Tŵntastig!

Oedran 7+ oed Rhwyddineb ****Screen Shot 2014-02-06 at 11.26.31

Trosolwg
Mae disgyblion yn ymchwilio i ysgrifennu yn y genre llyfrau comics. Byddan nhw’n dysgu sut i ddefnyddio deialog i fynegi eu syniadau a chreu plotiau difyr a gwreiddiol. Mae hyn yn arbennig o dda ar gyfer ymchwilio i greu dilyniant a phlotiau.

Disgrifiad
Gofynnwch i’r disgyblion ddod â’u hoff lyfr comics i’r ysgol. Trafodwch y technegau nodweddiadol a ddefnyddir mewn llyfrau comics, e.e. mathau gwahanol o swigod siarad, lleoli cymeriadau mewn perthynas â swigod, creu dilyniant golygfeydd.
Rhannwch y disgyblion yn grwpiau bach a gofynnwch iddyn nhw greu sefyllfa yn Creaza Cartoons trwy ddewis cefndir, cymeriadau ac emosiynau cymeriadau. Mae hyn yn rhwydd iawn i’w wneud, ond os hoffech chi gael mwy o gyfarwyddyd, rhowch URL y tiwtorial (isod) yn eich porwr. Os yw’n briodol, gallwch chi ddangos y tiwtorial i’r dysgwyr hefyd gan ei bod hi’n hawdd iawn ei ddilyn.
Gall y dysgwyr naill ai greu eu cartŵn eu hunain neu drosglwyddo agoriad eu stori i grŵp arall. Pan fydd eu straeon wedi’u gorffen, gallant ddefnyddio Creative Cartoons i’w troi’n llyfrau comics gwych! Mae’n bosibl rhannu’r llyfrau comics trwy ddolen a gall y dysgwyr weld a gwerthuso gwaith ei gilydd.

Beth sydd ei angen arnaf i?
www.creaza.com (offeryn web 2.0, does dim angen gosod unrhyw beth, dim ond creu cyfrif).
Tiwtorial yn: http://www.creazaeducation.com/cartoonist

Gwerth ychwanegol
• rhwydd ei rannu â rhieni
• dysgu gweithio mewn grwpiau, parchu syniadau ei gilydd
• archwilio posibiliadau offeryn newydd
• dysgu gweithio’n annibynnol gyda TGCh.

Awgrymiadau
Mae’n werth nodi po leiaf yw’r grwpiau, y mwyaf y bydd pob plentyn yn debygol o’i gyfrannu at y cartŵn. Rydym ni’n argymell dim mwy na phedwar mewn grŵp, ond mae dau ddysgwr ym mhob grŵp yn ddelfrydol.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Datblygwch sgiliau golygu trwy ofyn i ddisgyblion werthuso, golygu a chyhoeddi gwaith pobl eraill.
• Gallai’r disgyblion adrodd straeon personol gan ddefnyddio’r cymeriadau a ddarparwyd.
• Gallai’r disgyblion greu straeon tylwyth teg newydd, e.e. yr Hugan Fach Goch yn cyfarfod y Tri Mochyn Bach.
• Ar gyfer disgyblion hŷn, beth am roi cynnig ar www.toondoo.com? Mae’r meddalwedd hwn yn cynnwys mwy o nodweddion ac mae’n edrych ychydig yn fwy proffesiynol.

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.