Teulu Mawr.

Oedran 9+ oed

Rhwyddineb ***

Trosolwg

Mae’r gweithgaredd hwn yn helpu disgyblion i ddysgu am fywydau plant mewn gwledydd eraill ac mae’n arbennig o effeithiol ar gyfer cymharu a chyferbynnu eu hysgolion. Mae enghraifft i’w gweld yn:

Screen Shot 2014-02-06 at 15.48.05

Disgrifiad

Yn gyntaf, bydd angen i chi ddod o hyd i ysgol bartner mewn gwlad arall. Mae sawl ffordd o wneud hyn. Y mwyaf amlwg o’r rhain yw trwy’r rhaglen Comenius:

www.ec.europa.eu/education/lifelong-learning-programme/comenius_en.htm

Fel arall, gallech gysylltu ag athro o’r un bryd â chi trwy fforwm athrawon. Peidiwch ag ofni cysylltu ag athrawon mewn gwledydd eraill. Mae gan y rhan fwyaf ohonom nodau ac amcanion addysgu tebyg.

Gofynnwch i’ch dosbarth beth hoffent ei wybod am fywyd plentyn mewn gwlad arall, e.e. “Sut maen nhw’n teithio i’r ysgol?”, “Sut mae’r tywydd?” I ddechrau, ysgrifennwch restr hir o gwestiynau ac yna eu golygu. Er mwyn helpu’r plant i feddwl am gwestiynau, gallwch chi ddefnyddio Google Maps i fynd â nhw ar ‘daith wib’ o gwmpas ardal eich ysgol bartner. Defnyddiwch y cyfleuster ‘Street View’ i wneud arsylwadau manwl a llunio cwestiynau newydd.

Defnyddiwch eich rhestr derfynol o gwestiynau i greu holiadur a’i anfon at yr ysgol bartner trwy neges e-bost. Peidiwch ag anghofio gofyn iddynt am ffotograffau!

Tra eich bod yn aros am ateb (fe all hyn gymryd amser), treuliwch ychydig wersi’n annog y plant i ateb yr un cwestiynau am eu hysgol a’u hardal nhw. Pan fyddan nhw wedi gwneud hyn, gofynnwch iddyn nhw dynnu ffotograffau, gwneud lluniau a chasglu tystiolaeth i’w defnyddio i ymhelaethu ar yr atebion mewn cyflwyniad.

Ar ôl cael ateb, crëwch gyflwyniad gyda’ch dosbarth gan ddefnyddio meddalwedd fel PowerPoint. Defnyddiwch y templed tudalen sy’n caniatáu i chi osod dau lun ochr yn ochr â’i gilydd. Ychwanegwch y wybodaeth a’r ffotograffau fel bod eich gwybodaeth chi ar un ochr, a gwybodaeth yr ysgol bartner ar yr ochr arall. Anfonwch y cyflwyniad i’ch ysgol bartner neu ei rannu ar-lein www.slideshare.com

Cofiwch y gallwch gysylltu a rhannu gwybodaeth â’ch ysgol bartner trwy Skype, Twitter a Facebook. Mae’r ddau ddull olaf yn fwy ymarferol o lawer ar gyfer cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd a chael gwybod y diweddaraf am yr hyn y mae eich ffrindiau dramor yn ei wneud!

Rydym ni’n hoffi www.photosynth.net hefyd. Defnyddiwch y safle hwn i anfon lluniau panoramig 360˚ o’ch ystafell ddosbarth a’ch ardal at eich ffrindiau yn yr ysgol bartner. Mae enghraifft i’w gweld yn: http://photosynth.net/view.aspx?cid=dba9c819-0c38-44a1-b782-554243b01072. Mae gwers gyfan ar y meddalwedd hwn ar gael yn y gweithgaredd Ein Dosbarth 3D.

Beth sydd ei angen arnaf i?

Gwerth ychwanegol

Er mwyn dysgu am wledydd a diwylliannau eraill a bywydau pobl gyffredin o amgylch y byd, does dim byd gwell na’r math hwn o weithgaredd e-ddysgu. Yn ogystal â’r ffaith bod y dysgu’n gywir, yn gyfredol ac, yn aml, yn digwydd ar unwaith, mae’r math hwn o weithgaredd yn datblygu a gwella dros amser, gan ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu sgiliau dros gyfnod hirach ac at ddiben pwrpasol.

Awgrymiadau

Ceisiwch ddod o hyd i fwy nag un partner rhag ofn na chewch chi ymateb.

Cysylltwch â’r athro yn yr ysgol bartner yn uniongyrchol – yn hytrach na thrwy reolwyr neu weinyddwyr yr ysgol – dros y ffôn neu drwy neges e-bost neu Skype cyn i chi ddechrau gweithio gyda’ch dysgwyr. Bydd athrawon dosbarth yn deall sut bydd eich dosbarth yn teimlo os bydden nhw’n gorfod aros am gyfnod hir i gael ymateb – neu’n waeth fyth, os na chânt ymateb o gwbl.

Diogelwch

Gwnewch yn siŵr fod yr holl ohebiaeth yn cael ei hanfon atoch chi, yr athro. Pwysleisiwch wrth y dysgwyr na ddylent rannu cyfeiriadau e-bost personol ac ati ar y we.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Cipluniau o fywyd yn yr Undeb Ewropeaidd – gofynnwch i’r dysgwyr wneud llun o Ewrop o’u safbwynt nhw, e.e. sut mae’r Undeb Ewropeaidd yn dylanwadu ar eu bywyd pob dydd neu’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Ewropeaidd. Yna, gyda chymorth yr athro, gellir sganio a llwytho’r lluniau ar-lein. Crëwch oriel ar-lein a gofyn i ffrindiau a rhieni roi sgôr i’r lluniau – bydd 3 gwobr: y Llun â’r Sgôr Uchaf, y Llun Mwyaf Artistig/Creadigol, y Llun Mwyaf Doniol.
  • Gwnewch ‘Gacen Nadolig y Byd’. Dewch o hyd i rysáit cacen Nadolig neu gacen ffrwythau. Rhestrwch y cynhwysion (y grawnwin sy’n gwneud syltanas a rhesins, ceirios, gwenith ar gyfer blawd ac ati – hyd yn oed y brandi!). Dewch o hyd i ba wledydd sy’n cynhyrchu’r cynhwysion hyn a chasglwch luniau ohonyn nhw’n cael eu tyfu a’u cynaeafu. Defnyddiwch Prezi neu PowerPoint i wneud cyflwyniad. Rhannwch ef gydag ysgol ym mhob un o’r gwledydd a diolch iddynt am eich cacen!

This post is also available in: English, Dutch, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.