Mi fydd S4C yn torri tir newydd ddiwedd Mai wrth i’r comig rhyngweithiol Cymraeg cyntaf erioed gael ei lansio sef Madron www.s4c.co.uk/madron/desktop/
Fe fydd yr antur rhyngweithiol i bobl ifanc yn ymddangos am y tro cyntaf ar y sgrin wrth i animeiddiad arloesol gael ei ddarlledu ar S4C nos Iau 22 Mai. Ond dim ond y cam cyntaf fydd hwnnw ar daith gyffrous fydd yn rhoi’r stori yn nwylo’r gwylwyr o fan ‘na ymlaen.
Wedi darllediad y rhaglen, mae’r stori yn parhau mewn cyfres o appiau comig rhyngweithiol sydd wedi eu creu gan gwmni Cube Interactive o Gaerdydd. Mi fydd y pedwar app, sydd ar ffurf comics llawn fidios a gemau ar gael i’w lawrlwytho i dabled neu ffôn clyfar, un bob wythnos – gan gynnig antur newydd ddigidol, a’r cwbl yn y Gymraeg.
Mae Madron yn dilyn dau gymeriad dewr, Seren ac Ishmael, sy’n ceisio achub y byd rhag firws ffyrnig sydd yn bygwth dinistrio’r ddynoliaeth, ac sydd hefyd yn troi pawb yn sombis.
Fe aiff Seren ac Ishmael ar antur enbyd ar draws Cymru, sy’n eu harwain o Gaerdydd i gopa’r Wyddfa i geisio canfod yr ateb i ddifa’r firws.
Mae Comisiynydd Cynnwys S4C, Sioned Wyn Roberts wedi ei chyffroi ynghylch cynhyrchiad y prosiect aml blatfform, Madron.
“Mae o’n torri tir newydd gan mai hwn ydi’r comic rhyngweithiol Cymraeg cyntaf, a bydd pobl ifanc wrth eu boddau gyda’r animeiddiad a’r apps rhyngweithiol. Mae stori Madron hefyd yn gryf, yn ddrama dda, ac yn rhywbeth ychydig bach yn wahanol, ac yn arloesol i S4C. Mae hi’n bwysig fod S4C yn trio pethau newydd, ac yn gweithio gyda chwmnïau sydd â syniadau gwahanol. Rydym angen cystadlu gyda’r darlledwyr hyn gan gynnwys CBBC, ac un modd o wneud hynny ydi i greu syniadau arloesol. Rydym hefyd yn meddwl sut gall ein gwaith weithio yn aml blatfform, os yw hyn yn ddyfais ffôn glyfar, gemau consol neu YouTube ”
Caiff Madron ei ddarlledu ar S4C nos Iau 22 Mai am 7.50pm ac yna’n cael ei ail ddangos ar raglen TAG, 23 Mai am 5:00. Wedi darllediad y rhaglen, mae’r stori yn parhau ar appiau comig rhyngweithiol fydd yn cael eu rhyddhau fesul un ar 22 Mai, 29 Mai, 5 Mehefin a 12 Mehefin.
Madron yw cynhyrchiad cyntaf cwmni Glasshead ar gyfer S4C, ac mae cynhyrchydd Glasshead, Timothy Frogghart wrth ei fodd gyda’r bartneriaeth newydd gyda S4C, a hefyd wedi mwynhau gweithio ar brosiect rhyngweithiol Madron.
‘Mae’r cyfuniad o stori, celf, cerddoriaeth a’r modd maent wedi dod at ei gilydd yn gynhyrfus, ac yn gwneud stori a phrosiect diddorol. Dw i mor gynhyrfus am greadigrwydd Madron, a dw i wedi teimlo felly drwy gydol y prosiect yma.”
Nodiadau:
Yn dilyn y lansiad bydd Madron yn mynd ar daith o gwmpas Cymru, gan ymweld â Llanelli, Caerdydd a Chaernarfon. Bydd strydoedd y trefi hynny yn cael eu gorchuddio gyda chelf stryd, a bydd dawnswyr flashmob Madron hefyd yn gwneud ymddangosiad. Yna bydd taith Madron yn gorffen yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala, lle bydd cyflwynwyr newydd TAG, Mari Lovgreen ac Owain Williams yn croesawu Madron yno ddydd Iau 29 Mai.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ac i lawrlwytho’r apps ewch i http://www.s4c.co.uk/madron/desktop/. Bydd cyfle hefyd i ddilyn Madron ar Trydar, (#madron @_madron) a hoffi’r rhaglen ar Facebook.
No comments yet.