Mae Thomas Robert Malthus (1766-1834) yn adnabyddus am ei ddamcaniaethau ynghylch sut mae poblogaethau yn cynyddu neu’n gostwng o ganlyniad i ffactorau amgylcheddol. Yn ei waith An essay on the Principle of population, arsylwodd fod poblogaeth yn cael ei rheoli gan afiechydon a newyn. Hynny yw, bod poblogaeth yn cael ei hatal neu rwystro pan nad yw adnoddau naturiol y ddaear yn gallu ei chynnal mwyach.
Gofynnwch i ddysgwyr ddarganfod eu heffaith ecoloegol nhw fel unigolion ar y ddaear http://myfootprint.org/en/ gofynnwch iddynt ymchwilio i ba mor gynaliadwy yw eu dillad http://myfootprint.org/en/ a gofynnwch iddynt ymchwilio i ystyr cynaladwyedd http://www.bestfootforward.com/ecological-footprinting/
I gloi’r uned, gofynnwch i ddysgwyr gyflwyno adroddiad ar un agwedd o gynaladwyedd. Yn dilyn y gwaith, gofynnwch iddynt Ydy”r ddaear yn orboblog? Mae’n siwr o sbarduno drafodaeth fywiog iawn!
No comments yet.