Rhwyddineb ***
Trosolwg
Mae’r wers hon yn rhoi ffordd strwythuredig i blant fyfyrio ar stori yn defnyddio meddalwedd mapio’r meddwl. Fe allen nhw ei ddefnyddio fel offeryn i gynllunio eu straeon eu hunain.
Disgrifiad
Mae’r gweithgaredd hwn yn addas ar gyfer ystod eang o oedrannau a galluoedd cyn belled â’ch bod chi’n addasu eich dull o weithio – sy’n beth cyfarwydd iawn i athrawon.
Dechreuwch drwy lwytho meddalwedd mapio’r meddwl. Fe ddefnyddion ni iMindMap. Mae’n gallu bod braidd yn drafferthus i’w defnyddio – ond mae am ddim! Mae llawer o rai eraill ar gael fel www.popplet.com – rhowch gynnig ar ambell un tan i chi benderfynu pa feddalwedd sydd orau gennych.
Darllenwch stori i’r dosbarth (neu gyda’r dosbarth) sy’n briodol i oedran y plant. Ar ôl i chi orffen, ewch ati i greu map meddwl o’r stori ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dechreuwch gyda ‘Pwy’. Gofynnwch i’r plant ddweud popeth y maen nhw’n ei gofio am y cymeriadau ac ychwanegu’r testun i’r map meddwl. Nesaf gallwch ychwanegu’r canghennau ‘Ble’, ‘Problem’ ac ‘Ateb’ a chwblhau pob cangen.
Gallwch gwblhau’r map meddwl trwy ychwanegu lluniau neu luniadau. Gyda phlant iau, gallech chi chwilio am luniau neu eu sganio ymlaen llaw a’u hychwanegu wrth i chi fynd. Gyda phlant hŷn, gallech chi ofyn iddynt ddod o hyd i luniau neu wneud eu lluniau eu hunain, eu sganio a’u hychwanegu i’r map meddwl.
Mae wastad yn ddifyr cynnal cwis lle mae’r dysgwyr yn defnyddio’r map meddwl i ddod o hyd i’r atebion, e.e. “Pam gwnaeth y prif gymeriad…”
I ddilyn hyn, gall plant hŷn ddefnyddio meddalwedd mapio’r meddwl i greu strwythur ar gyfer eu straeon eu hunain, yn hytrach na gorfod cynhyrchu cynllun ysgrifenedig.
Beth sydd ei angen arnaf i?
- Teclyn tabled neu gamera
- Bwrdd gwyn rhyngweithiol
- iMindMap
Gwerth ychwanegol
Mae’r gweithgaredd hwn yn gyfrwng perffaith i blant fyfyrio ar stori a threfnu cyfres o ddigwyddiadau’n gronolegol. Mae hefyd yn rhoi cynllun enghreifftiol hwylus iddyn nhw ar gyfer unrhyw weithgareddau ysgrifennu/adrodd stori yn y dyfodol.
Awgrymiadau
Nid yw’r rhadwedd mapio’r meddwl sydd ar gael ar lein yn rhwydd i’w ddefnyddio bob tro. Mae’n dibynnu’n llwyr ar yr unigolyn. Dylech bob amser arbrofi gyda’r meddalwedd cyn ei ddefnyddio yn eich gwers ac os nad yw’n addas i chi, rhowch gynnig ar un arall.
Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
- Trefnu syniadau a strwythurau ar gyfer projectau, cyflwyniadau, adroddiadau ac ati yn defnyddio mapio’r meddwl. Dyma un meddalwedd mapio’r meddwl arall: http://www.educatorstechnology.com/2012/06/18-free-mind-mapping-tools-for-teachers.html
- Mapio digwyddiadau hanesyddol, e.e. achosion ac effeithiau’r Ail Ryfel Byd.
- Defnyddio mapio’r meddwl fel dewis arall yn lle taflu syniadau.
- Defnyddio mapio’r meddwl fel offeryn cynllunio ar gyfer gwaith project.
This post is also available in: English, Dutch, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian
No comments yet.