Oedran 10–12 oed Rhwyddineb ****
Trosolwg
Comic Life 2 yw ein hoff feddalwedd ar gyfer ystafelloedd dosbarth cynradd. Mae’n un o’r ychydig ddarnau o feddalwedd yn y llawlyfr hwn nad yw’n rhad ac am ddim (mae’n costio £25 ar ôl y cyfnod treialu am ddim) ond mae’n werth pob ceiniog. Mae’n adnodd ardderchog ar gyfer datblygu ysgrifennu cyfarwyddiadau. Mae hefyd yn ffordd wych o gyflwyno’r cysyniadau sy’n gysylltiedig â dilyn amryw gyfarwyddiadau ymarferol, e.e. sut i chwarae newid cadeiriau, rheolau pêl-droed ac ati. Rydym yn hoff iawn o ddefnyddio’r adnodd hwn i gynllunio arbrofion gwyddoniaeth – fel arfer mae’r dasg hon yn un ddiflas i blant, ond maen nhw’n mwynhau defnyddio’r meddalwedd hwn!
Disgrifiad
Ar ôl penderfynu ar gwestiwn ar gyfer ymchwiliad gwyddonol, e.e. “Pa ddiodydd meddal sy’n cynnwys y mwyaf o siwgr?” trafodwch gyda’r dysgwyr beth yw nodweddion stribed cartŵn, e.e. swigod siarad, blychau deialog, delweddau ffrâm fferru (freeze-frame). Os ydy’r dysgwyr yn anghyfarwydd â’r nodweddion hyn, gallech chi roi enghreifftiau o lyfrau comics poblogaidd i blant, e.e. Manga.
Esboniwch eu bod nhw’n mynd i ysgrifennu cynllun a chyflwyno eu hymchwiliad gwyddonol ar ffurf stribed comig. Trafodwch gyda nhw fanteision defnyddio’r genre hwn, e.e. cyfuniad o ddelweddau hawdd eu dilyn a thestun gyda chyfarwyddiadau eglur, syml, difyr a heb fod yn rhy eiriog.
Gyda chymorth y bwrdd gwyn rhyngweithiol, gallwch chi roi tiwtorial cyflym i’r dosbath cyfan ar ddefnyddio’r meddalwedd. Fel arall, gallwch ddefnyddio cyfrifiadur personol a rhoi tiwtorial i grwpiau o ddisgyblion. Neu, oherwydd bod y meddalwedd mor rhwydd ac yn addas i ddechreuwyr, gadewch iddynt roi cynnig arni eu hunain. Bydd y rhan fwyaf o blant 8-10 oed yn gallu ei ddefnyddio’n hyderus ymhen tua 10 munud. Gallwn ni athrawon hyd yn oed ei feistroli mewn tua 20!
Yn y cyfamser, mae’n syniad da gofyn i’r dysgwyr greu bwrdd stori o’u Cartŵn Ymchwiliad Gwyddonol ar bapur. Trwy wneud hyn, gallant benderfynu ar y math o ddelweddau y bydd arnynt eu hangen, ble y bydd angen iddynt roi swigod siarad a blychau naratif, a pha destun y bydd angen iddynt ei gynnwys. Pan fyddant wedi cynhyrchu cynllun effeithiol, dylen nhw ddechrau ei greu yn defnyddio’r meddalwedd a ddewiswyd gennych. (Comic Life yw’r meddalwedd a ddefnyddiom ni, ond mae mathau eraill ar gael hefyd).
Ar ôl iddynt orffen, gallant gyfnewid eu cynlluniau â’u cyfoedion i gael adborth. Os ydych chi wedi gosod meini prawf llwyddiant ar y dechrau, gellir gwneud hyn yn rhwydd iawn ac mae’n arbennig o effeithiol. Dylech chi roi cyfle i’r dysgwyr olygu/ailddrafftio eu gwaith os oes angen.
Beth sydd ei angen arnaf i?
• Papur i wneud drafft o’r cynllun.
