Llais a Llun

Images by InstructionTrosolwg
Gellir defnyddio arddweud llun (picture dictation) gyda dysgwyr o oedrannau a galluoedd gwahanol, ac mae’n weithgaredd gwych ar gyfer dysgu i ddilyn cyfarwyddiadau, datblygu sgiliau canolbwyntio a dysgu rhai cysyniadau mathemategol.

Disgrifiad
Mae llawer o wahanol ffyrdd o wneud hyn, yn dibynnu ar oedran y grŵp a lefel eu gallu.

Mae Tux Paint yn rhaglen dda (mae’n cynnwys lliwiau, siapiau, stampiau, cefndiroedd). Ewch ati i ddefnyddio’r rhaglen am awr neu ddwy – mae’n ymddangos yn gymhleth i ddechrau ond dysgwch yr hanfodion fel y gallwch chiddangos i’r disgyblion ac yna gadael iddynt arbrofi. Bydd y plant yn dysgu’r pethau eraill yn gyflym trwy brofi a methu os ydyn nhw’n ymarfer yn ddigon aml.

Rhowch lun syml i’r dysgwyr ei gopïo gan ddefnyddio Tux Paint. Yna rhowch gynnig ar arddweud cyfres o ddelweddau: coeden fawr, triongl melyn, tri afal mewn basged, pedwar blodyn wedi’u trefnu o’r lleiaf i’r mwyaf… ar y chwith … y dde … y tu ôl.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r plant ymarfer geirfa a dysgu ystyr rhifau a chysyniadau gofodol syml. Bydd hefyd yn eu helpu i ganolbwyntio ac, os ydych chi’n arddweud ychydig o bethau ar y tro, fe all helpu i hyfforddi eu cof.

Trefnwch y plant yn barau a gofynnwch iddynt eistedd cefn wrth gefn. Mae un plentyn yn cael delwedd i’w chopïo (neu bydd yn gwneud ei ddelwedd ei hun), ac yna mae’n rhaid iddo ddisgrifio’r ddelwedd hon fel y gall ei bartner ei dyblygu ar Tux Paint. Mae hyn hefyd yn ymarfer da ar gyfer sgiliau cyfathrebu. Ar gyfer plant hŷn, gallwch chi ychwanegu llawer o gysyniadau mathemategol, siapiau, priodweddau siapiau ac ati.

Beth sydd ei angen arnaf i?
Tux Paint (http://www.tuxpaint.org)

Gwerth ychwanegol
• datblygu sgiliau TG cynnar, e.e. rheoli llygoden
• rhwydd ei wahaniaethu yn ôl oedran/gallu
• cyflwyniad da i feddalwedd darlunio

Awgrymiadau
Gwneir hyn gydag un disgybl ar y tro fel arfer. Ond gallech ei wneud ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol a gofyn i unigolion ddod i ychwanegu at y cyfansoddiad yn eu tro. Fel arall, fe allai weithio mewn parau, gydag un yn rhoi cyfarwyddiadau i’r llall.

Syniadau eraill i wella’r wers
• Gallech chi arddweud cyfarwyddiadau syml mewn iaith dramor, e.e. Faites un dessin d’une fleur rouge
• Gallech chi ofyn i’r dysgwyr greu cynllun o’r awyr o’r ystafell ddosbarth neu eu hystafell wely.

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.