-to-use-qr-codes-in-the-classroom. Mae’n wych!

This post is also available in: English, Romanian

Tags: , , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.