Trosolwg
Mae Padlet yn ffordd wych o gasglu syniadau a chyfraniadau gan ddysgwyr ac yn ffordd hawdd o’u cyflwyno. Gellir ei ddefnyddio at ddibenion amrywiol iawn, e.e. casglu adborth ar wersi, addysgu ieithoedd tramor modern, gwneud rhagfynegiadau a phostio syniadau a chyfraniadau dysgwyr yn gyffredinol. Fe wnaethom ni ei ddefnyddio fel tasg gwaith cartref gyflym, hawdd a difyr.
Gallwch weld un enghraifft trwy deipio’r canlynol yn eich porwr:
http://padlet.com/wall/cymru-wales
Disgrifiad
Cliciwch ar ‘Build a wall’ ar hafan Padlet http://padlet.com/. Dewiswch gefndir a chwblhau’r teitl, yr isdeitl a’r holl feysydd perthnasol. Mae’n hawdd iawn. Gallwch ysgrifennu nod y gwaith cartref yn y meysydd teitl ac isdeitl, fel y gwnaethom ni.
Fel gwaith cartref, gofynnwch i bawb yn y dosbarth gyfrannu un peth y maen nhw’n ei wybod am bwnc neu destun penodol. Y cyfan sydd ei angen arnyn nhw yw URL y wal a thiwtorial cyflym ar sut i gyflwyno postiad. Cofiwch ddangos iddyn nhw sut i roi eu henw yn y blwch ar ben y postiad.
Yn ôl yn yr ysgol, darllenwch y wal fel dosbarth a thrafod y cyfraniadau. Mae’r gweithgaredd hwn yn wych ar gyfer ysgogi trafodaeth gan y bydd rhai postiadau’n cael eu hystyried yn amlwg, yn ystrydebol neu’n anghywir. Mae enghraifft dda ar gael trwy deipio’r canlynol yn eich porwr:
http://padlet.com/wall/science-wood – mae’r llun ar y dudalen hon yn dangos hyn ar ffurf sgrinlun.
Beth sydd ei angen arnaf i?
At ddiben gosod y dasg gwaith cartref ac adolygu’r postiadau wedi hynny, mae bwrdd gwyn rhyngweithiol yn ddefnyddiol. Bydd angen i chi roi’r URL i’r disgyblion fynd ag ef adref.
Gwerth ychwanegol
Mae hyn yn ffordd anfygythiol o annog cyfraniadau gan bob aelod o’r dosbarth, yn enwedig os ydych chi’n caniatáu iddyn nhw ddefnyddio ffugenwau ar eu postiadau. Gall dysgwyr gyfrannu heb ofni y gallent gael yr ateb yn anghywir. Hefyd, mae’n dasg gwaith cartref ddifyr a phwrpasol y bydd dysgwyr yn teimlo’n fwy brwdfrydig amdani.
Awgrymiadau
Cofiwch roi tic yn y blwch ‘Everyone’ ar gyfer ‘Who can view ‘ a ‘Who can post sticky notes’.
Yn y bôn, ffordd o ddefnyddio nodiadau ‘post-it’ yn electronig yw hyn, heb wastraffu papur (cofiwch y coed!), a gallwch gadw eich wal Padlet a’i defnyddio drosodd a throsodd.
Rhowch yr URL ar Moodle os ydych chi’n ei ddefnyddio, oherwydd mae’r dysgwyr yn debygol o’i anghofio.
Diogelwch
Edrychwch ar y wal Padlet y gwnaethoch ei chreu ar gyfer dysgwyr o bryd i’w gilydd, oherwydd y bydd pobl eraill yn gallu cyfrannu at y wal ac mae’n bosibl y byddwch am ddileu’r rhain. Ar y llaw arall, gallai cyfraniadau ‘allanol’ ysgogi trafodaeth neu ychwanegu gwerth o ran cynnwys.
Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Casglwch adborth ar wersi (Asesu ar gyfer Dysgu).
• Gofynnwch i ddysgwyr bostio enwau lliwiau yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg (ieithoedd tramor modern).
• Crëwch ‘Wal Pen-blwyddi’ lle mae pob unigolyn yn y dosbarth yn postio dyddiad eu pen-blwydd i atgoffa eu ffrindiau.
This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Romanian
No comments yet.