Trosolwg
Mae Shelfari yn adnodd amlddefnydd ar-lein gwych y gall dysgwyr ei ddefnyddio i greu llyfrgell o’r holl lyfrau y maen nhw wedi’u darllen, yn bwriadu eu darllen neu wrthi’n eu darllen ar hyn o bryd. Ar ôl darllen llyfr, gallant ysgrifennu adolygiadau a rhannu’r rhain â dosbarthiadau a/neu ysgolion eraill y maen nhw’n eu hychwanegu at eu rhestr ‘Cyfeillion’. Gallant hefyd ddefnyddio’r cyfleuster chwilio i ddod o hyd i lyfrau ar thema benodol neu gan awdur penodol. Mae’n ffordd wych i ddysgwyr gyhoeddi eu gwaith (adolygiadau o lyfrau) a phenderfynu pa lyfrau i’w darllen nesaf yn seiliedig ar adolygiadau pobl eraill. Gall y trafodaethau fod yn fywiog iawn.
Disgrifiad
Ewch i www.shelfari.com/ a chlicio ar y botwm cofrestru. Crëwch enw proffil (fe ddefnyddiom ni A Class!) a rhowch gyfeiriad e-bost. Dylech chi greu cyfrinair sy’n hysbys i chi, yr athro, yn unig. NI DDYLECH CHI rannu’r cyfrinair hwn â dysgwyr oni bai eich bod chi’n fodlon iddyn nhw gael mynediad at y proffil o adref.
Er mwyn creu eich llyfrgell ddosbarth, gallwch chi naill ai ofyn i bob plentyn ddewis ei hoff lyfr neu gynnal pleidlais yn y dosbarth i greu rhestr o’r 10 Llyfr Mwyaf Poblogaidd. Yna gallwch chi ymestyn y dysgu trwy ofyn iddynt ysgrifennu adolygiad o’r llyfr(au) a ddewiswyd ganddynt.
Defnyddiwch flwch chwilio Shelfari i ddod o hyd i’r llyfrau yng nghronfa ddata’r safle a’u ‘hychwanegu’ at silff eich rhith-lyfrgell. Cewch eich tywys trwy’r broses adolygu bob tro yr ychwanegwch lyfr ond nid yw’r wybodaeth y gofynnir amdani yn orfodol, felly gallwch chi gynnwys cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch. Fe benderfynom ni gynnwys adolygiad byr, rhoi graddfa sêr i bob llyfr ac ychwanegu ‘tagiau’ ar gyfer chwilio (roedd hyn ynddo’i hyn yn ymarfer gwych o ran geirfa). Gallwch ‘hepgor’ unrhyw ran nad oes ei hangen neu yr ystyrir ei bod yn rhy anodd i’ch dysgwyr.
Pan fyddwch chi wedi gwneud hyn, gallwch chi ddefnyddio Shelfari at lu o ddibenion eraill. Dim ond 4 nod tudalen sydd ar frig eich tudalen broffil ac mae’r rhain i gyd yn eithaf rhwydd eu deall: ‘Home’, ‘Profile’, ‘Books’ a ‘Community’. Mae ‘Home’ yn mynd â chi i’r hafan, mae ‘Profile’ yn mynd â chi i’ch tudalen broffil lle gallwch chi ychwanegu, dileu neu olygu’r llyfrau ar eich silff. Mae ‘Books’ yn eich galluogi i chwilio am lyfrau, awduron ac ati. Mae ‘Community’ yn eich galluogi i gysylltu â phobl eraill neu weld yr hyn y mae unigolion neu grwpiau eraill yn ei ddarllen neu’n ei ddweud am lyfrau.
Mae defnyddio Shelfari fel cael mynediad at y gronfa ddata llyfrgell fwyaf yn y byd yn eich ystafell ddosbarth!
Beth sydd ei angen arnaf i?
Mynediad at y rhyngrwyd.
Cyfeiriad e-bost.
www.Shelfari.com/
Gwerth ychwanegol
Gall dysgwyr gyhoeddi eu gwaith ysgrifennu ar ffurf adolygiadau llyfrau ac maen nhw’n gallu cael mynediad at arferion darllen cenedlaethol a rhyngwladol newydd. Mae hefyd yn eu galluogi i rannu eu profiadau o lenyddiaeth â’r byd. Er bod darllen wedi bod yn weithgaredd eithaf ynsyig yn draddodiadol, mae’r meddalwedd hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr brofi sut mae’r byd llenyddiaeth yn newid yn yr 21ain ganrif. Mae’r gwaith graffeg yn ddiddorol hefyd – gallwch chi weld y llyfr go iawn (a barnu’r llyfr yn ôl ei glawr).
