Stori@

Round RobinTrosolwg
Mae’r gweithgaredd hwn yn wych ar gyfer gweithio gyda dysgwyr eraill yn yr un dosbarth, rhyngweithio rhwng dosbarthiadau yn yr un ysgol neu hyd yn oed cydweithio â dysgwyr mewn ysgolion eraill, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Defnyddiom ni weithgaredd wedi’i seilio ar ysgrifennu stori, ond gellir ei newid yn rhwydd i ddatblygu genres ysgrifennu gwahanol ar draws y cwricwlwm (llinellau amser, bywgraffiadau ac ati).

Disgrifiad
Yn gyntaf, sefydlwch rwydwaith o ohebwyr sydd am gymryd rhan mewn ysgrifennu stori ar lein. I ddechrau, fe allai fod yn well gennych chi roi cynnig arni gyda grwpiau yn eich dosbarth eich hun neu ddosbarthiadau yn eich ysgol. Yna gallwch ymestyn y gweithgaredd ac ysgrifennu Stori@… fel clwstwr neu grŵp o ysgolion y mae gennych chi gysylltiadau â nhw.

Yn ei hanfod, mae un grŵp o ddysgwyr (mewn parau, grwpiau bach, neu grŵp dosbarth) yn ysgrifennu paragraff agoriadol i stori. Yna maen nhw’n anfon eu paragraff/llinell agoriadol mewn neges e-bost (neu ar Twitter) at y grŵp nesaf yn y cylch. Maen nhw’n ychwanegu’r paragraff nesaf a’i anfon ymlaen. Caiff y stori ei throsglwyddo nifer penodol o weithiau neu nes bydd wedi’i gorffen. Dyma ddarn o enghraifft a gafwyd pan wnaethom ni ysgrifennu’r frawddeg gyntaf.

1. ‘Cerddodd y bachgen i mewn i’r ogof yn araf gan wybod bod rhywbeth erchyll yn ei ddisgwyl yno…”
2. ‘Roedd yr ogof yn oer ac yn ddamp a’i fflachlamp fechan yn ddiwerth yn y duwch dudew…”

Os ydych chi’n sicrhau bod yr holl negeseuon e-bost neu drydar ar gael i bob grŵp yn y cylch, gall dysgwyr ddilyn a rhoi beirniadaeth ar ddatblygiad y stori, gan werthuso cyfraniadau a thrafod cynnydd.
Bydd y cylch yn dod i ben yn naturiol fel arfer. Bryd hynny gallwch gyhoeddi’r stori ar wefan(nau) yr ysgol.

Gall dysgwyr greu cymeriadau gwreiddiol ar gyfer eu straeon ar www.faceyourmanga.com. Gellir argraffu’r rhain cyn i’r dysgwyr ysgrifennu proffiliau ar eu cyfer a’u cynnwys yn eu gwaith ysgrifennu creadigol. Mae faceyourmanga.com yn caniatáu i chi gynhyrchu afatar neu ffugenw, neu greu sgript a’i recordio! Mae’n rhad ac am ddim a does dim angen cyfrif arnoch.

Beth sydd ei angen arnaf i?
Mynediad at gyfrif e-bost neu gyfrif Twitter.
Grwpiau, dosbarthiadau neu ysgolion partner. Os ydych chi’n defnyddio Twitter, bydd y canllawiau diogelwch yn y gweithgaredd Tasg Trydar yn sicrhau mai dim ond defnyddwyr sydd â chaniatâd a gaiff fynediad at y cylch.

Gwerth ychwanegol
Yn ein profiad ni, mae’r math hwn o weithgaredd yn cynyddu brwdfrydedd a chyfranogiad hyd yn oed ymhlith y dysgwyr sy’n amharod i ysgrifennu. Gan fod y pwyslais ar ysgrifennu llinell neu baragraff, gall dysgwyr ganolbwyntio ar ddarn byr iawn heb gael eu llethu gan ‘y darlun mwy’, e.e. plot cyffredinol. Mae’r ymdeimlad o ddisgwyl wrth dderbyn y neges nesaf yn y cylch hefyd yn eu gwneud yn awyddus i ddarllen mwy o’r stori ac ysgrifennu eu cyfraniadau eu hunain. Yn ogystal, mae ffurfio barn am gyfraniadau pobl eraill yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu eu hunain.

Awgrymiadau
Os ydych chi’n penderfynu ysgrifennu stori gydag ysgolion eraill, lluniwch restr o reolau ymlaen llaw, fel ‘mae’n rhaid i’r holl gyfranogwyr ymateb trwy ychwanegu at y cylch o fewn 3 diwrnod’. Bydd hyn yn sicrhau nad yw dysgwyr yn aros am gyfnod hir ar gyfer y rhan nesaf. Hefyd, po fwyaf o bartneriaid y byddwch chi’n eu cynnwys, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i’r neges nesaf gael ei hanfon, felly efallai yr hoffech chi gyfyngu’r cyfranogwyr i 3 neu 4 grŵp.

Os ydych chi’n defnyddio Twitter (sy’n dda iawn am gyfyngu hyd y cyfraniadau), gwnewch yn siŵr eich bod yn sefydlu hashnod ar gyfer y stori fel ei bod yn rhwydd i bobl eraill ddod o hyd iddi, e.e. #cave2013

Diogelwch
Gwnewch yn siŵr fod yr holl ohebiaeth yn cael ei hanfon atoch chi, yr athro. Pwysleisiwch wrth y dysgwyr pa mor bwysig yw peidio â rhannu cyfeiriadau e-bost personol ac ati ar y we.

Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Adroddwch straeon amlgyfrwng ac annilyniannol gyda Voicethread. (Chwiliwch amdano ar Google – mae ar gael yn rhad ac am ddim, ar lefel mynediad o leiaf.)
• Gadewch i’r plant gysylltu rhai o’r geiriau allweddol/geiriau diddorol/geiriau anodd yn y stori â dolenni hyperdestun at fwy o wybodaeth, lluniau neu ffeiliau sain, e.e. seiniau’r môr, seiniau anifeiliaid, stormydd ac ati. Mae hyn yn rhoi tri dimensiwn i’r stori ac yn caniatáu i fwy o blant gyfrannu ati.
• Gludwch y stori derfynol mewn dogfen Word, cadwch hi fel pdf ac yna’i llwytho ar Kindle fel y gall plant eraill ei darllen.
• Defnyddiwch Twitter i ysgrifennu straeon. Mae llawer o awduron a beirdd wedi arbrofi gyda fformat 140 o nodau Twitter i gyflwyno darnau bach o waith er mwyn tynnu sylw pobl at eu gwaith. Efallai bydd athrawon hoffi’r syniad o ofyn i’w disgyblion ddefnyddio eu sgiliau ysgrifennu creadigol ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol mor gyfyngol. Mae’n addysgu disgyblaeth ac eglurder meddwl a gallai rhai plant sy’n cael eu brawychu gan y syniad o ysgrifennu stori hirach deimlo bod hyn yn haws ymdopi ag ef.

This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Spanish, Portuguese, Portugal, Romanian

Tags: , ,

No comments yet.

Leave a Reply

This blog is kept spam free by WP-SpamFree.