Myfi, Spielberg!

Oedran 10+ oed

Rhwyddineb ***

 

TrosolwgMae’r meddalwedd hwn yn rhwydd iawn i’w ddefnyddio, ac eto, erbyn diwedd y wers bydd y dysgwyr wedi cael profiad o gynhyrchu, cyfarwyddo, sgriptio a chastio eu ffilm eu hunain. Mae’n rhwydd iawn gwahaniaethu tasgau hefyd, gan ganiatáu i ddysgwyr mwy galluog arbrofi â phlot a pharhad trwy ychwanegu golygfeydd amryfal. Fe ddefnyddion ni Dvolver Moviemaker.DisgrifiadCyn dechrau, mae’n syniad da gofyn i’r disgyblion rannu syniadau am genres ffilmiau, e.e. rhamant, comedi, sci-fi, antur. Dylen nhw ddewis un o’r rhain cyn dechrau’r gweithgaredd. Bydd hyn yn eu helpu i ganolbwyntio pan fydd angen iddynt wneud penderfyniadau yn ystod y broses gynhyrchu.Ewch i hafan Dvolver www.dvolver.com/moviemaker/index.html. Cliciwch ar y tab ‘Make a Movie’ ar yr hafan.Ar y dudalen gyntaf, gofynnir iddyn nhw ddewis thema ‘Background’ a ‘Sky’ ar gyfer eu golygfa gyntaf. Gallant sgrolio i fyny ac i lawr gan ddefnyddio’r saethau i weld y dewisiadau. Pan fyddant wedi gwneud hyn ac yn fodlon, gofynnwch iddynt glicio ar y botwm ‘Next’.Ar yr ail dudalen, bydd angen dewis plot. Mae’r rhain yn syml iawn. Mae’n werth crybwyll y bydd dewis mwy nag un cymeriad fel arfer yn rhoi mwy o gyfle i ni adrodd stori. Cliciwch ar y botwm ‘Next’.Ar y drydedd dudalen, bydd angen dewis eu cymeriad(au). Atgoffwch nhw y gallant glicio ar y botwm ‘Back’ ar unrhyw bryd i olygu eu dewisiadau blaenorol. Cliciwch ar y botwm ‘Next’.Ar y bedwaredd dudalen, bydd y ffilm gyfan yn dod at ei gilydd oherwydd bydd yn rhaid iddynt ysgrifennu’r ddeialog. Dywedwch wrthynt am beidio â rhuthro ac i ddarllen y ‘sgript’ yn dawel. Mae’n rhwydd iawn neilltuo deialog i’r cymeriadau perthnasol. Dywedwch wrth y dysgwyr po hiraf yw’r ddeialog, yr hiraf y bydd eu ffilm yn para. Bydd hyn yn eu hannog i ymestyn eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n gwybod bod uchafswm o 100 o nodau. Cliciwch ar y botwm ‘Next’ eto.Mae’r bumed dudalen yn gofyn iddyn nhw ddewis cerddoriaeth gefndir, neu ‘Score’, ar gyfer eu ffilm. Unwaith eto, trafodwch bwysigrwydd dewis cerddoriaeth sy’n briodol i bwnc y ffilm. Anogwch nhw i arbrofi trwy roi cynnig ar sgorau gwahanol a gwerthuso’r effaith. Cliciwch ar y botwm ‘Next’.Yn olaf, bydd angen iddyn nhw ddewis teitl ar gyfer eu ffilm, teipio eu henw(au) yn y blwch sy’n gofyn am ‘Director’s Name’ a dewis graffigwaith ar gyfer y teitlau agoriadol. Dyma’r rhan maen nhw’n ei hoffi orau. Cliciwch ar y botwm ‘Create my Movie’.Yna gallant wylio eu ffilm a’i hanfon at eu cyfeiriad e-bost personol (neu gyfeiriad e-bost yr ysgol). Bydd y neges e-bost yn cynnwys URL unigryw fel y gallan nhw ddod o hyd i’w ffilm yn gyflym ac yn rhwydd ar-lein. Gwerth ychwanegolMae’r gwerth ychwanegol yn amlwg yn y gweithgaredd hwn. Heblaw eich bod yn llogi Stiwdios Pinewood am fis, ni fyddai unrhyw fodd iddynt greu eu ffilm eu hunain heb ddefnyddio cyfrifiadur! AwgrymiadauRhowch gynnig ar greu ffilm eich hun yn gyntaf a’i dangos i’r dosbarth. Gofynnwch am adborth. Fel arall, defnyddiwch un a wnaethom ni yn gynharach:ET Turns Ugly:www.dvolver.com/live/movies-716042 Spy-off:www.dvolver.com/live/movies-716077 DiogelwchMae’r meddalwedd hwn yn ddiogel iawn. Nid yw’r dysgwyr yn rhyngweithio â defnyddwyr eraill wrth ei ddefnyddio. Gallwch gyfyngu pa ffilmiau y cânt eu gwylio ar y safle os dymunwch chi, ond ni ddaethom ni ar draws unrhyw rai cas ac annymunol. Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Arbrofwch drwy roi sgript fer i’r dysgwyr ar gyfer dau gymeriad a gofyn iddynt greu ffilm yn defnyddio’r sgript honno yn unig.
  • Defnyddiwch y meddalwedd i gyflwyno problemau mathemategol, h.y. bydd un cymeriad yn rhoi problem i un arall “Mae gen i 36 o losin a 4 o blant. Petawn i eisiau eu rhannu’n gyfartal, sawl un ddylwn i ei roi i bob plentyn?” Mae’r ail gymeriad yn ateb “Rhannwch 36 â 4”. Mae’n rhaid i’r dysgwyr benderfynu a yw’r datrysiad yn gywir a beth fydd yr ateb.
  • Gallent roi cynnig ar ohebu gwyddonol, h.y. mae “Fe wnaethon ni arllwys 50ml o ddŵr i ficer” neu “Pa grwpiau pwysig o fwydydd mae pobl y Ddaear yn eu bwyta?” yn swnio’n llai diflas o lawer pan fydd creadur o fyd arall yn eu dweud.

 

This post is also available in: English, Romanian

Tags: , , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.