• Meddalwedd priodol – fe ddefnyddiom ni Comic Life. Mae’r meddalwedd hwn yn wych, mae ar gael ar gyfer Mac a Windows ac mae am ddim am gyfnod o fis. Wedi hynny mae’n rhaid i chi dalu ffi fach, sef tua £25, sy’n rhad iawn ar gyfer yr hyn a gewch. Ond os gwnewch chi bopeth yr oeddech chi’n bwriadu ei wneud o fewn y mis ni fydd unrhyw dâl.
• Camerâu digidol os yw’r disgyblion am lwyfannu, tynnu ffotograffau a llwytho eu delweddau eu hunain i’w cynnwys yn y cynllun. (Fel arall, bydd angen iddynt gael mynediad at y we i gael gafael ar ddelweddau priodol).
http://comic-life.en.softonic.com/
(Mae plant yn hoff iawn o’r seiniau sïo, slwtshlyd, comig y mae’n eu gwneud wrth iddynt weithio, felly gwnewch yn siŵr fod y seinyddion ymlaen!)
• Gallwch hefyd ddefnyddio rhaglenni fel PowerPoint, naill ai i arddangos tudalennau a grëwyd ar Comic Life neu’n annibynnol i greu cyflwyniad gyda chyfarwyddiadau.
Gwerth ychwanegol
I ni, dyma’r manteision mwyaf a ddaw yn sgil defnyddio rhywbeth fel Comic Life:
• Mae plant nad ydynt yn artistig iawn neu sy’n ei chael hi’n anodd cynhyrchu gwaith ysgrifenedig yn cael boddhad mawr o allu cynhyrchu darn o waith sy’n edrych yn broffesiynol.
• Mae’r rhaglen yn rhwydd iawn i’w defnyddio a gall plant ddechrau arni mewn ychydig funudau. Fydd dim angen llawer o gymorth ar y rhan fwyaf ohonyn nhw. Rydw i wedi defnyddio’r rhaglen gyda phlant 8/9 oed heb orfod rhoi unrhyw gyfarwyddyd iddyn nhw heblaw am gyfle i chwarae â’r meddalwedd am 10 munud gan grwydro o gwmpas yn rhoi cymorth iddynt os oeddent yn cael trafferth. O ddosbarth yn cynnwys tua 20 o blant, doedd dim angen cymorth o gwbl ar o leiaf ddwy ran o dair ohonynt!
I ddechrau, mae’n debygol y byddant ond yn darganfod sut i ddewis templed, llusgo ffotograffau ac ychwanegu capsiynau, swigod siarad a llythrennau. Mae hyn yn iawn. Bob tro y byddant yn defnyddio’r meddalwedd, fe fyddant yn darganfod mwy o swyddogaethau (o dan ‘Details’), ac yn dysgu sut i newid ffontiau, lliwiau ac ati.
• Mae llawer o ffyrdd gwahanol o drosglwyddo’r cynnyrch gorffenedig (yn syth i wefan, fel delweddau i’w cadw ar y cyfrifiadur, trwy neges e-bost ac ati).
• Mae’r meddalwedd yn ddifyr i’w ddefnyddio ac mae’r hyn sy’n cael ei greu yn hwyl i’w ddarllen. Er enghraifft, mae cynllunio ymchwiliad gwyddonol a’i ysgrifennu yn dasg eithaf diflas i blant, ac mae eu hadroddiadau’n dilyn fformiwla ac yn ailadroddus. Mae creu stribed cartŵn yn ffordd newydd a diddorol o gyflwyno eu canlyniadau heb leihau ar y sgiliau cwricwlaidd statudol sydd wedi’u hymgorffori yn y gweithgaredd, e.e. gellir cynnwys ‘nodi newidynnau’ yn y blychau naratif.
Awgrymiadau
Gall plant weithio ar y gweithgaredd hwn mewn parau, (i ddatblygu sgiliau cydweithredu) neu’n unigol os ydych chi am ddatblygu eu gallu i weithio’n annibynnol. Mae hefyd yn dibynnu ar y ddarpariaeth TG yn eich ysgol; os oes gennych chi ddigon o gyfrifiaduron ar gyfer pob dysgwr/pâr o ddysgwyr, gellir trefnu’r gweithgaredd yn eithaf hwylus. Os oes gennych chi un cyfrifiadur personol ar gyfer pob dosbarth, gallech greu amserlen a neilltuo amser penodol i unigolion neu barau.
