Mae’n rhwydd iawn gwneud recordiadau sain erbyn hyn oherwydd bod amrywiaeth eang o fathau o feddalwedd sy’n hawdd eu defnyddio ar gael yn rhad ac am ddim. Rydym ni’n defnyddio’r recordiadau sain at ddibenion asesu darllen (asesu gan gyfoedion, hunanasesu ac asesu gan athrawon) ac adrodd i rieni.
Disgrifiad
Os nad oes gennych chi feddalwedd recordio ar eich cyfrifiadur, bydd angen i chi lwytho’r rhaglen i lawr o’r we. Fe wnaethom ni ddefnyddio Audacity ar gyfer y wers hon (defnyddiwch y ddolen isod). Mae’r rhaglen hon ar gael yn rhad ac am ddim, mae’n rhwydd ac mae’n barod i’w defnyddio o fewn munudau.
Pan fyddwch chi’n barod i ddechrau, gofynnwch i’r dysgwyr agor y rhaglen. Er bod y panel rheoli’n edrych yn gymhleth, dim ond tri sydd o bwys i chi: ‘Record’ (y botwm gyda’r cylch coch yn y canol), ‘Stop’ (y botwm gyda’r sgwâr yn y canol) a ‘Play’ (y botwm gyda’r triongl gwyrdd yn y canol). Mae’n hawdd adnabod y rhain gan eu bod yr un fath â’r rhai ar unrhyw offer traddodiadol sydd gennych chi gartref fel recordwyr fideos, chwaraewyr DVDs ac ati.
Pan fydd y dysgwyr yn barod, byddan nhw’n pwyso’r botwm ‘Record’ ac yn dechrau darllen. Pan fyddan nhw wedi gorffen, byddan nhw’n pwyso ‘Stop’. Gallan nhw chwarae’r recordiad trwy bwyso ‘Play’. Mae mor syml â hynny. Mae’n bwysig dweud wrth y disgyblion na ddylen nhw stopio recordio a dechrau eto os ydyn nhw’n gwneud camgymeriad er mwyn ceisio ei ‘gael yn iawn’. Wedi’r cyfan, os ydych chi’n ei ddefnyddio at ddibenion asesu, byddwch am gael adlewyrchiad gwirioneddol o’u sgiliau darllen. Wedi dweud hynny, mae’n aml yn wir bod rhuglder darllen disgyblion yn gwella pan fyddan nhw’n cael eu recordio gan eu bod yn canolbwyntio mwy ac yn gwneud mwy o ymdrech!
Yr hyn sy’n allweddol ar gyfer y gweithgaredd hwn yw sut rydych chi’n defnyddio’r recordiad. Fel y dywed yn y trosolwg, gallwch chi gadw’r recordiad a’i ddefnyddio i asesu sgiliau darllen annibynnol dysgwyr. Mae’n arbennig o ddefnyddiol i’w recordio nhw ar gyfnodau gwahanol trwy gydol y tymor/y flwyddyn fel y gallwch werthuso eu datblygiad. Rydym ni hefyd wedi’i ddefnyddio i chwarae recordiadau i’r dosbarth a gofyn i gyfoedion am adborth (gofynnwch i’r disgyblion dan sylw a ydynt yn fodlon i chi wneud hyn gan fod rhai yn swil a gallai hyn beri iddynt deimlo’n annifyr iawn). Gall dysgwyr ddefnyddio’r adborth i osod targedau personol ar gyfer darllen.
Beth sydd ei angen arnaf i?
Audacity neu unrhyw fath arall o feddalwedd recordio sain tebyg y gellir ei lwytho i lawr o http://audacity.sourceforge.net/download/
Mae hyd yn oed microffon USB allanol, rhad wedi’i gysylltu â’ch cyfrifiadur yn rhoi recordiad llawer gwell na defnyddio’r microffon gosodedig.
