Hysbysebion Hawdd.

Oedran 10+ oed Awesome advert

Rhwyddineb ***

Trosolwg

Fe ddefnyddion ni feddalwedd Animoto ar gyfer y gweithgaredd hwn. Yr arwyddair ar eu gwefan yw “Making awesome easier”, ac mae’n wir! Mae dysgwyr yn creu hysbyseb 30 eiliad ar unrhyw bwnc o’u dewis. Yn yr enghraifft hon mae dysgwyr yn gwneud fideo i hyrwyddo eu hysgol.

Disgrifiad

Dechreuwch drwy ddangos fideos i’r dysgwyr a grëwyd gan ysgolion eraill. Mae http://www.youtube.com/watch?v=T7TI-AJi2O8 yn wych!

Trafodwch y fideo gyda’r dysgwyr ac esboniwch eu bod nhw’n mynd i greu eu fideo eu hunain ‘i godi proffil eu hysgol’. Dywedwch wrthyn nhw na fydd angen i’w fideo bara mwy na 30 eiliad (gan mai hwn fydd eu cynnig cyntaf). Anogwch nhw i greu byrddau stori yn amlinellu pa agweddau ar fywyd ysgol, lleoliadau, pobl ac ati yr hoffen nhw eu cynnwys. Yna gofynnwch iddyn nhw fynd i wneud fideo a thynnu lluniau llonydd ar gyfer eu ffilmiau. Y ffordd orau o wneud hyn yw mewn grwpiau bach. Gallwch neilltuo rolau fel actor, cyflwynydd, rheolwr llwyfan, cyfarwyddwr ac ati. (Mae bathodynnau go iawn yn ychwanegu at yr hwyl!)

Pan fyddan nhw wedi casglu digon o ddeunydd, y cam nesaf yw llwytho’r lluniau a’r fideos o’r camerâu i’r cyfrifiadur.

Yna, dywedwch wrthynt am fynd i www.animoto.com a chreu cyfrif os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Cyn belled â’ch bod chi’n dewis ‘Lite Package’, ni fydd tâl misol. Os bydd naidlenni’n ymddangos yn gofyn a hoffech chi uwchraddio, caewch nhw. Pan fyddwch wedi creu cyfrif, byddwch chi’n cael eich tywys i diwtorial. Gwyliwch y tiwtorial eich hun, ond mae’n syniad da ei wylio gyda’r dysgwyr hefyd. Mae’n fyr iawn ond yn cynnwys llawer o wybodaeth.

Dechreuwch drwy glicio ar ‘Create Video’. Yna cewch eich tywys trwy’r broses o ddewis arddull ar gyfer creu fideo. Os bydd naidlen yn ymddangos yn gofyn am uwchraddio, dywedwch wrth y disgyblion am glicio ar y ddolen oddi tano sy’n dweud ‘I want to create a 30 second video’ a byddant yn cael eu tywys i dudalen lle y gallant ychwanegu cerddoriaeth, lluniau, fideo ac ati a’u haildrefnu yn y ffenestr olygu. Gallant weld rhagolwg o’u hysbyseb a’i hailolygu ar unrhyw bryd, felly dywedwch wrthynt am beidio â phoeni ynglŷn â chael popeth yn berffaith y tro cyntaf!

Yn olaf, dylen nhw glicio ar ‘Produce Video’ ac fe fyddan nhw wedi creu fersiwn derfynol eu hysbyseb. Os ydynt yn copïo’r URL, gallant ei anfon at ffrindiau trwy neges e-bost neu ei arddangos ar wefan yr ysgol/safleoedd cyfryngau cymdeithasol.

Gwerth ychwanegol

Mae dysgwyr yn creu fideos difyr sy’n edrych yn broffesiynol iawn yn gyflym ac yn rhwydd heb unrhyw drafferth na gwaith golygu helaeth!

Awgrymiadau

Os ydych chi’n hoffi’r feddalwedd hon ac yn dymuno ei huwchraddio fel y gallwch gynhyrchu fideos hirach a chael defnyddio mwy o nodweddion, pris tanysgrifiad blwyddyn i’r pecyn Animoto Plus yw $30-50 yn unig. Gall y gerddoriaeth gefndir fod yn eithaf uchel, felly mae’n gweithio orau os nad yw’r ffilm a dynnwyd yn cynnwys sain neu os gellir boddi’r sain – os ydyn nhw am gael pobl yn siarad, bydd angen dal y camera fideo yn agos iawn i’r sawl sy’n siarad neu ddefnyddio microffon ar wahân. Neu gofynnwch i’r unigolyn siarad yn uchel ac yn glir.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Creu albwm o luniau gwyliau. Dyma un a grëwyd gennym ni:http://animoto.com/play/1CF1PYZb67JMKzT1VdbNgw
  • Creu fideo ‘Dosbarth 2012’ o’r ddawns adael neu gasglu atgofion am amser y dysgwyr yn yr ysgol
  • Gwneud fideo o’r gemau maen nhw’n eu chwarae amser egwyl
  • Gwneud fideo o rigymau sgipio
  • Ffilmio’r dosbarthiadau iau yn gwisgo gwisgoedd ffansi
  • Gwneud fideo ‘cudd’ o berfformiad neu gyngerdd ysgol i ategu unrhyw fideo ‘proffesiynol’ (sy’n llawer mwy o hwyl)
  • Cadw cofnod o’u teithiau ysgol
  • Rhoi pynciau gwahanol a ‘chyferbyniol’ i grwpiau, e.e. y pethau gorau/prydferthaf am ein tref a’r pethau hyllaf am ein tref
  • Gwneud fideo ynglŷn â mater cymunedol, e.e. sbwriel, ailgylchu
  • Defnyddio Animoto i greu bywgraffiad eu hunain.

This post is also available in: English, Dutch, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.