Mae’r gwaith paratoi wedi’i wneud ymlaen llaw h.y. ffotograffau wedi’u tynnu, cynllun effeithiol wedi’i lunio a phenderfyniadau pwysig wedi’u gwneud. Yn ein profiad ni, gall y rhan fwyaf o blant 10–12 oed gwblhau eu stribed comig mewn 30–50 munud.
Syniadau eraill ar gyfer defnyddio’r meddalwedd
• Llunio dyddiadur o’r hyn maen nhw wedi ei wneud am wythnos.
• Adrodd stori hanesyddol neu lwytho lluniau o gymeriadau hanesyddol ac ychwanegu swigod siarad i ddangos yr hyn y gallent fod yn ei ddweud wrth ei gilydd.
• Disgrifio teimladau ac emosiynau – gall yr athro neu’r plant gasglu lluniau sy’n ‘ysgogi’r meddwl’ (e.e. difrod amgylcheddol, plant mewn ardaloedd rhyfela ac ati) ac yna ychwanegu llun ohonyn nhw eu hunain gyda ‘swigen feddwl’ uwch eu pennau. Dylent gofnodi yn y swigen siarad sut oedd y llun yn peri iddynt deimlo neu feddwl amdano.
• Crynhoi deialog ac ailddweud stori neu ddrama yn eu geiriau eu hunain.
• Gwneud cyflwyniadau prif siaradwr/PowerPoint sy’n dal sylw.
• Dylunio cerdyn enw personol – fe ofynnom ni i blant ysgrifennu eu henw a dewis ffont, lliwiau, cefndir ac ati. Wedi hynny, fe wnaethant eu hargraffu a’u lamineiddio a’u defnyddio i labelu eu droriau.
• Gwneud eitemau o waith graffeg ar gyfer arddangosiadau wal.
• Gadael i’r plant wneud lluniau (gyda phennau blaen ffelt eithaf trwchus fel eu bod yn eglur), ac yna sganio a llwytho eu delweddau i fyny i Comic Life a chreu eu stori eu hunain gyda darluniau.
• Cynrychioli UNRHYW ddigwyddiadau dilyniannol, e.e. grifft broga i frogaod, lindys i ieir bach yr haf ac ati. Rydym ni hefyd wedi’i ddefnyddio mewn dawns – trwy dynnu ffotograffau o ddilyniannau dawnsio gwerin a’u rhoi ar ffurf stribed gydag esboniadau naratif.
• Defnyddio rhai o’r templedi aflinol (non-linear), i wneud posteri i hysbysebu digwyddiadau’r ysgol (mae hyn bob amser yn creu argraff ar rieni!)
• Trafod y templedi eu hunain, e.e. cartwnau stribed, templedi manga, templedi archarwyr. Mae llawer o sgyrsiau diddorol yn bosibl ynglŷn â’r hyn sy’n eu gwneud yn wahanol.
• Ymarferion celfyddyd graffeg ar ddewis ffontiau/lliwiau i gynrychioli lluniau a gweithredoedd, e.e. Pa ffontiau sy’n edrych yn hen ffasiwn? Pa rai y byddech chi’n eu defnyddio i roi teitl ar gyfer llun o gyfrifiadur? Llong ofod? Dinosor? Ffilm arswyd? ac yn y blaen.
• Teipio un gair newydd y maen nhw wedi’i ddysgu (e.e. yr wythnos ddiwethaf, yn y llyfr diwethaf y gwnaethon nhw ei ddarllen ac ati) mewn llythreniad arddangos a’i ymestyn, ei gylchdroi a’i ehangu.
• Siaradwch am drawsffurfiadau mewn mathemateg.
This post is also available in: English, Dutch, German, Italian, Portuguese, Portugal, Romanian
No comments yet.