Awdur ydw i!

Oedran 8–12 oedPublish Me

Rhwyddineb ***

Trosolwg

Mae’r meddalwedd hwn yn galluogi dysgwyr i gyhoeddi eu llyfrau ar-lein eu hunain. Er ei fod yn addas iawn i greu straeon lluniau, does dim rheswm pam na all dysgwyr greu llyfrau ffeithiol a chylchgronau hefyd. Mae’r meddalwedd yn eithaf syml – bydd angen i ddysgwyr lwytho lluniau, ychwanegu testun ac, os ydynt yn dymuno, newid lliw’r dudalen. Mae enghraifft o’n gwaith ni i’w gweld yn: http://nicdan.picozine.com/index.php?rep=3386&art=174

Disgrifiad

Ewch i safle PicoZine a thanysgrifio. Rhowch lysenw i’ch hun fel Dosbarth4. Yna gall yr holl blant ddefnyddio’r un cyfrif. Does dim angen cyfrinair.

Pan fyddwch wedi gwneud hyn, gall yr holl blant fewngofnodi a chlicio ar y tab bach ‘Create new PicoZine’ i ddechrau creu eu llyfr.

Ar y dudalen nesaf bydd angen i’r dysgwyr roi teitl a disgrifiad, ond peidiwch â phoeni gormod, gallwch newid y rhain ar unrhyw bryd. Yn ein profiad ni, mae’n ddefnyddiol i’r plant ddrafftio eu llyfr yn fras ar bapur cyn dechrau (testun a braslun o luniau). Mae hyn yn arbed llawer o drafferth pan fyddant yn gweithio ar lein. Mae’n haws iddyn nhw ddewis ffotograffau neu luniau wedi’u sganio o blith rhai maen nhw wedi’u cadw ar y cyfrifiadur, a defnyddio’r rhai hynny. Mae’n haws dod o hyd i’r rhain os ydyn nhw wedi cael eu cadw mewn ffeil a farciwyd yn eglur ar y bwrdd gwaith.

Mae’n eithaf rhwydd dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Bydd tiwtorial byr yn ddigonol, mwy na thebyg, i ddangos i’r dysgwyr sut i ychwanegu testun, newid lliw’r dudalen a llwytho lluniau i fyny er mwyn cychwyn arni. Fe gymerodd tua 10 munud i ni ymgyfarwyddo â fformat PicoZine. Yn ein barn ni, byddai’n ddefnyddiol esbonio wrth y dysgwyr bod angen i’w llyfr terfynol gynnwys 16 tudalen i gyd. Un o anfanteision y meddalwedd yw’r ffaith na ellir newid hyn a bod yr holl dudalennau’n cael eu harddangos ar yr ochr dde.

Dywedwch wrth y dysgwyr am weithio’n systematig, naill ai drwy ychwanegu eu holl luniau i’r tudalennau priodol ac yna ychwanegu testun, neu gwblhau un dudalen ar y tro (testun a lluniau), cyn symud ymlaen. Chi fydd yn gwybod pa ffordd fydd yn fwyaf addas i’ch dysgwyr. Gan fod y broses yn eithaf ailadroddus, mae’n caniatáu i’r dysgwyr ymarfer y swyddogaethau hyn yn drylwyr. Trwy gydol y broses, gallant ddewis a newid arddull y clawr, lliwiau tudalennau a fformat ffotograffau.

O ran ffotograffau a lluniau, mae dad-ddewis y blwch ‘Fill page’ o dan y blwch llwytho i fyny yn atal aflunio’r (distort) y lluniau. Y dysgwyr sydd i ddewis i ba raddau y maen nhw am fformatio eu llyfr. Y prif beth y mae angen iddynt ei gofio yw clicio ar ‘Send the files’ bob tro y byddant yn golygu neu’n ychwanegu rhywbeth i’w cyhoeddiad.

Pan fyddant wedi gorffen, bydd sawl dewis ar gael iddyn nhw o ran sut i ddefnyddio eu ‘Pico’. Gallant ei lwytho i lawr fel PDF ac yna ei argraffu a’i ychwanegu at lyfrgell y dosbarth. Gallant ddefnyddio’r cod mewnosod a ddarperir i’w lwytho i wefan yr ysgol, neu anfon y ddolen at ffrindiau a theulu trwy neges e-bost!

Rydym ni’n hoffi gofyn i ddysgwyr ddarllen eu llyfr i’r dosbarth. Mae hyn yn ffordd dda o orffen y diwrnod ysgol ac yn datblygu sgiliau cyflwyno’r dysgwyr ar yr un pryd

Beth sydd ei angen arnaf i?

Gwerth ychwanegol

Mae creu llyfr sy’n edrych yn broffesiynol yn anodd, ond mae’r meddalwedd hwn yn caniatáu i ddysgwyr wneud hynny. Maen nhw’n ymarfer ystod eang o swyddogaethau TG craidd ar yr un pryd â chreu llyfr sy’n unigryw iddyn nhw.

Awgrymiadau

Fe allai fod yn syniad da i ddysgwyr weithio mewn parau i greu eu Pico cyntaf. Mae parau gallu cymysg yn gweithio’n dda.

Diogelwch

Ni ddylai dysgwyr gynnwys gwybodaeth bersonol (fel eu henw go iawn neu eu cyfeiriad cartref) wrth ysgrifennu. Hefyd, os yw dysgwyr yn defnyddio ffotograffau ohonynt eu hunain neu eu cyfoedion, gwnewch yn siŵr fod gennych chi ganiatâd rhieni.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Gallai’r dysgwyr greu unrhyw fath o lyfr: llyfrau stori, llyfrau rysáit, llyfrau barddoniaeth, llyfrau ffeithiol ac ati.
  • Gallai’r dysgwyr greu llyfrau dosbarth, e.e. “Ein Blodeugerdd o Gerddi Gaeaf”.
  • Arbrofi gyda chreu cylchgrawn dosbarth.

This post is also available in: English, Dutch, Italian, Spanish, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.