Awgrymiadau
Darllenwch adolygiadau’r dysgwyr gan gywiro gwallau sillafu a gramadegol os oes angen. Gallwch chi wneud hyn hyd yn oed ar ôl iddynt ychwanegu eu llyfrau at y proffil trwy glicio ar ‘Edit’.
Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau i’r disgyblion gyfyngu eu hadolygiad i 100 neu 200 o eiriau. Rydym o’r farn bod hyn yn eu hannog i fod yn fwy cryno o lawer ac mae’n helpu mireinio eu sgiliau ysgrifennu. Hefyd, nid yw pobl wastad yn awyddus i ddarllen adolygiadau hir. Fe allai fod yn well gennych ofyn iddynt ysgrifennu darnau byr a bachog yn lle adolygiadau llawn ar ddull papur newydd dydd Sul. Bydd astudio’r crynodebau ar lyfrau sydd ganddynt yn y dosbarth yn eu helpu i ddeall y genre ysgrifennu hwn. Gallwch chi hefyd ddefnyddio teclynnau Kindle – cliciwch ar lyfr yn yr hafan ac yna rhoi clic dde ar y llygoden i ddarllen crynodeb.
Edrychwch ar ein proffil ni yn http://www.shelfari.com/o1515002939/shelf
Diogelwch
Fel yr ydym ni eisoes wedi argymell, mae’n well cadw eich cyfrinair yn breifat a pheidio â defnyddio eich cyfrif Amazon personol (Amazon.com sy’n berchen ar Shelfari) i gael mynediad at Shelfari yn yr ystafell ddosbarth. Os hoffech chi gysylltu ag aelodau eraill, trefnwch hyn ymlaen llaw gyda chydweithwyr yn eich ysgol neu mewn sefydliadau addysgol eraill. Mae’n fwy diogel peidio â rhyngweithio â defnyddwyr nad ydych chi’n eu hadnabod.
Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Gallai’r dysgwyr bostio adolygiadau o lyfrau
• Gallai’r dysgwyr drafod eu hoff lyfrau gyda dysgwyr eraill
• Os ydych chi eisoes wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio Wordle, beth am ofyn i’r disgyblion greu Wordle gan ddefnyddio’r tagiau a grëwyd ganddynt ar gyfer eu hoff lyfrau? Gallech chi gynnal cwis ‘Dyfalu Pa Lyfr’ lle mae’n rhaid i’r disgyblion ddyfalu pa lyfr sy’n cael ei gynrychioli gan y Wordle a grëwyd o’r tag!
• Gofynnwch i’ch dosbarth sefydlu proffil ar gyfer plant iau, e.e. “Meithrin”. Pa lyfrau oedden nhw’n eu mwynhau pan oedden nhw yr oedran hwnnw? Pa rai y gallan nhw eu cofio? Llenwch y silffoedd â’r llyfrau sy’n cael eu hargymell ac adolygiadau, a’u rhannu â rhieni plant y dosbarth meithrin wrth i’r Nadolig nesáu.
• Cyfweld rhywun a anwyd ym mhob degawd ers y rhyfel (dyweder, y 50au, y 60au, y 70au, yr 80au a’r 90au). Gallai pob plentyn gyfweld rhywun yn ei deulu neu gymydog. Pa lyfrau oedden nhw’n eu mwynhau pan oedden nhw’n blant? Ydy’r ffasiwn wedi newid? Faint oedd eu hoedran pan ddechreuon nhw ddarllen llyfrau ‘oedolion’? Dewch o hyd i bris cymharol llyfrau bryd hynny a heddiw. Sefydlwch broffil, e.e. proffil y 50au, a llenwi’r silffoedd â llyfrau plant o’r cyfnod hwnnw yr oedd y bobl yn eu hoff neu a oedd yn boblogaidd. Darllenwch un o’r llyfrau.
This post is also available in: English, Dutch, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian
No comments yet.