Gallwch chi ddefnyddio Audacity ar gyfrifiadur Mac hefyd, ond erbyn hyn mae Garage Band eisoes wedi’i osod ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron Mac, felly mae’n bosibl y byddwch am ddefnyddio hwnnw yn lle. Mae ychydig yn fwy cymhleth nag Audacity ond mae iddo fwy o bosibiliadau!
Gwerth ychwanegol
Mae cynhyrchu tystiolaeth gadarn o gyrhaeddiad darllen disgyblion wastad yn broblem ac fel arfer mae wedi cynnwys llawer o galedwedd drud ac anwadal fel offer recordio tâp/cryno ddisg. Mae defnyddio Audacity ar eich cyfrifiadur yn llawer haws ei reoli a, gorau oll, mae’n rhad ac am ddim.
Awgrymiadau
Os nad yw’r plant yn gyfarwydd â chlywed eu llais ar recordiad fe allant fod yn eithaf nerfus a/neu gael pyliau o chwerthin, felly mae’n bosibl y bydd angen i chi ymarfer recordio sawl gwaith er mwyn iddynt ymgyfarwyddo. Yn ein profiad ni, mae dysgwyr yn mynd yn eithaf didaro am hyn pan fydd y newydd-deb wedi pylu.
Os oes angen copi caled cludadwy o’r recordiadau arnoch chi, at ddibenion cymedroli neu safoni er enghraifft, gellir cadw recordiadau fel ffeiliau mp3 a’u hanfon naill ai trwy Dropbox at asiantaethau AAA neu rieni os oes angen, neu eu cadw ar gryno ddisg neu gof bach. (Mae ffeiliau sain yn fawr ac fel arfer bydd yn cymryd llawer rhy hir i’w hanfon trwy neges e-bost. Hefyd, mae’n debygol y bydd darparwyr gwasanaeth e-bost pobl wedi gosod cyfyngiad ar faint y ffeiliau y gellir eu hanfon/derbyn.) Os oes angen arweiniad arnoch chi ar sut i gadw ac allforio ffeiliau sain, ewch i’r gweithgaredd Podlediad Penigamp, lle cewch chi gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud hyn.
Diogelwch
Does dim unrhyw faterion diogelwch yn ymwneud â’r rhyngrwyd neu TG, ond cofiwch ofyn i ddysgwyr a ydyn nhw’n fodlon i chi chwarae eu recordiadau i’r dosbarth. Byddai hyn yn peri i rai dysgwyr deimlo’n annifyr, yn enwedig os yw eu sgiliau darllen am gael eu hasesu gan eu cyfoedion.
Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Gofynnwch i’r plant recordio llyfrau sain ar gyfer casgliadau’r dosbarth i’w rhannu gyda myfyrwyr a dosbarthiadau eraill neu hyd yn oed ysgolion eraill. Bydd rhai dysgwyr am fod yn adroddwyr, a gall plant eraill fod yn gynhyrchwyr, golygyddion, rheolwyr llawr ac ati. Mae llyfrau sy’n cynnwys deialog yn dda gan fod hynny’n golygu y gellir rhoi rhannau siarad bach i sawl plentyn. Mae hyn yn aml yn creu llai o ofn na gorfod darllen y stori gyfan.
• Dechreuwch greu darllediadau radio wedi’u recordio ymlaen llaw: mae’r dysgwyr yn ysgrifennu sgript, yn dewis caneuon yr hoffent eu chwarae ac yn trefnu cyfweliadau, e.e. gyda’r pennaeth. Os yw’r plant yn hoffi’r syniad hwn, yna edrychwch ar yr uned Podlediad Penigamp yn y llyfr hwn neu ar ein gwefan. Os ydynt am ddatblygu hyn ymhellach a ffrydio eu rhaglenni i’r byd, yna bydd gwefan Taccle 2 yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynglŷn â chreu radio ar y rhyngrwyd.
This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian
No comments yet.