Podlediad Penigamp.

Oedran 7+ oedpodcast to parents

Rhwyddineb **

Trosolwg

Mae creu podlediad sain yn haws o lawer nag y meddyliwch, ac mae’n bosibl ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol. Yn y gweithgaredd hwn, rydym wedi’i ddefnyddio i ddatblygu sgiliau llythrennedd ar yr un pryd â chreu cyfle i wella’r cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol. Mae natur amlddefnydd podledu yn golygu bod y gallu i ddefnyddio meddalwedd golygu sain yn dod yn sgìl allweddol i athrawon.

Disgrifiad

Bydd angen i chi lwytho meddalwedd Audacity i lawr, sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r meddalwedd hwn, mae’r wers ‘Gair am Air’ yn esbonio wrthych sut i’w llwytho i lawr a hanfodion sut i’w ddefnyddio.

Bydd y dysgwyr wedi paratoi sgript yn amlinellu newyddion yr wythnos, gan ddweud wrth eu rhieni yr hyn y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn yr ysgol, beth yw eu gwaith cartref ar gyfer y penwythnos a manylion a dyddiadau unrhyw ddigwyddiadau sydd ar ddod. Gallwch hefyd eu hatgoffa am reolau’r ysgol (dim gemwaith neu’r angen i ddod â chit addysg gorfforol llawn), gan fod rhieni’n gwerthfawrogi hyn yn aml!

Dydych chi ddim eisiau gorfod chwarae gyda’r botwm saib na gorfod golygu’r recordiad terfynol i ddileu camgymeriadau, felly bydd angen i’r disgyblion ymarfer darllen eu sgript cyn recordio. Os ydynt yn eithaf nerfus, gallech chi ymarfer sawl gwaith cyn recordio er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â defnyddio’r microffon ac ati.

Pan fyddwch yn barod i recordio o ddifrif, gwasgwch y botwm recordio a rhowch arwydd distaw i’r plant ddechrau. Byddwch wedi dweud wrthynt am beidio ag oedi na stopio os ydynt yn gwneud camgymeriad, ond i gywiro eu hunain yn ddigyffro ac yn effeithlon – ‘fel maen nhw’n ei wneud ar y teledu!’ Efallai na fydd yn berffaith, ond fe fydd yn annwyl iawn!

Pan fyddan nhw wedi gorffen recordio, gwasgwch y botwm ’Stop’. Ewch i’r ddewislen ffeil a chadw’r recordiad. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw’r metadata hefyd. Teipiwch eich gwybodaeth yn y meysydd priodol, e.e. enwau’r disgyblion, dyddiad y recordiad ac ati. Does dim rhaid i chi wneud hyn ond bydd yn haws o lawer i chi ddod o hyd i’r ffeiliau yn y dyfodol.

Yna ewch i’r ddewislen ffeil unwaith eto a chlicio ar ‘Export as a wav file’ a’i chadw ar eich bwrdd gwaith. Gallwch gopïo’r ffeil hon i gryno ddisg neu gof bach neu ei hatodi i neges e-bost er mwyn ei rhannu gyda’r rhieni. Fodd bynnag, ni fydd y ffeil yn chwarae ar eu cyfrifiaduron oni bai eu bod yn defnyddio Windows.

Os ydych chi am greu podlediad i’w lwytho i dudalen we (fel Moodle neu flog), neu os ydych chi am ei rannu gyda phobl sy’n defnyddio cyfrifiadur Mac, er enghraifft, bydd angen i chi fynd i ‘File’ a chlicio ar ‘Export as MP3’. Fe allai hyn fod ychydig yn drafferthus oherwydd bydd angen datgodiwr ar eich cyfrifiadur i wneud hyn. Mae’n bosibl y bydd hwn eisoes wedi’i osod ar eich cyfrifiadur. Os na, byddwch chi’n cael neges yn dweud bod angen i chi ei lwytho i lawr. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud hyn – mae’n rhad ac am ddim! Fel arall, gallwch chi fynd yn uniongyrchol i http://lame1.buanzo.com.ar/#lamewindl a’i lwytho i lawr eich hun. Pan fyddwch chi wedi gwneud hyn, dylai eich recordiad sain gadw fel MP3. Mae ffeiliau mp3 yn symud yn rhwydd rhwng platfformau gwahanol a gellir eu mewnosod ar wefannau.

Beth sydd ei angen arnaf i?

  • Audacity neu unrhyw fath arall o feddalwedd recordio sain. Mae’n bosibl y bydd meddalwedd o’r fath ar eich cyfrifiadur yn barod ers i chi brynu eich cyfrifiadur personol.
  • http://audacity.sourceforge.net/download/
  • Datgodiwr os nad oes un eisoes wedi’i osod ar eich cyfrifiadur.
  • http://lame1.buanzo.com.ar/#lamewindl
  • Microffon allanol i’w gysylltu â’ch cyfrifiadur. Dydy hyn ddim yn gwbl angenrheidiol os oes microffon eisoes yn rhan o’ch cyfrifiadur, ond  fydd y canlyniadau ddim cystal.

Gwerth ychwanegol

Gwerth ychwanegol y gweithgaredd hwn yw annog dysgwyr i ymchwilio ymhellach i bosibiliadau cyfathrebu ar-lein. Anogwch nhw i drafod pam y gallai’r math hwn o gyfathrebu fod yn well na llythyr traddodiadol, e.e. Mae llythyrau’n mynd ar goll neu’n cael eu defnyddio fel matiau diod – nid felly negeseuon e-bost!

Awgrymiadau

I ddechrau (yn enwedig gyda dysgwyr ifanc), bydd angen i chi roi cyfarwyddiadau iddyn nhw am sut i greu’r mp3 neu wneud hynny drostynt. Bydd dysgwyr yn gallu cwblhau’r broses yn fwy hyderus ymhen dim o dro.

Diogelwch

Byddai rhestr o bethau i’w gwneud a pheidio â’u gwneud yn ddefnyddiol cyn dechrau’r wers. Byddai pethau i’w gwneud yn cynnwys yr holl bwyntiau addysgu cadarnhaol fel siarad yn eglur; byddai’r pethau i beidio â’u gwneud yn cynnwys peidio â chyfeirio at gyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost yn y podlediad.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd

  • Edrychwch ar yr uned ‘Gair am Air’ i gael syniadau am sut i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i rieni am ddatblygiad sgiliau darllen y dysgwyr.
  • Dechreuwch greu darllediadau radio a recordiwyd ymlaen llaw: mae’r dysgwyr yn ysgrifennu sgript, dewis caneuon yr hoffent eu chwarae a threfnu cyfweliadau, e.e. â’r pennaeth.
  • Anogwch y plant i sylwebu ar ddigwyddiadau yn yr ysgol, fel diwrnod mabolgampau.
  • Gallwch chi ei ddefnyddio ym mhob cyd-destun ar gyfer cyfweld.

This post is also available in: English, Dutch, Italian, Spanish, Romanian

Tags: , , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.